Gwasanaeth gwirfoddol yw darparu sachau tywod, ac ni all Cyngor Sir Ceredigion warantu y bydd yn gallu dod â rhai i bobman lle bo angen.

Perchennog yr eiddo sy’n bennaf gyfrifol am amddiffyn yr eiddo hwnnw rhag llifogydd.

Blaenoriaethu

Mewn tywydd garw pan geir perygl mawr o lifogydd, gallwch wneud cais i Gyngor Sir Ceredigion ddod â sachau llawn tywod atoch chi.

Caiff pob cais ei ystyried a’i roi yn nhrefn blaenoriaeth yn ôl y sefyllfa ar y pryd, beth bynnag sy’n achosi’r llifogydd.

Rhoddir blaenoriaeth i’r canlynol:

  • Diogelu bywydau
  • Diogelu pobl agored i niwed, pobl hŷn a phobl fregus
  • Diogelu seilwaith allweddol
  • Diogelu cyfleusterau ac adeiladau allweddol yn y gymuned
  • Diogelu busnesau ac eiddo masnachol

Os oes modd, bydd Cyngor Sir Ceredigion hefyd yn ymateb i geisiadau gan y Gwasanaethau Brys am sachau tywod i ddiogelu eiddo strategol.

Dosbarthu

Pan fydd perygl mawr o lifogydd, bydd Cyngor Sir Ceredigion yn gwneud ei orau glas i ymateb i geisiadau i ddod â sachau tywod i dai pobl lle mae llifogydd ar fin digwydd. Serch hynny, ni fydd hynny’n bosibl bob amser oherwydd maint y galw a/neu’r tywydd.

Fel arfer bydd y Cyngor yn dod â sachau tywod i’r fynedfa at yr eiddo sydd agosaf i’r briffordd.

Ni chaiff aelodau o’r cyhoedd ddod i gasglu sachau llawn tywod o unrhyw un o ddepos Cyngor Sir Ceredigion.

Pan ddarperir sachau tywod, y sawl sy’n eu derbyn a fydd yn gyfrifol amdanynt o hynny ymlaen. Ni fydd Cyngor Sir Ceredigion yn atebol am ble cânt eu rhoi, nac yn gyfrifol am gasglu sachau tywod a chael gwared arnynt.

Cyngor ar Lifogydd

Fe gewch chi fwy o gyngor ar lifogydd a’r perygl llifogydd lle’r ydych chi’n byw ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru: cyfoethnaturiol.cymru. Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth am:

  • Ffyrdd o ddiogelu’ch eiddo rhag llifogydd
  • Lleihau’r difrod posib i’ch eiddo yn sgil llifogydd
  • Offer a gwasanaethau amddiffyn rhag llifogydd
  • Cofrestru gyda gwasanaeth rhybuddion Floodline