Cyfyngiadau Coronafeirws - Canllawiau Llywodraeth Cymru ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus/Tir Mynediad
Hyrwyddo mynediad cyfrifol
Rhannau prysur o Lwybr Arfordir Ceredigion wedi'u cau er lles iechyd y cyhoedd
Mae Ceredigion yn lle arbennig iawn. Mae'r bobl lleol a'r ymwelwyr â'r sir yn gwerthfawrogi'r ardaloedd mynyddig, y dyffrynnoedd a'r aberoedd ynghyd ag arfordir a dyfroedd Bae Ceredigion yn fawr iawn.
Mae Adain Arfordir a Chefn Gwlad y Cyngor Sir yn chwarae rhan allweddol yn y meysydd canlynol:
- hawliau tramwy cyhoeddus a mynediad i gefn gwlad
- diogelu bioamrywiaeth a chefn gwlad
- rheoli'r arfordir a'r môr
Darllenwch dudalennau'r wefan i ddarganfod mwy am amgylchedd naturiol a chyfoethog Ceredigion ac am waith Adain yr Arfordir a Chefn Gwlad.
Dweud Eich Dweud
Os ydych chi wedi cerdded, marchogaeth neu seiclo drwy gefn gwlad Ceredigion, mae'n debygol iawn bod chi wedi defnyddio Hawliau Tramwy Cyhoeddus.
Mae'r rhain yn llwybrau sydd bron bod tro'n croesi tir sydd dan berchnogaeth breifat, ond mae hawl gan aelodau'r cyhoedd eu defnyddio. Maent yn darparu mynediad i gefn gwlad ar gyfer hamdden, iechyd a llesiant.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cynnal a chadw nifer o's llwybrau hyn, a hoffem gael gwybod mwy am sut rydych chi'n eu defnyddio ac, os nad ydych chi'n eu defnyddio, beth y gellir ei wneud i annog mwy o bobl i ddefnyddio'r Llwybrau Cyhoeddus hyn. Os gwelwch yn dda, treuliwch ychydig o funudau'n ateb cyfres o gwestiynau syml.
Cysylltwch
Allech chi gysylltu â ni ar y ffyrdd canlynol:
Ein Ffurflen Cyswllt Ar-lein
Post:
Yr Arfodir a Chefn Gwlad
Cyngor Sir Ceredigion
Penmorfa
Aberaeron
SA46 0PA
Ffôn:
01545 570881
I adrodd problemau ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus rydych yn gallu ymweld â'n tudalen Adrodd Problemau.
Am ymholiadau ynglyn a cynllunio plîs cysylltwch a ecoleg@ceredigion.llyw.cymru
Am ymholiadau ynglyn a cynllunio plîs cysylltwch a bioamrywiaeth@ceredigion.llyw.cymru