Os ydych chi’n berchen ar dir ar lan cwrs dŵr neu os oes cwrs dŵr yn rhedeg drwy’ch tir neu oddi tano, rydych yn ‘Berchennog Glannau’r Afon’.

Mae perchnogion tir, preswylwyr a busnesau sydd ag eiddo ar lan afon, nant neu ffos yn debygol o fod yn Berchnogion Glannau’r Afon, ac mae yno gyfrifoldebau’n gysylltiedig â hynny.

Os oes afon neu nant gefngefn ag unrhyw eiddo, perchennog yr eiddo hwnnw fydd perchennog glannau’r afon yn ôl pob tebyg, ac ef neu hi fydd piau’r tir hyd at ganol y cwrs dŵr. Gyda hynny daw rhai hawliau a chyfrifoldebau penodol, gan gynnwys:

Hawliau

  • Derbyn llif y dŵr yn ei gyfaint a’i ansawdd naturiol, heb ymyrraeth ormodol yn hynny o beth
  • Amddiffyn eich eiddo rhag llifogydd o’r cwrs dŵr ac atal glannau’r cwrs dŵr ac unrhyw strwythurau gerllaw rhag erydu

Cyfrifoldebau

  • Sicrhau bod y llif yn mynd heibio heb ei rwystro, ei lygru na’i wyro
  • Cynnal a chadw glannau’r cwrs dŵr a’i wely (gan gynnwys unrhyw goed neu lwyni sy’n tyfu ar y glannau) ynghyd ag unrhyw amddiffynfeydd rhag llifogydd
  • Bydd yn rhaid cael caniatâd y Cyngor neu Gyfoeth Naturiol Cymru cyn adeiladu strwythur newydd sy’n gorgyffwrdd â’r cwrs dŵr neu’n newid llif y dŵr

Rhoddir y cyfrifoldebau hyn ar bobl gyda’r nod o helpu i reoli perygl llifogydd a diogelu’r amgylchedd.

Fe gewch chi fwy o wybodaeth am hawliau a chyfrifoldebau Perchnogion Glannau’r Afon yn nogfen Cyfoeth Naturiol Cymru, Canllaw i’ch hawliau a’ch cyfrifoldebau fel perchennog glannau afon yng Nghymru. Mae’r ddogfen honno hefyd yn rhoi cyngor ar ddod i ddeall perygl llifogydd, cyrsiau dŵr llanw, ceuffosydd, melinau, argaeau, Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr 2000 a’r posibilrwydd o ddynodi strwythurau penodol yn asedau rheoli perygl llifogydd.

Bydd angen i berchnogion glannau’r afon gadw’r cwrs dŵr yn rhydd o unrhyw sbwriel, gwastraff o’r ardd ac unrhyw falurion eraill boed hynny’n falurion naturiol ai peidio. Nid yw gwaredu gwastraff gwyrdd / gwastraff o’r ardd yn arfer derbyniol. Mi all hyn ledu rhywogaethau planhigion ymledol a hefyd llygru’r cwrs dŵr. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cynnig gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd ac y mae gwybodaeth bellach ar y gwasanaeth yma ar y dudalen Gwastraff o’r Ardd.

Mae’n hanfodol cynnal a chadw cyrsiau dŵr cyffredin a’u clirio er mwyn rheoli perygl llifogydd yn lleol, ac os na fyddwch yn sicrhau bod y cwrs dŵr yn llifo’n rhydd, a bod llifogydd yn digwydd o ganlyniad i hynny, gall Cyngor Sir Ceredigion fynnu’ch bod yn gwneud gwaith i gynnal a chadw’r cwrs dŵr a gallai gymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn.

Fodd bynnag, mae’n rhaid i berchennog glannau’r afon gael caniatâd y corff rheoleiddio cyn gwneud unrhyw waith mewn unrhyw gwrs dŵr neu ar y glannau, ar wahân i lanhau a chynnal a chadw yn gyffredinol (er enghraifft, drwy chwynnu neu glirio sbwriel). Am fwy o wybodaeth, ewch i’r dudalen ar Ganiatâd Cwrs Dŵr Cyffredin.

Efallai y bydd yn rhaid cael caniatâd cynllunio hefyd cyn gwneud gwaith ar gwrs dŵr, yn ogystal â chaniatâd amddiffyn rhag llifogydd a chaniatâd cwrs dŵr cyffredin. Holwch y Cyngor i gael gwybod a fydd angen caniatâd cynllunio arnoch cyn gwneud unrhyw waith; efallai y bydd gofyn ichi wneud asesiad o berygl/canlyniadau llifogydd i fynd gyda’ch cais.