Er budd pawb, y peth gorau i’w wneud yw cael hyd i denant sy’n hoffi’r eiddo a’r ardal o’i amgylch.

Yn gyffredinol, bydd tenantiaid sy’n aros yn yr eiddo am yn hirach oherwydd eu bod yn hoffi’r eiddo’n fwy tebygol o ofalu amdano a thalu’r rhent mewn pryd.

Dyma rai awgrymiadau er mwyn cael hyd i denantiaid addas ar gyfer eich eiddo chi.

Hysbysebu

Efallai eich bod yn defnyddio gwasanaeth asiant rheoli. Os felly, bydd ganddo gyflenwad parod o denantiaid. Os ydych wedi dewis rheoli’ch eiddo eich hunan, mae asiantau gosod tai ar gael a fydd yn barod i hysbysebu’r eiddo am ffi fach.

Gallech roi arwydd mewn ffenestr siop neu ar hysbysfwrdd llyfrgell, neu gallech hysbysebu mewn papur newydd lleol. Ceisiwch roi darlun ffafriol o’r eiddo, ond byddwch yn onest. O roi manylion am swm y rhent a maint yr eiddo yn yr hysbyseb, ni fydd rhaid i chi wastraffu amser yn dangos yr eiddo i denantiaid anaddas.

Ystyriwch eich marchnad darged ac addaswch eich dull hysbysebu i weddu i’r farchnad honno. Er enghraifft, gallech hysbysebu ar restr eiddo prifysgol, ar hysbysfwrdd ysbyty neu ar safle cyfryngau cymdeithasol.

Byddwch yn realistig ynghylch swm y rhent

Cewch gipolwg ar dai eraill yn yr ardal a chwiliwch am eiddo sy’n debyg i’ch eiddo chi. Os ydych chi’n codi rhent llawer uwch, nid yw’n debygol y byddwch yn ennyn llawer o ddiddordeb. Os yw’ch rhent chi’n uwch oherwydd eich bod yn darparu buddion ychwanegol, fel costau gwres, y dreth gyngor neu fand eang, nodwch hynny’n glir yn yr hysbyseb. Fel arall, ni fyddwch yn debygol o gael llawer o alwadau.

Trefnu i rywun weld y tŷ

Cyn i rywun fynd i weld y tŷ, gwnewch yn siŵr ei fod yn edrych ar ei orau. Gall fod angen i chi dorri’r gwair neu roi cot o baent mewn mannau lle mae ôl traul. Gwnewch yn siŵr bod y lle’n edrych ac yn arogli’n lân. Cyfeiriwch at fanteision yr ardal – er enghraifft, pa mor agos yw hi at siopau neu ysgolion neu pa mor dawel yw hi. Atebwch bob cwestiwn yn onest. Efallai y bydd barn unrhyw ddarpar denant yn wahanol i’ch barn chi beth bynnag. Er enghraifft, os byddwch yn trafod system tanwydd solet, efallai y byddwch chi’n teimlo ei bod yn llafurus, ond efallai y bydd y tenant yn falch oherwydd bod modd iddo gael gafael ar danwydd yn rhwydd. Mae’n llawer gwell bod y tenant yn gwybod am bopeth cyn iddo lofnodi’r cytundeb tenantiaeth, oherwydd bydd yn llai tebygol o gael siom yn ddiweddarach.

Byddwch yn hyblyg ynghylch swm y rhent

Gall fod yn ddrutach colli ychydig o fisoedd o arian rhent (oherwydd bod y tŷ’n wag) na gostwng y rhent £30 y mis. Peidiwch ag ofni gostwng y pris, yn enwedig os ydych yn sicr y bydd y tenantiaid yn gofalu am y tŷ. Byddwch yn gystadleuol.

Ystyriwch ganiatáu anifeiliaid anwes

Mae Ymddiriedolaeth y Cŵn yn canmol rhinweddau gosod tai i bobl ag anifeiliaid anwes. O ganiatáu anifeiliaid anwes, mae’r Ymddiriedolaeth yn honni y byddwch yn cynyddu’r galw am yr eiddo ac yn denu gwell math o denant. Mae hefyd yn awgrymu bod tenantiaid ag anifeiliaid anwes yn aros am yn hirach oherwydd eu bod yn gwybod pa mor anodd yw hi i gael hyd i landlord sy’n barod i dderbyn anifeiliaid anwes.

Ystyriwch osod y Tŷ i Denantiaid Awdurdod Tai Lleol

O ddarparu’ch tŷ ar restr aros Awdurdod Lleol, bydd mwy o denantiaid posibl ar gael i chi. Ni fydd pob tenant ar y rhestr yn cael lwfans tai lleol (budd-dal tai). Mewn rhai sefyllfaoedd, gellir talu’r rhent yn uniongyrchol i chi i sicrhau eich bod yn cael arian rhent yn rheolaidd.

Cadwch y tenantiaid sydd gennych

O drin eich tenantiaid yn dda, maen nhw’n fwy tebygol o’ch parchu chi, gofalu am yr eiddo ac aros am yn hirach. Drwy fynd ati’n gyflym i atgyweirio’r eiddo a thrwy ddarparu ffitiadau ac eitemau sy’n ddeniadol, byddwch yn meithrin tenantiaid hapus. Mae’n hollbwysig meithrin perthynas dda rhwng y landlord a’r tenant er mwyn i’r naill a’r llall fod yn fodlon yn y tymor hir. Beth am roi cynnig ar y camau syml hyn i feithrin y berthynas berffaith?

  • Os ydych yn gosod tŷ wedi’i ddodrefnu, peidiwch â phrynu dodrefn rhad a fydd yn para am flwyddyn yn unig. Buan iawn y byddant yn simsanu
  • Ewch ati i uwchraddio’r eiddo drwy gydol y denantiaeth. Pam aros i rywun adael cyn gosod ffitiadau newydd?
  • Gadewch lonydd i’ch tenantiaid. Mae ganddyn nhw hawl i lonydd i fwynhau’r lle. Does dim angen i chi guro ar y drws am yn ail wythnos
  • Parchwch eu hamser nhw. Peidiwch â disgwyl i’r tenantiaid aros yn y tŷ drwy’r dydd oherwydd bod gweithwyr yn galw. Nid eu lle nhw yw gwneud hynny, ond eich lle chi

I gael mwy o wybodaeth am sut i gadw’ch tenantiaid, cewch gipolwg ar y tudalennau ynghylch cynnal perthynas dda.