Beth yw Cynllun Lesio Cymru?

Cynllun peilot a gefnogir gan Lywodraeth Cymru yw Cynllun Lesio’r Sector Rhentu Preifat sydd â’r nod o alluogi mwy o bobl i rentu tai fforddiadwy, o safon, dros gyfnod hir yn y sector rhentu preifat, gyda chymorth i denantiaid.

Mae’n gynllun sy'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth a manteision i’r tenant ac i’r landlord preifat. Y bwriad yw y bydd y denantiaeth yn llwyddiant i’r naill a’r llall.

Mae’r cynllun yn cynnig pecyn llawn i landlordiaid o ran rheoli’r eiddo, gan gynnwys atgyweirio a chynnal a chadw ac incwm rhent wedi ei warantu hyd yn oed pan na fo tenant yn yr eiddo.

Byddwn yn rhoi cymorth parhaus i’r tenant i’w helpu i ddod yn fwy annibynnol a chynnal tenantiaeth lwyddiannus.

Beth all y cynllun ei gynnig i landlordiaid?

Bydd perchnogion eiddo yn elwa ar y canlynol:

  • Lesoedd gyda Chyngor Sir Ceredigion am gyfnodau o 5 - 20 mlynedd, gan ddibynnu ar amodau
  • Taliadau rhent wedi’u gwarantu am hyd y les ar gyfradd berthnasol y Lwfans Tai Lleol
  • Cyngor Sir Ceredigion yn rheoli’r tenantiaethau yn llwyr dros gyfnod y les
  • Hyd at £5000, fel grant, i wella’r eiddo er mwyn sicrhau ei fod o’r safon y cytunwyd arni neu i gynyddu sgôr yr EPC i lefel C. Mae cyllid grant ychwanegol posib o hyd at £25,000 ar gael ar gyfer eiddo gwag
  • Cyngor Sir Ceredigion yn atgyweirio unrhyw ddifrod i'r eiddo
  • Ni fydd perchennog yr eiddo yn gyfrifol am dalu treth y cyngor neu’r biliau
  • Gwarant o gymorth priodol i denantiaid drwy gydol oes y les.

Hoffech chi rentu eich eiddo i ni?

Rydym yn awyddus i lesio eiddo wedi’i ddodrefnu neu heb ei ddodrefnu, am bum mlynedd neu fwy, i ddarparu cartrefi i drigolion Ceredigion.

Mae angen eiddo o wahanol fath a maint arnom ledled prif ardaloedd y sir.

Os byddwch yn lesio eich eiddo i ni bydd angen i chi:

  • Ddarparu tystysgrifau Diogelwch Nwy, Diogelwch Trydan a Pherfformiad Ynni (byddwn ni yn gyfrifol am unrhyw wasanaethu yn ystod cyfnod y les)
  • Darparu Yswiriant Adeiladau (gan gynnwys Atebolrwydd Cyhoeddus)
  • Dangos cadarnhad eich bod wedi gwneud trefniadau yswiriant a chael caniatâd benthyciwr morgais ar gyfer cymryd rhan yn y cynllun
  • Bodloni’r safonau eiddo gorfodol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru (mae grant ar gael i wella eiddo fel ei fod yn cyrraedd y safon y cytunwyd arni)
  • Darparu copi o dystysgrif y Gofrestrfa Tir i gadarnhau perchnogaeth yr eiddo
  • Bod yn gyfrifol am dalu unrhyw daliadau gwasanaeth sy'n gysylltiedig â'r eiddo ac unrhyw waith allanol i'r eiddo.

Nid yw'r rhestr hon yn cynnwys popeth. Cysylltwch â ni i drafod ymhellach.

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

Sector Rhentu Preifat - Cynllun Lesio Cymru,
Dewisiadau Tai a Gwasanaethau Cymorth Tai
Cyngor Sir Ceredigion
Canolfan Rheidol
Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3UE
E-bost: richard.lucas@ceredigion.gov.uk
Ffôn: 01545 572451

Mae rhagor o wybodaeth ar dudalennau Cynllun Lesio Cymru: canllawiau Llywodraeth Cymru.