Cyfrifoldebau landlordiaid dros atgyweirio a chynnal eiddo:

Mae Rhan 4 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn nodi'r rhwymedigaethau a osodir ar landlord o ran cyflwr annedd. Mae'r rhwymedigaethau hyn yn berthnasol i bob contract meddiannaeth a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd. Mae'n ofynnol i landlord o dan gontract meddiannaeth i sicrhau bod annedd mewn cyflwr da ac yn ffit i bobl fyw ynddi.

Er bod y canllawiau hyn yn rhoi sylw i’r gofyniad i annedd fod yn ffit i bobl fyw ynddi, mae'n bwysig bod landlordiaid hefyd yn deall eu rhwymedigaethau cyflenwol o ran atgyweirio. Yn aml, un o brif achosion annedd sy'n anaddas i bobl fyw ynddi yw lefel cyflwr gwael yr annedd. Gall rhoi sylw i gyflwr gwael yr annedd yn gynnar ac yn effeithiol yn aml atal annedd rhag troi’n annedd anaddas i bobl fyw ynddi.

 

Rhwymedigaeth y landlord i gadw'r annedd mewn cyflwr da

Mae Adran 92 o'r Ddeddf yn nodi rhwymedigaeth y landlord i gadw'r annedd mewn cyflwr da. Mae'r rhwymedigaeth hon yn ymestyn i:

  • strwythur a’r tu allan i’r annedd (gan gynnwys draeniau, landeri a phibellau allanol), a’r
  • gosodiadau gwasanaeth yn yr annedd, megis y rhai:
    • ar gyfer cyflenwad dŵr, nwy neu drydan,
    • ar gyfer glanweithdra, ac
    • ar gyfer gwresogi gofod neu ar gyfer gwresogi dŵr.

Mae'n rhaid i landlord gadw'r annedd mewn cyflwr da bob amser, er y gall fod achosion pan na fydd landlord yn gwybod bod angen gwneud gwaith atgyweirio. Unwaith y bydd y landlord yn ymwybodol o'r angen am waith atgyweirio, rhaid ei wneud o fewn amser rhesymol ac i safon resymol. Mae hyn yn cynnwys y rhwymedigaeth i unioni unrhyw ddifrod a achosir gan atgyweiriadau. Ni all y landlord osod unrhyw rwymedigaeth ar ddeiliad y contract ar gyfer yr atgyweiriadau, er enghraifft cyfrannu at y gost, pan nad bai deiliad y contract yw'r gwaith atgyweirio.

 

Rhwymedigaeth landlord i sicrhau bod annedd yn ffit i bobl fyw ynddi

Mae Adran 91 o'r Ddeddf yn gosod rhwymedigaeth ar landlord i sicrhau, ar ddechrau ac yn ystod cyfnod y contract meddiannaeth, bod yr annedd yn ffit i bobl fyw ynddi. Mae'r rhwymedigaethau hyn wedi'u nodi yn Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022 ("Rheoliadau Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi") Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022 (ar legislation.gov.uk) sy'n nodi'r 29 o faterion ac amgylchiadau y mae'n rhaid eu hystyried wrth benderfynu a yw eiddo yn ffit i bobl fyw ynddi. Yn ogystal, gosodir gofynion penodol ar landlord i helpu i sicrhau nad yw rhai materion ac amgylchiadau yn codi.

Nod y ddeddfwriaeth, sef y Ddeddf a'r Rheoliadau Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi, yw atal, gan sicrhau bod landlordiaid yn cynnal anheddau er mwyn eu hatal rhag bod yn anaddas i bobl fyw ynddynt. Atal unrhyw un o'r 29 o faterion neu amgylchiadau sy'n codi yw'r dull y dylai pob landlord ei ddefnyddio. Mae'r dull hwn yn fwy cost-effeithiol i landlordiaid ond, yn fwy sylfaenol, bydd hefyd yn osgoi'r posibilrwydd o ddeiliaid contract yn byw mewn amodau nad ydynt yn ffit i bobl fyw ynddynt.

Mae p'un a yw eiddo yn ffit i bobl fyw ynddo i'w benderfynu trwy ystyried y 29 o faterion ac amgylchiadau. Dylai p'un a yw'r annedd yn lle addas i fyw ynddi, yn y mwyafrif helaeth o achosion, fod yn glir i'r landlord a deiliad y contract. Yn y pen draw, pan na ellir datrys anghydfod, mater i'r llys yw penderfynu a yw'r annedd yn ffit i bobl fyw ynddi.

Cynghorir landlord sydd â phryderon am ffitrwydd annedd i geisio cyngor proffesiynol cyn rhoi contract meddiannaeth.

