Gall arddangosiadau tân gwyllt fod yn ddigwyddiadau ysblennydd i'r gymuned, ac os am eu cynnal heb fod rhywbeth yn mynd o'i le, mae'n rhaid i fusnesau a mudiadau sy'n bwriadu arddangos tân gwyllt benodi unigolyn cymwys i fod yn gyfrifol am ddiogelwch yr holl beth. Fel gyda digwyddiadau eraill, wrth gynllunio'n drylwyr ymlaen llaw gellir sicrhau noson ddidrafferth.

Ceir pedwar gwahanol gategori o dân gwyllt:

  • Categori 1 - Dan do: Popwyr parti; cracyrs; celfi theatr; caps ac ati
  • Categori 2 - Tân gwyllt i'r ardd: Y math o rai y mae siopau'n eu gwerthu
  • Categori 3 - Tân Gwyllt i'w Harddangos: Y mathau mwyaf pwerus o dân gwyllt y caniateir eu gwerthu i'r cyhoedd
  • Categori 4 - Tân Gwyllt i'w Harddangos yn Broffesiynol: Dyfeisiau arbenigol i bobl broffesiynol yn unig eu defnyddio

Mae'n rhaid bod lleoliad yr arddangosiad yn weddol fawr, ac yn bell o unrhyw goed, adeiladau, gwifrau uwchben a pheryglon eraill. Wrth arddangos tân gwyllt Categori 3 mae gofyn cadw oddeutu 30 metr rhwng y gwylwyr a'r tân gwyllt. Hefyd, dylid gadael lle y tu ôl i'r safle tanio ac i'r naill ochr a'r llall, er mwyn i falurion y tân gwyllt fedru disgyn i'r ddaear yn ddiogel. Dylech hefyd roi sylw i'r ardal oddi amgylch, gan ystyried pethau fel da byw a llwybrau hedfan awyrennau.

Cynnal arddangosiad tân gwyllt - Y Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch - Cyngor i fudiadau fel clybiau chwaraeon, cymdeithasau rhieni ac athrawon, cynghorau tref a chymuned a thafarndai sy'n cynnal arddangosiadau sy'n debygol o ddenu tua chant o bobl.

Cydweithio i gynnal arddangosiadau tân gwyllt - Y Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch - Canllawiau i ddarparwyr a threfnwyr cymwys sydd â gwybodaeth arbenigol o dân gwyllt ac wedi'u hyfforddi'n briodol. Ceir cyngor ar bethau fel rheoli torfeydd yn ddiogel a beth i'w wneud pe bai rhywbeth yn mynd o'i le. Mae'r daflen hon yn rhoi cyngor ar ddiogelwch i'r rhai hynny sy'n gyfrifol am osod y tân gwyllt a'u tanio, a sut i glirio malurion y tân gwyllt ar ôl yr arddangosiad.

Os ydych chi'n bwriadu cynnal arddangosiad tân gwyllt yng Ngheredigion eleni, bydd yn rhaid i chi hysbysu'r tîm Iechyd a Diogelwch cyn y digwyddiad drwy alw 01545 572105 neu anfon e-bost i envhealth@ceredigion.gov.uk