Mae’n rhaid i bob Tŷ Amlfeddiannaeth fodloni safonau penodol, p’un a yw wedi’i drwyddedu ai peidio. Mae llawer o’r safonau hyn wedi’u pennu mewn deddfwriaeth a rheoliadau. Mae’r safonau eraill yn angenrheidiol i sicrhau bod yr eiddo’n peri cyn lleied o risg â phosibl i’r preswylwyr.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi llunio Canllaw i Safonau Tai Amlfeddiannaeth i helpu landlordiaid a rheolwyr i gydymffurfio. Mae'r canllaw ar gael o dan yr adran Lawrlwythwyd.

Yn ychwanegol at y canllawiau hyn, gall fod yn ddefnyddiol i chi gael golwg ar y canllaw ‘Yr Eiddo Delfrydol’ sy’n nodi’r math o bethau y bydd swyddog yn chwilio amdanyn nhw pan fydd yn archwilio eiddo o dan y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS).

Os ydych yn bwriadu addasu eiddo’n Dŷ Amlfeddiannaeth, mae’n syniad da i chi ofyn am gyngor cyn i chi gyflawni unrhyw waith.