Mae Rhan 2 o'r canllawiau hyn yn ymdrin â’r gofynion penodol a osodir ar y landlord fel rhan o'r Rheoliadau Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi, er mwyn helpu i sicrhau nad yw rhai o'r 29 o faterion ac amgylchiadau yn codi. Er enghraifft, er mwyn lleihau'r posibilrwydd o dân a'i effaith, mae'n ofynnol i landlord sicrhau presenoldeb larymau mwg.

Bydd awdurdod lleol yn asesu'r annedd trwy gyfeirio at y materion a'r amgylchiadau hyn a'r dosbarthiadau o niwed a nodir hefyd yn y Rheoliadau HHSRS er mwyn penderfynu a yw perygl Categori 1 neu 2 yn bodoli. Fodd bynnag, nid yw presenoldeb neu ddiffyg presenoldeb perygl fel y nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau HHSRS yn pennu a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi neu beidio yn unol â'r Rheoliadau Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi. Er enghraifft, er y gallai amrywiad bach yn yr arwyneb llawr fod yn berygl o dan y Rheoliadau HHSRS, byddai'n annhebygol iawn ar ei ben ei hun o arwain at benderfyniad nad yw'r annedd yn ffit i bobl fyw ynddi. Yn yr enghraifft a roddir uchod ynghylch y perygl o gwympo ar arwyneb gwastad, tra byddai amrywiad bach yn yr arwyneb llawr yn annhebygol o dorri'r rhwymedigaeth ffitrwydd, gallai archwiliad gan awdurdod lleol ganfod ei fod yn berygl o dan y Rheoliadau HHSRS. Os yw person oedrannus yn byw yn yr annedd, mae'r awdurdod lleol yn debygol o gymryd camau gorfodi yn erbyn y landlord.

 

Rhan 1: 29 o faterion ac amgylchiadau

  1. Lleithder, gwiddon a llwydni neu dwf ffyngaidd: Dod i gysylltiad â gwiddon llwch tŷ, tamprwydd, llwydni neu dwf ffyngaidd.
  2. Oerfel: Dod i gysylltiad â thymheredd isel iawn.
  3. Gwres: Dod i gysylltiad â thymheredd uchel iawn.
  4. Asbestos a ffibrau mwynol a weithgynhyrchwyd: Dod i gysylltiad â ffibrau asbestos neu ffibrau mwynol a weithgynhyrchwyd.
  5. Bioladdwyr: Dod i gysylltiad â chemegion a ddefnyddir i drin pren neu dyfiant llwydni.
  6. Carbon monocsid a chynhyrchion tanwydd hylosgi: Dod i gysylltiad ag— (a) carbon monocsid; (b) nitrogen deuocsid; (c) sylffwr deuocsid a mwg.
  7. Plwm: Llyncu plwm.
  8. Ymbelydredd: Dod i gysylltiad ag ymbelydredd.
  9. Nwy tanwydd nas hylosgwyd: Dod i gysylltiad â nwy tanwydd nas hylosgwyd.
  10. Cyfansoddion organig anweddol: Dod i gysylltiad â chyfansoddion organig anweddol.
  11. Gorboblogi a gofod: Diffyg lle digonol ar gyfer byw a chysgu.
  12. Tresbaswyr yn dod i mewn: Anawsterau wrth gadw'r annedd yn ddiogel rhag mynediad anawdurdodedig.
  13. Diffyg golau digonol.
  14. Sŵn. Dod i gysylltiad â sŵn.
  15. Hylendid domestig, plâu a sbwriel. (1) Dyluniad, cynllun neu adeiladwaith gwael fel ei bod yn anodd cadw'r annedd yn lân. (2) Dod i gysylltiad â phlâu. (3) Darpariaeth annigonol ac anhylan ar gyfer storio a gwaredu gwastraff tŷ.
  16. Diogelwch bwyd – Darpariaeth annigonol o gyfleusterau ar gyfer storio, paratoi a choginio bwyd.
  17. Hylendid personol, glanweithdra a draeniau – Darpariaeth annigonol o— (a) cyfleusterau ar gyfer cynnal hylendid personol da; (b) glanweithdra a draeniau.
  18. Cyflenwad dŵr – Cyflenwad annigonol o ddŵr sydd heb ei halogi, ar gyfer yfed a dibenion domestig eraill.
  19. Cwympo sy'n gysylltiedig â baddonau ac ati – Cwympo sy'n gysylltiedig â thoiledau, baddonau, cawodydd neu gyfleusterau ymolchi eraill
  20. Cwympo ar arwynebau – Cwympo ar arwyneb.
  21. Cwympo ar risiau ac ati – Cwympo ar stepiau, grisiau neu rampiau.
  22. Cwympo rhwng lefelau – Cwympo o un lefel i'r llall (gan gynnwys disgyn o uchder).
  23. Peryglon trydanol – Dod i gysylltiad â thrydan.
  24. Tân – Dod i gysylltiad â thân heb ei reoli a mwg cysylltiedig.
  25. Fflamau, arwynebau poeth ac ati – Dod i gysylltiad â — (a) tân neu fflamau o dan reolaeth; (b) gwrthrychau, hylif neu anweddau poeth.
  26. Taro yn erbyn neu fynd yn sownd – Darnau o’r corff yn taro yn erbyn neu’n mynd yn sownd mewn drysau, ffenestri neu nodweddion pensaernïol eraill.
  27. Ffrwydradau – Ffrwydrad yn yr annedd.
  28. Safle amwynderau a’u gweithrediad ac ati – Safle, lleoliad a gweithrediad amwynderau, ffitiadau ac offer.
  29. Dymchwel strwythurol ac elfennau’n disgyn – Yr annedd gyfan neu ran o’r annedd yn dymchwel gan gynnwys elfennau sy'n disgyn.

