Dyma grynodeb o’r gofynion:

(Mae rheoliadau 1 a 2 yn ymwneud â dehongli a diffinio termau).

3. Darparu gwybodaeth i’r meddianwyr

  • Rhaid arddangos manylion cyswllt y rheolwr mewn lle amlwg

4. Camau diogelwch

  • Rhaid sicrhau bod unrhyw ragofalon tân yn cael eu cynnal a'u cadw a/neu’u bodloni (gan gynnwys cadw allanfeydd tân yn glir)
  • Rhaid cymryd y camau hynny sy'n rhesymol ofynnol i ddiogelu meddianwyr y tŷ amlfeddiannaeth rhag anaf, gan roi sylw i ddyluniad y tŷ, ei gyflwr strwythurol a nifer y meddianwyr

5. Y cyflenwad dŵr a draenio

  • Rhaid sicrhau bod y cyflenwad dŵr a’r system ddraenio’n cael eu cynnal a’u cadw’n briodol

6. Cyflenwi a chynnal nwy a thrydan

  • Peidio â thorri’r gwasanaethau a gyflenwir heb reswm
  • Darparu unrhyw dystysgrifau diogelwch nwy neu drydan i’r Cyngor yn ôl y gofyn
  • Sicrhau bod yr holl osodiadau trydan sefydlog yn cael eu harchwilio a’u profi o leiaf unwaith bob pum mlynedd

7. Cynnal a chadw rhannau cyffredin, gosodion, ffitiadau a chyfarpar

Cadw’r holl rannau cyffredin yn ddiogel ac yn lân, gan gynnwys cynnal a chadw:

  • Cyflenwadau dŵr, nwy a thrydan
  • Cyfleusterau draenio
  • Cyfarpar fel poptai, gwresogyddion, peiriannau golchi a chyfleusterau goleuo a gwresogi a rennir (gan gynnwys cyflenwadau dŵr poeth)
  • Toiledau, baddonau, sinciau a basnau a rennir
  • Cyfleusterau coginio, storio bwyd a gosodiadau eraill a rennir
  • Grisiau, banisters, cynteddau, tramwyfeydd a landins, gan gynnwys gorchuddion llawr
  • Ffenestri a dulliau eraill o awyru
  • Tai allan, cyrtiau blaen, llwybrau, waliau, iardiau a gerddi

8. Cynnal a chadw llety i fyw ynddo

  • Sicrhau bod pob uned lety i fyw ynddi ac unrhyw ddodrefn a gyflenwir gyda’r uned mewn cyflwr glân pan fydd unigolyn yn dechrau meddiannu'r lle a sicrhau ei bod yn cael ei chadw mewn cyflwr da ac mewn cyflwr gweithio glân (ar yr amod bod y tenant yn ymddwyn mewn modd sy’n debyg i fodd y byddai tenant yn ymddwyn)

9. Gwaredu gwastraff

  • Darparu digon o finiau sbwriel (tra mae’n aros i gael ei waredu) i sicrhau nad yw’r sbwriel yn cronni, a gwneud unrhyw drefniadau eraill sy’n ofynnol i waredu’r sbwriel gan roi sylw i unrhyw wasanaeth a ddarperir gan y Cyngor

Os ydych yn rheoli Tŷ Amlfeddiannaeth, dylech wybod beth yw eich cyfrifoldebau cyfreithiol a beth i’w wneud i ofalu am eich eiddo a’ch tenantiaeth.

Gall yr awdurdod lleol ddefnyddio ‘Rheoliadau Rheoli’ (Rheoliadau Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Cymru) 2006) i annog pobl i reoli Tai Amlfeddiannaeth yn dda. Mae’r rheoliadau’n nodi sawl maes lle mae’n rhaid ysgwyddo cyfrifoldeb rheoli. Bydd unrhyw un sy’n methu’n sylweddol â bodloni unrhyw un o’r gofynion hyn yn cyflawni trosedd. Gall yr Awdurdod Lleol archwilio Tai Amlfeddiannaeth ar hap i bennu i ba raddau y maent yn cael eu rheoli ac i erlyn y rheolwr pan fydd tystiolaeth ei fod wedi torri’r rheoliadau’n sylweddol. Gall y Llysoedd bennu dirwy hyd at lefel 5 ar y raddfa safonol (£5,000 ar hyn o bryd).

