Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cynnwys cymdogion sy’n swnllyd neu’n ymddwyn yn ddifrïol, taflu sbwriel a graffiti. Gall achosi i chi deimlo’n ofnus, yn grac ac o dan fygythiad.

Mae Swyddogion Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd a Gwasanaeth Tai’r Awdurdod Lleol a’r Heddlu, ynghyd â sefydliadau eraill, yn cydweithio mewn Partneriaeth Diogelwch Cymunedol i fynd i’r afael â phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Cwynion am sŵn

Mae gan bawb hawl i fwynhad tawel yn ei gartref. Os ydych chi’n teimlo bod sŵn gormodol wedi tarfu ar hyn, er enghraifft cŵn yn cyfarth yn ddi-baid, sŵn yn hwyr y nos o dafarnau neu glybiau neu beiriannau, yna gall yr Awdurdod Lleol ymchwilio i achos y broblem, a gall hyn arwain at gamau yn erbyn y sawl sy’n gyfrifol am y sŵn. I gyflwyno cwyn cysylltwch â thîm Diogelu’r Cyhoedd ar publicprotection@ceredigion.gov.uk.

Os bydd tenantiaid Tŷ Amlfeddiannaeth yn gwneud gormod o sŵn, gall trafferthion godi o ran rheoli’r adeilad, a gallai Gwasanaeth Tai’r Awdurdod Lleol fynd i’r afael â’r mater gyda’r landlord drwy ddefnyddio’r Rheoliadau Rheoli.

Os oes sŵn yn dod o safle trwyddedig neu ryw ddigwyddiad, yna dylech gysylltu ag Adain Drwyddedu’r Cyngor ar 01545 572179 neu e-bostiwch publicprotection@ceredigion.gov.uk.

Perthi uchel

Yn aml gall anghydfodau ynghylch perthi terfyn arbennig o uchel fod yn ddadleuol. Ni all yr Awdurdod Lleol ymwneud â hwy ond o dan amgylchiadau penodol ac ar ôl i chi roi cynnig ar ffyrdd eraill o ddatrys y broblem. Siaradwch â’ch cymydog, defnyddiwch wasanaeth cyfryngu a chadwch gofnodion o bob cam a gymerir. Bydd yn rhaid i chi dalu am unrhyw wasanaeth mae’r Awdurdod Lleol yn ei gynnig.

Cwynion am ymddygiad mewn Tai Amlfeddiannaeth

Os caiff yr Awdurdod Lleol gŵyn am ymddygiad gwrthgymdeithasol o Dŷ Amlfeddiannaeth, byddwn yn mynd i’r afael â hyn trwy landlord a rheolwyr yr eiddo. Mae dyletswydd ar unigolyn sy’n gyfrifol am Dŷ Amlfeddiannaeth i’w reoli’n briodol ac mae hyn yn cynnwys rheoli ymddygiad y tenantiaid. Mae’n rhaid hefyd i denantiaid ymddwyn ‘fel tenantiaid’ a pheidio â rhwystro’r landlord a/neu’r asiant yn eu gwaith priodol o reoli’r eiddo. Mae Gwasanaeth Tai Cyngor Sir Ceredigion yn medru rhoi cyngor i landlordiaid, tenantiaid a chymdogion sy’n cael eu heffeithio gan faterion fel hyn mewn tai amlfeddiannaeth. Cysylltwch â ni os oes arnoch angen cyngor neu gymorth.

Troi allan

Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol fod yn sail i droi tenant allan o adeilad, hyd yn oed os yw’r denantiaeth ond newydd ddechrau. Dylai landlordiaid sydd eisiau cael gwared ar denantiaid gwrthgymdeithasol o’u heiddo geisio cyngor cyfreithiol am y ffordd gywir o wneud hyn.

Landlordiaid sy’n ymddwyn yn wrthgymdeithasol

Os yw’ch landlord yn ymddwyn mewn ffordd fygythiol tuag atoch, edrychwch ar ein tudalennau ar Aflonyddu a Throi Allan yn Anghyfreithlon i gael mwy o wybodaeth.