Mae aelodaeth o'r Llyfrgell yn rhad ac am ddim ac nid oes tâl am fenthyca llyfrau, defnyddio cyfrifiaduron, nac am ddefnyddio adnoddau ymchwil. Wrth ymuno â'r Llyfrgell, yr ydych yn ymrwymo i ddychwelyd y llyfrau a fenthycir o fewn cyfnod o amser, neu bydd raid inni godi dirwy.

Polisi Benthyg

Llyfrau

  • hyd at 20 llyfr ar y tro
  • Di-dâl am 4 wythnos
  • Gellir ei adnewyddu hyd at 3 gwaith (os nad oes rhywun arall wedi gwneud cais am y llyfr)

DVD

  • 3 DVD ar y tro, £2.60 y DVD, Consesiynau - £1.40, Cofrestredig Dall/Nam Golwg - Am Ddim
  • Cyfnod benthyg 7 diwrnod
  • Dewis eang o DVD's am £1, 3 DVD ar y tro

CDd

  • 3 CDd ar y tro, £1 yr eitem, Consesiynau - 60c, Cofrestredig Dall - Am Ddim
  • Cyfnod benthyg 2 wythnos

Llyfrau Llafar

  • 3 CDd ar y tro, £1.50 yr eitem, Consesiynau - £1.00, Cofrestredig Dall - Am Ddim
  • Cyfnod benthyg 2 wythnos