Ni fydd rheolwyr yn cael eu dwyn i gyfrif am faterion sy’n amlwg tu hwnt i’w rheolaeth, ac mae’r ddeddfwriaeth yn darparu ar gyfer hyn. Mae’r ddeddfwriaeth hefyd yn caniatáu unrhyw amddiffyniad rhesymol am beidio â chydymffurfio.

Yn gyffredinol, mae’r rheoliadau’n trafod y gofynion a ganlyn:

  • rhoi gwybodaeth i’r preswylwyr h.y. rhoi ei enw, ei gyfeiriad a’i rif ffôn i’r holl breswylwyr
  • cadw’r llety’n ddiogel, yn lân ac mewn cyflwr da
  • gwneud yn siŵr bod mesurau a rhagofalon i ddiogelu rhag tân yn cael eu cynnal
  • cynnal cyflenwadau dŵr, draenio, nwy a thrydan diogel
  • cymryd gofal o’r mannau cyffredin, y gosodiadau, y ffitiadau a’r cyfarpar
  • darparu cyfleusterau i waredu gwastraff

Ceir crynodeb o’r rheoliadau isod. I gael mwy o wybodaeth fanwl am y gofynion hyn, ewch i’r dudalen am y Rheoliadau a’r Ddeddfwriaeth lle cewch hyd i ddolenni at y ddeddfwriaeth berthnasol.

Mae’r gofyniad i sicrhau bod cynllun y Tŷ Amlfeddiannaeth yn ddiogel i bob pwrpas yn rhoi dyletswydd ar y rheolwr i sicrhau bod yr holl fesurau diogelwch rhesymol gofynnol yn eu lle cyn i unrhyw un symud i fyw yn y Tŷ Amlfeddiannaeth.

Cyfrifoldebau’r preswylwyr

Yn unol â rheoliad 10, mae’r preswylwyr yn ysgwyddo’r cyfrifoldebau a ganlyn:

  • caniatáu i’r rheolwr gael mynediad rhesymol i’r eiddo i gyflawni unrhyw ddyletswyddau a bennir gan y rheoliadau
  • peidio ag atal y rheolwr rhag cyflawni’i ddyletswyddau cyfreithiol
  • darparu gwybodaeth berthnasol pan fydd y rheolwr yn gofyn amdani
  • storio a gwaredu sbwriel yn briodol yn unol â chyfarwyddyd y rheolwr

Dylai rheolwyr roi gwybod i’r Awdurdod Lleol os ydynt yn credu bod eu tenantiaid yn torri gofynion rheoliad 10.

Gellir pennu gofynion penodol eraill ynghylch rheoli Tŷ Amlfeddiannaeth fel amod mewn trwydded Tŷ Amlfeddiannaeth. Rhaid bodloni’r Awdurdod Lleol hefyd fod trefniadau rheoli addas ar waith er mwyn iddo roi trwydded Tŷ Amlfeddiannaeth.

Os yw’r Awdurdod Lleol yn penderfynu bod rheolwr wedi torri gofynion y rheoliadau rheoli, gall geisio erlyn y rheolwr. Gall hyn arwain at benderfyniad nad yw’r rheolwr yn ‘unigolyn addas a phriodol’ mwyach a gall hyn effeithio ar unrhyw dai eraill sy’n cael eu rheoli gan y rheolwr. Mae dyletswydd ar yr Awdurdod Lleol i sicrhau bod yr eiddo’n cael ei reoli’n briodol. I gyflawni hyn, gallai wneud Gorchymyn Rheoli ar gyfer yr eiddo i drosglwyddo’r cyfrifoldeb dros reoli’r eiddo i’r Awdurdod Lleol.