Dydych chi byth yn rhy ifanc i ymuno â’r llyfrgell! Rhowch y dechrau gorau i’ch plentyn chi drwy ddod i’ch llyfrgell leol yma yng Ngheredigion a’i helpu i fod yn darllenydd gydol oes. Y cyfan, wrth gwrs, yn rhad ac am ddim!

Rydym yn derbyn llyfrau newydd i’n stoc yn wythnosol, ac mae yna rywbeth at ddant pawb yma – o’r llyfrau stori diweddaraf ar gyfer y plentyn sy’n dechrau darllen ar ei ben ei hun, i lyfrau ffeithiol difyr ar gyfer y plentyn sy’n gwneud ei waith cartref. Mae yna ddewis gwych o lyfrau yn ein casgliadau sy’n addas ar gyfer pob oedran, diddordeb, a gallu darllen. Mae staff gwybodus y llyfrgell yn barod i’ch helpu a’ch cynghori am lyfrau addas i’ch plentyn bob amser, felly peidiwch ag oedi cyn gofyn am help.

Gall pob plentyn gael ei gerdyn ei hun, a gall fenthyg hyd at 20 llyfr YN RHAD AC AM DDIM am fis. Nid oes dirwyon am ddychwelyd llyfrau’n hwyr ar gerdyn plentyn.

Mae rhannu llyfrau, rhigymau a straeon gyda’ch plentyn o oedran ifanc iawn yn llawer o hwyl, ac mae’n helpu’ch plentyn i ddysgu a datblygu nifer o sgiliau newydd, pwysig.

Waeth pa mor ifanc yw eich plentyn chi, mae digon o ddewis ar gael yn eich llyfrgell leol.

  • Llyfrau bwrdd
  • Llyfrau stori a llun
  • Straeon a rhigymau
  • DVD’s

Amser Stori a Chân i Fabanod a Phlant dan 5 oed

Sesiynau hwylus wythnosol yw’r rhain sy’n annog rhannu llyfrau gyda’ch plentyn, gan ddefnyddio caneuon, rhigymau a symudiadau i ddatblygu sgiliau iaith a sgiliau cymdeithasol. Mae rhieni hefyd yn elwa ar y cyfle i wneud ffrindiau newydd drwy ddod i’r sesiynau hwyliog hyn.

Mae Sesiwn Stori'n cael ei chynnal yn Llyfrgell Aberystwyth bob prynhawn dydd Mawrth rhwng 2:00yp - 2:30yp.

Dechrau Da

Rydym yn cefnogi rhaglen Dechrau Da a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Mae hwn yn gynllun cenedlaethol sy’n cael ei gydlynu gan Booktrust Cymru. Rydym yn cydweithio gydag Ymwelwyr Iechyd lleol mewn clinigau babanod er mwyn dapraru pecynnau o lyfrau am ddim i fabanod 7 i 9 mis oed ac i bob plentyn 18-24 mis oed, gan helpu teuluoedd i ddarganfod a mwynhau yr hwyl o rannu llyfrau gyda’i gilydd. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.

Cymraeg i Blant

Mae Cymraeg i Blant Ceredigion yn cynnal nifer o wahanol grwpiau ar gyfer plant, gyda’r nod o hyrwyddo dysgu a defnyddio’r Gymraeg ymhlith plant a’u rheini. Edrychwch ar dudalen Cymraeg i Blant i ddod o hyd i’r sesiwn agosaf atoch chi.

Mae llyfrgelloedd wrth eu boddau gyda babis a phlant bach, a bydd croeso cynnes yma i blant ifanc o bob oed. Mae croeso i famau fwydo o’r fron yn ein holl lyfrgelloedd. Rydym ni hefyd yn gwybod y gall plant fod yn swnllyd weithiau – peidiwch â phoeni, dydy hynny ddim yn broblem yma yng Ngheredigion!

Mae croeso i blant o bob oedran ymuno â Llyfrgelloedd Ceredigion. Mae gan bob llyfrgell ddewis eang o lyfrau stori a gwybodaeth y gallwch chi ddewis o’u plith.