 

Rhan 2: gofynion y landlord

Yn ogystal, mae'r Rheoliadau Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi yn gosod gofynion penodol ar landlordiaid i helpu i atal rhai materion ac amgylchiadau rhag codi. Pan fydd landlord yn methu â chydymffurfio â'r gofynion hyn, mae'r annedd i'w thrin fel pe na bai'n ffit i bobl fyw ynddi. Mae tri gofyniad wedi'u gosod ar y landlord:

  • sicrhau presenoldeb larymau mwg sy’n gweithio'n iawn
  • sicrhau presenoldeb synwyryddion carbon monocsid sy’n gweithio'n iawn
  • sicrhau bod y gosodiad trydanol yn cael ei archwilio a'i brofi

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: Ffitrwydd tai i fod yn gartref: canllawiau i landlordiaid [HTML] | LLYW.CYMRU

 

Cyfrifoldebau landlord am Gofrestru a Thrwyddedu

Bellach mae'n ofynnol i bob landlord yng Nghymru gofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru ac os ydyn nhw'n landlordiaid sy’n rheoli, i gael trwydded, neu i enwebu asiant gyda thrwydded.  I gael mwy o wybodaeth am hyn, ewch i'n tudalen Rhentu Doeth Cymru.

Tai Amlfeddiannaeth: Mae gofynion arbennig yn berthnasol i’r mathau o eiddo a elwir yn Dai Amlfeddiannaeth. Mae landlordiaid ac asiantau’n ysgwyddo cyfrifoldebau arbennig. Bydd angen trwyddedu rhai Tai Amlfeddiannaeth. Cewch hyd i ganllawiau manwl am ofynion trwyddedu ar y tudalen Tai Amlfeddiannaeth.

Dyletswyddau Rheolwyr Tai Amlfeddiannaeth: Yn unol â Rheoliadau Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Cymru) 2006 a 2007, mae rheolwr Tŷ Amlfeddiannaeth yn ysgwyddo dyletswyddau penodol. Os na fydd yn cydymffurfio â’r rheoliadau, bydd yn cyflawni trosedd. O’i gael yn euog, gall gael dirwy o hyd at £5,000. Cewch hyd i fanylion y Rheoliadau Rheoli, gan gynnwys dyletswyddau penodol y preswylwyr, ar y tudalen Cyfrifoldebau Rheoli.

Tystysgrifau Perfformiad Ynni

Rhaid i Landlord ddarparu Tystysgrif Perfformiad Ynni i ddarpar denantiaid. Mae'r Dystysgrif Perfformiad Ynni yn ddilys am ddeng mlynedd. Os bu newidiadau sylweddol i eiddo a fyddai’n cael effaith ar y Dystysgrif Perfformiad Ynni gall y landlord ddewis comisiynu un newydd, ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny.

Mewn eiddo rhent preifat domestig mae Isafswm y Safonau Effeithlonrwydd Ynni bellach yn berthnasol i bob tenantiaeth.  Rhaid i'r Dystysgrif Perfformiad Ynni ddangos isafswm gwerth sgôr E. Os yw'r eiddo yn F neu G yna ni chaniateir i'r landlord osod yr eiddo ar rent, oni bai ei fod wedi'i gofrestru fel eithriad.  Mae dirwyon sylweddol i landlordiaid os na chyflawnir y rheoliadau Effeithlonrwydd Ynni.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y llywodraeth.