Ydych chi'n cydymffurfio?

Hoffem atgoffa landlordiaid ac asiantau gydag eiddo yng Ngheredigion neu unrhyw ardal arall yng Nghymru bod pwerau gorfodi Rhentu Doeth Cymru ar waith bellach.

Yn ôl cynllun Llywodraeth Cymru, sy’n helpu i godi safonau yn y sector rhentu preifat, mae gofyn i bob landlord preifat gofrestru ei hun a'i eiddo. Rhaid i Landlordiaid ac Asiantau sy’n gosod neu reoli eiddo gael trwydded yn ogystal.

Ers 23ain Tachwedd 2016 mae’r pwerau gorfodi mewn grym, a gallai landlordiaid ac asiantau nad ydynt yn cydymffurfio wynebu amrywiaeth o sancsiynau gan gynnwys erlyn, Hysbysiadau Cosb Benodedig, atal rhent a gorchmynion ad-dalu rhent.

Mae awdurdodau lleol ledled Cymru, gan gynnwys Cyngor Sir Ceredigion, yn gweithio gyda Rhentu Doeth Cymru i amlygu’r rhai sy’n dal i beidio â chydymffurfio â’r gyfraith. Mae Cynghorau bellach yn erlyn y rheiny sydd wedi methu â chydymffurfio.

Os ydych chi’n landlord neu asiant sydd heb gydymffurfio eto, peidiwch ag oedi. Mae'n bwysig eich bod yn cymryd y camau angenrheidiol nawr i gydymffurfio ac osgoi unrhyw weithredu.

Os ydych chi’n denant ac yn dymuno cadarnhau a yw’ch landlord a/neu asiant yn cydymffurfio, gallwch weld gofrestr gyhoeddus Rhentu Doeth Cymru ar-lein yma: www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/check-register

Os nad yw wedi cofrestru, gallwch gysylltu â Rhentu Doeth Cymru yma: www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/contact

I gael rhagor o wybodaeth am Rhentu Doeth Cymru cysylltwch â www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym neu ffoniwch 03000 133344.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch eiddo rhent preifat yng Ngheredigion, cysylltwch tai@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01545 572105.