Ystyrir gan nifer erbyn hyn fod y dyhead cymdeithasol i gael lliw haul bellach yn rhywbeth ffasiynol. Fodd bynnag mi all lefelau uchel o ymbelydredd Uwchfioled (UVR) achosi niwed ac afiechyd i staff neu gwsmeriaid.

Gall problemau iechyd cysylltiedig fod yn rhai tymor byr (e.e. llosg haul, conjunctivitis) a thymor hir (e.e. canser y croen, croen yn heneiddio ymlaen llaw a chataractau).

Mae gwelyau haul wedi eu hail-ddosbarthu fel carsinogen sef yn yr un categori â thybaco ac asbestos. Profwyd fod unrhyw ddefnydd o wely haul cyn 35 oed yn cynyddu'n fawr iawn risg i'r defnyddiwr ddatblygu canser o'r croen yn hwyrach yn eu bywyd, ac amcangyfrifir bod risg canser y croen yn cynyddu hyd at 20% ar gyfer pob degawd y bydd y defnyddiwr yn defnyddio gwely haul hyd at 56 oed.

O ganlyniad i hyn bu i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyflwyno deddfwriaeth, sef Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010, ac y mae hyn yn gwahardd defnydd gwelyau hawl ar gyfer unigolion o dan 18 oed. Fodd bynnag roedd Llywodraeth Cynulliad Cymru am fynd ymhellach ac ar 31ain Hydref 2011 bu iddynt gyflwyno Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2011. Roedd y ddeddf yma'n adeiladu ar yr un wreiddiol ac mi fydd nid yn unig yn cyfyngu ar bobl o dan 18 oed rhag defnyddio gwelyau haul ond mi fydd hefyd yn:

  • gwahardd gwelyau haul di-staff gan sicrhau bod goruchwylydd yn yr eiddo yn ystod oriau agor
  • bydd angen i holl oruchwylwyr fod yn gymwys
  • bydd yn rhaid i bob defnyddiwr dderbyn gwybodaeth iechyd penodol cyn defnyddio'r gwely haul
  • bydd angen gosod posteri A3 mewn lleoliadau penodol o fewn yr eiddo a fydd yn nodi'r risg i iechyd
  • bydd yn rhaid defnyddio rhywbeth i amddiffyn y llygaid bob amser
  • gwahardd defnyddio unrhyw ddeunyddiau gan gynnwys posteri sy'n hawlio bod manteision iechyd i welyau haul

Bydd yr uchod yn briodol i bob eiddo sydd â gwely haul gan gynnwys y rheiny sydd â gwelyau gartref. Gall methiant cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth yma arwain at erlyniad a dirwy o hyd at £5,000.