Dyma rai o’r pethau y gallwch chi eu gwneud yn y llyfrgell:

  • Darllen y llyfrau diweddaraf
  • Defnyddio ein dewis eang o lyfrau gwybodaeth er mwyn cael cymorth gyda gwaith cartref, neu eu darllen am hwyl!
  • Gwrando ar eich hoff straeon ar CD
  • Cael mynediad am ddim i e-lyfrau ac i e-lyfrau llafar
  • Benthyca DVD’s (ar gerdyn oedolyn yn unig – bydd rhaid talu ffi llogi bychan am wneud hyn)

Mae croeso i bobl ifanc o bob oedran ymuno â Llyfrgelloedd Ceredigion. Mae gan bob llyfrgell ddewis eang o lyfrau stori a gwybodaeth y gallwch ddewis o’u plith.

Dyma rai o’r pethau y gallwch chi eu gwneud yn y llyfrgell:

  • Darllen y llyfrau diweddaraf
  • Benthyca hyd at 20 llyfr ar y tro
  • Cael mynediad at gasgliad gwych o lyfrau sy’n arbennig ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau / oedolion ifanc
  • Defnyddio ein dewis eang o lyfrau gwybodaeth er mwyn cael cymorth gyda gwaith cartref, neu eu darllen am hwyl!
  • Gwrando ar eich hoff straeon ar CD
  • Cael mynediad am ddim i e-lyfrau ac i e-lyfrau llafar
  • Benthyca DVD’s (ar gerdyn oedolyn yn unig – bydd rhaid i’r oedolyn dalu ffi bychan am wneud hyn)
  • Defnyddio’r cyfrifiaduron a chrwydro’r rhyngrwyd AM DDIM
  • Defnyddio cyfleusterau astudio a byrddau addas ar gyfer cyflawni gwaith cartref

Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i’r peth rydych chi’n chwilio amdano pan fyddwch chi’n ymweld â’r llyfrgell peidiwch â bod ofn holi aelod o staff – rydym yma i’ch helpu!

Digwyddiadau

Bydd y rhan fwyaf o’n llyfrgelloedd yn cynnal digwyddiadau i blant a’u teuluoedd drwy gydol y flwyddyn. Gall y rhain amrywio o ymweliad awdur, sesiynau crefft ar thema’r Nadolig neu Galan Gaeaf i weithgareddau Diwrnod y Llyfr neu Wythnos y Llyfrgelloedd. I wybod beth sy’n digwydd yn eich llyfrgell leol edrychwch ar y dudalen digwyddiadau neu dilynwch dudalen Llyfrgell Ceredigion Library ar Facebook.

Sialens Ddarllen yr Haf

Dyma uchafbwynt blynyddol y Gwasanaeth Llyfrgell i Blant yng Ngheredigion. Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn annog plant o bob oed i fwynhau darllen fel pleser y tu allan i’r ysgol dros wyliau’r haf. Gall plant gymryd rhan mewn her newydd a chyffrous bob blwyddyn, gan ddewis pa lyfrau i’w darllen ac ennill gwobrau gwych ar hyd eu taith ddarllen drwy’r cynllun. Bydd pob plentyn sy’n llwyddo i gwblhau Sialens Ddarllen yr Haf yn derbyn tystysgrif a medal am eu camp. Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn gymorth mawr i gynnal sgiliau darllen eich plentyn dros wyliau’r haf, gan gynyddu hyder y plentyn wrth ddewis, darllen a thrafod llyfrau. Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn gynllun cenedlaethol blynyddol sy’n cael ei gynnal gan y Reading Agency, gyda chefnogaeth yma yng Nghymru gan y Cyngor Llyfrau.

Cyfrifiaduron

Os ydych chi dros 8 oed gallwch ddefnyddio unrhyw un o’n cyfrifiaduron defnydd cyhoeddus, ond mae’n rhaid gofyn i’ch rhiant, gwarcheidwad neu ofalwr lofnodi ffurflen caniatâd yn gyntaf a’i dychwelyd at brif ddesg y llyfrgell. Gallwch gasglu ffurflen yn unrhyw un o’n llyfrgelloedd cyhoeddus. Mae modd i blentyn dan 8 oed ddefnyddio’r cyfrifiaduron hefyd, ond bydd rhaid i oedolyn cyfrifol fod yn bresennol gydag ef neu hi trwy gydol yr amser wrth y derfynell.

Hygyrchedd

Mae croeso i bob plentyn yn ein llyfrgelloedd. Mae’r rhan fwyaf o’n llyfrgelloedd yn darparu mynediad i bobl anabl, llyfrau llafar, llyfrau print bras a llyfrau o ddiddordeb i rieni a gofalwyr plant sydd ag anghenion arbennig. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, holwch aelod o’r staff.