Allweddell a Gwybodath Bellach

Er mwyn gweld gwybodaeth ar y map rhyngweithiol megis rhifau'r llwybrau a statws y llwybrau, cliciwch ar hawl dramwy gyhoeddus o'ch dewis a chewch weld tabl sy'n cynnwys y wybodaeth allweddol.

Fel y mae'r ymwadiad yn ei nodi, NID y map rhyngweithiol yw'r Map Diffiniol cyfreithiol. Os ydych yn dymuno gweld y map cyfreithiol, gallwch wneud apwyntiad yn ystod oriau swyddfa (ffôn: 01545 570 881).

Nodir materion a gofnodir ar y rhwydwaith gan ddotiau melyn; cliciwch unwaith ar unrhyw fater ar y map a bydd tabl yn llunio gwybodaeth allweddol.

Mae dodrefn a gofnodir ar y rhwydwaith yn cael eu hadnabod gan eicon baner werdd; cliciwch unwaith ar unrhyw eitem o ddodrefn ar y map a bydd tabl yn llunio gwybodaeth allweddol.

Allweddell a Gwybodaeth Bellach

  • Cod y llwybr e.e. 33/34 – hwn yw'r cyfeirnod unigryw ar gyfer pob hawl dramwy gyhoeddus yn y Sir a dyma'r cyfeirnod y dylid ei ddefnyddio wrth ohebu â'r Cyngor. Rhowch wybod am unrhyw broblemau drwy anfon neges i clic@ceredigion.llyw.cymru
  • Stat_Text – hwn sy'n diffinio statws cyfreithiol llwybr h.y. llwybr troed, llwybrau ceffylau, ac ati. Mae'r diffiniadau i'w gweld drwy fynd at brif tudalen Y Map Diffinniol
  • Categori – gan fod angen i'r cyngor ddefnyddio adnoddau'n effeithiol, mae system flaenoriaethu wedi'i mabwysiadu. Cafodd y system ei chymeradwyo gan y Fforwm Mynediad Lleol a gallwch ei gweld yng Nghynllun Gwella Hawliau Tramwy'r Cyngor. Caiff y system hon ei hadnabod fel y Prif Rwydwaith Llwybrau:-
    • Llwybrau Categori 1 - Llwybrau llinellol strategol e.e Llwybr yr Arfordir a llwybrau allweddol a hyrwyddir megis y llwybr rhwng y Borth a Phontrhydfendigaid sydd ar agor ac ar gael.  Caiff materion i’w trafod eu graddio a delir â nhw yn unol â gofynion safonol a manylder dulliau asesu risg yr Awdurdodau.
    • Llwybrau Categori 2 - Llwybrau a ddylai fod ar agor ac ar gael, er y gallai safon cynnal a chadw y llwybrau fod yn is nag ar gyfer llwybrau categori 1.  Caiff materion i’w trafod eu graddio a delir â nhw yn unol â gofynion safonol a manylder dulliau asesu risg yr Awdurdodau 
    • Llwybrau Categori “2 Brosiect” - llwybrau sydd ar hyn o bryd yn llwybrau Categori 0, ond y cadarnhawyd eu bod o werth arbennig gan ystyried amcanion y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy a chânt eu huwchraddio pryd y bydd adnoddau i gyflawni’r gwaith cyfalaf a refeniw wedi'i amlgyu.
    • Llwybrau Categori 0 - Llwybrau nad ydynt ar y Prif Rwydwaith Llwybrau.  Adolygir materion i’w trafod bob 6 mis gan yr Awdurdod Lleol a’r Fforwm Mynediad Lleol.  Yn dilyn adolygiad, efallai y caiff llwybr ei newid i fod yn llwybr categori 2 gyda’r broblem/problemau yn cael ei/eu gosod ar raglen waith y Parcmyn Ardal; neu penderfynir bod llwybr yn aros yn llwybr categori 0 gyda thirfeddianwyr yn derbyn llythyr yn eu hatgoffa o’u dyletswyddau statudol (os mai cyfrifoldeb y tirfeddiannwr yw’r mater dan sylw)neu fe osodir y llwybr ar restr i’w ychwanegu at y prif rwydwaith pan fo adnoddau yn caniatáu, eto gyda’r tirfeddianwyr yn derbyn llythyr yn eu hatgoffa o’u dyletswyddau statudol (os mai cyfrifoldeb y tirfeddiannwr yw’r mater dan sylw).  Yr ystyriaethau materol wrth benderfynu a ddylid gosod llwybr ar y Prif Rwydwaith Llwybrau yw’r amcanion sydd wedi eu cynnwys o fewn Cynllun Gwella Hawliau Tramwy’r Cyngor, argaeledd a statws llwybrau cyfagos a phwysigrwydd strategol y llwybr yng nghyd-destun y rhwydwaith ehangach.

Noder nad yw'r llwybrau heb rifau wedi'u gosod mewn categorïau ar hyn o bryd.

  • Ardaloedd y Parcmyn e.e. 1,2 neu 3 = y llwybrau sydd yn Ardaloedd y Parcmyn – am ragor o wybodaeth gweler Fapiau Ardaloed y Parcmyn
  • Llwybrau wedi'u hyrwyddo – AWCP= All Wales Coast Path
  • Hyd – caiff yr hyd ei nodi mewn km
  • Cymuned – h.y. Aberystwyth – nodi ym mha ardal y mae'r llwybr
  • Cyfeirnod Cymunedol, newidiadau, Rhif CAMS, Recno, Statws - defnydd mewnol yn unig

GWYBODAETH PWYSIG ARALL

Diogelwch yn gyntaf!

  • Cymerwch ofal mawr ar deithiau'r arfordir
  • Cadwch ar y llwybr ac ymaith oddi wrth ochr y clogwyn
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn barod ar gyfer eich taith gerdded - cynghorir eich bod yn gwisgo dillad sy'n dal dŵr ac esgidiau cadarn
  • Cymerwch ofal ychwanegol pan fydd yn wlyb a/neu yn wyntog
  • Cadwch olwg ar blant a chadwch unrhyw gŵn o dan reolaeth ar bob adeg

Cofiwch ddilyn y Cod Cefn Gwlad:

  • Parchwch – Gwarchodwch – Mwynhewch
  • Byddwch yn ddiogel – cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion
  • Gadewch glwydi ac eiddo fel yr ydych chi'n eu cael nhw
  • Gofalwch a diogelwch planhigion ac anifeiliaid, ac ewch â'ch sbwriel gartref
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn
  • Byddwch yn ystyriol o bobl eraill