Rhywbeth sy’n digwydd yn naturiol yw llifogydd, ond gall eu heffaith fod yn waeth os ceir rheolaeth wael dros y dirwedd a’r amgylchedd naturiol ac adeiledig.

Bydd yno wastad rhyw berygl o lifogydd, ac er mai rhai bach ydyn nhw fel arfer, roedd y llifogydd yng ngogledd Ceredigion yn 2012 ac ar yr arfordir ddechrau 2014 yn dangos mor fawr y gallant fod weithiau.

Ceir amrywiaeth fawr o beryglon o ran llifogydd yng Ngheredigion. Mae gan Geredigion arfordir helaeth, rhwydwaith o afonydd, tir uchel ac isel a llawer o ddyffrynnoedd afonydd, ac wrth gyfuno’r rheiny â’r ardaloedd trefol, gellir gweld fod amrywiaeth o wahanol beryglon o ran llifogydd.

Mae’r prif beryglon yn cynnwys:

  • Dŵr arwyneb – pan fydd hi’n bwrw glaw’n drwm iawn bydd dŵr yn llifo dros dir isel. Gall hyn fod yn waeth os yw’r tir yn rhy wlyb neu’n rhy sych i amsugno’r dŵr, neu pan mae’r system ddraenio’n rhy llawn i fedru dygymod â’r llif
  • Dŵr daear – pan fydd dŵr yn y ddaear yn codi i’r wyneb. Mae llifogydd fel hyn yn dueddol o ddigwydd ar ôl cyfnodau hir o law trwm di-baid, a gall bara am wythnosau, neu fisoedd hyd yn oed
  • Afonydd – pan fydd gormodedd o ddŵr yn llifo i mewn i gwrs dŵr. Caiff afonydd eu rhannu’n ‘Brif Afonydd’ a ‘Chyrsiau Dŵr Cyffredin’. Mae prif afonydd fel arfer yn gyrsiau dŵr mawr, ond gall y categori hwn gynnwys cyrsiau dŵr llai o faint sydd o bwys strategol o ran draenio
  • Yr arfordir – bydd hyn yn digwydd fel arfer pan fydd storm yn peri ymchwydd mawr yn y llanw gan gynyddu’r perygl y bydd lefel y môr yn codi a’r tonnau’n torri drosodd neu’n torri drwy’r amddiffynfeydd. Daw’r perygl mwyaf o lifogydd ar yr arfordir pan fydd storm yn peri ymchwydd ar adeg penllanw
  • Carthffosydd – bydd hyn yn digwydd pan fydd gormodedd o ddŵr yn llifo i mewn i’r carthffosydd neu pan fydd rhywbeth yn blocio pibellau yn y rhwydwaith. Mae’r math yma o lifogydd yn dueddol o ddigwydd yn ystod glaw trwm, pan fydd llif mawr o ddŵr arwyneb yn peri i’r carthffosydd orlifo
  • Priffyrdd – llifogydd yn sgil glaw trwm neu ddraeniau a chwteri’n blocio a gorlifo oherwydd rhwystr neu ormodedd o ddŵr, gan beri i ddŵr gronni mewn pyllau ar y priffyrdd

Dyma pwy ddylech chi gysylltu â hwy mewn perthynas â’r gwahanol fathau o lifogydd:

Llifogydd o Garthffosydd

Dŵr Cymru sy’n berchen ar y rhwydwaith o garthfosydd cyhoeddus ar gyfer dŵr budr a dŵr arwyneb. Os sylwch chi fod carthffos gyhoeddus wedi blocio, wedi gorlenwi neu’n gorlifo, galwch Dŵr Cymru ar 0800 085 3968

Llifogydd o Garthffosydd neu Ddraeniau Preifat

Os bydd eich draeniau neu garthffosydd preifat chi’n gorlifo, chi fydd yn gyfrifol am gyflogi contractwr i fynd i’r afael ag unrhyw rwystr.

Llifogydd ar y Briffordd Gyhoeddus

Pan fydd llifogydd ar y briffordd, neu os bydd cwteri wedi’u blocio, cysylltwch â Chyngor Sir Ceredigion – manylion yma.

Llifogydd o Brif Afon

Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am reoli Prif Afonydd, ac wrth gynnal rhwydwaith o fesuryddion a gorsafoedd monitro ar yr afonydd hynny gallant rybuddio’r cyhoedd pan geir perygl o lifogydd. Os welwch chi fod afon yn gorlifo, cysylltwch â Chyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000.

Llifogydd o Gyrsiau Dŵr Cyffredin

Tra fod cyfrifoldeb statudol gan Gyngor Sir Ceredigion parthed rheoli risg llifogydd, perchnogion glannau’r afon sy’n gyfrifol am gynnal a chadw Cyrsiau Dŵr Cyffredin. Os yw’ch eiddo neu’ch tir chi’n gorwedd ar lan cwrs dŵr, neu’n agos iawn ato, rydych yn berchennog glannau’r afon. Cliciwch ar y tab Cynnal a Chadw Cyrsiau Dŵr i gael mwy o wybodaeth am hawliau a chyfrifoldebau perchnogion glannau’r afon.

Llifogydd o’r Môr

Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n goruchwylio’r perygl o lifogydd o’r môr. Wrth gadw golwg ar gyflwr y môr, data tywydd ac adroddiadau’r Swyddfa Dywydd ar y llanw, gallant ddarparu rhagolygon lleol o ran y tebygolrwydd o lifogydd a’u maint. Os gwelwch chi lifogydd o’r môr, cysylltwch â Chyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000.

Os yw’ch eiddo chi’n sefyll ar rlifdir, neu os credir ei fod mewn perygl o lifogydd, yna dylech gofrestru ar gyfer ‘Floodline’, gwasanaeth sy’n darparu cyngor a gwybodaeth ar lifogydd a rhybuddion llifogydd 24 awr y dydd. Gallwch gofrestru drwy ffonio Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0345 988 1188, neu fynd i’r wefan:

Asiantaeth yr Amgylchedd

Swyddfa Met