Hysbysir drwy hyn bod Cyngor Sir Ceredigion wedi cadarnhau dynodiad cynllun trwyddedu ychwanegol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth.
Mae'r Dynodiad yn gymwys i'r Tai Amlfeddiannaeth canlynol (heblaw'r rhai sydd yn esempt o dan yr adrannau perthnasol o Ddeddf Tai 2004):
- Tai Amlfeddiannaeth sy’n cael eu meddiannu gan dri neu ragor o bersonau, sy’n ffurfio tair neu ragor o 'aelwydydd' ar wahân, waeth sawl llawr sydd ynddynt yn y wardiau penodedig canlynol yn unig:
- Aberystwyth Bronglais
- Aberystwyth Canol
- Aberystwyth Gogledd
- Aberystwyth Penparcau
- Aberystwyth Rheidol
- Faenor
- Llanbadarn Fawr Padarn
- Llanbadarn Fawr Sulien
- Tai Amlfeddiannaeth sy'n cael eu meddiannu gan bump neu ragor o bersonau, sy'n ffurfio dwy neu ragor o aelwydydd ar wahân, waeth sawl llawr sydd ynddynt, ac mae'n gymwys i sir gyfan Ceredigion
- Tai Amlfeddiannaeth Adran 257 (Deddf Tai 2004) a grëwyd drwy addasu adeiladau yn fflatiau lle nad oedd yr addasiadau’n bodloni Safonau Rheoliadau Adeiladu 1991 a lle na chawsant eu gwella er mwyn bodloni’r safonau perthnasol ers hynny, ac mae’n gymwys i sir gyfan Ceredigion
Gelwir y cynllun yn Gynllun Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth Ychwanegol Cyngor Sir Ceredigion 2024 (‘y Cynllun’). Caiff y dynodiad ei gadarnhau yn unol ag Adran 56-60 o Ddeddf Tai 2004 a Rheoliad 9 o Reoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006.
Gwnaed y dynodiad yng nghyfarfod Cyngor Sir Ceredigion a gynhaliwyd ar 19 Mawrth 2024. Mae Cymeradwyaeth Gyffredinol Deddf Tai 2004 (Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth Ychwanegol) (Cymru) 2007, a ddaeth i rym ar 13 Mawrth 2007, yn gymwys i’r dynodiad hwn.
Bydd y Cynllun yn dod i rym ar 10 Gorfenhaf 2024 ac, oni chaiff ei ddirymu cyn hynny, bydd yn peidio â bod mewn grym ar 09 Gorfenhaf 2029.
Dylai unrhyw landlord, person sy’n rheoli neu denant y gall ei eiddo fodloni meini prawf y Cynllun hwn ofyn am gyngor gan yr adran Llesiant Cymunedol (Gwasanaethau Oedolion) Cyngor Sir Ceredigion i weld a yw dynodiad y Cynllun hwn yn effeithio ar ei eiddo.
Rhaid i berson sydd â rheolaeth dros neu sy’n rheoli Tŷ Amlfeddiannaeth yn yr ardal ddynodedig wneud cais i Gyngor Sir Ceredigion am drwydded.
Mae unrhyw un sy’n methu â gwneud cais am drwydded yn cyflawni trosedd o dan Adran 72(1) o Ddeddf Tai 2004 a gall gael dirwy ddiderfyn. Caniateir gwneud cais hefyd i’r Tribiwnlys Eiddo Preswyl i wneud Gorchymyn Ad-dalu Rhent sy’n peri iddi fod yn ofynnol ad-dalu hyd at 12 mis o’r rhent a gasglwyd yn ystod y cyfnod pan nad oedd yr eiddo wedi’i drwyddedu.
Rhaid gwneud cais i drwyddedu Tŷ Amlfeddiannaeth ar y ffurf ragnodedig, rhaid iddo gynnwys manylion penodol a rhaid darparu’r ffi ofynnol gydag ef. Mae copi o'r ffurflen gais berthnasol ar gael ar ein tudalen Trwyddedu.
Fel arall i ofyn am ffurflen gais, cysylltwch â'r adran Gwasanaethau Tai, Porth Cymorth Cynner, Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Rhodfa'r Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3UE neu ffoniwch 01545 572105 neu anfonwch e-bost at housing@ceredigion.gov.uk.
Mae copi o’r Dynodiad ar gael ar wefan Cyngor Sir Ceredigion neu cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r dulliau a nodir uchod.