Cynllun Inswleiddio Prydain Fawr (GBIS) Flex
Yng nghyllideb yr Hydref yn ddiweddar, cadarnhaodd Llywodraeth y DU y bydd cynllun ECO4 yn dirwyn i ben ar 31 Mawrth heb amnewid dilynol yr ECO5. O ganlyniad i hyn, cyllid cyfyngedig sydd ar gael trwy gynlluniau ECO4 a GBIS Flex, ac nid oes gan rai o Ddarparwyr ECO cymeradwy sy’n cyflawni’r cynlluniau yng Ngheredigion fynediad at gyllid. Mae’r Cyngor yn llwyr ymwybodol fod y newyddion hwn yn siomedig ac annifyr, yn enwedig pan fo trigolion yn dibynnu ar gefnogaeth ECO i wella cynhesrwydd, pa mor gysurus ac effeithlonrwydd ynni eu cartrefi. Carwn eich sicrhau nad yw hwn yn benderfyniad a wnaed gan Gyngor Sir Ceredigion ond mae’n ganlyniad o ansicrwydd ar lefel cynllun cenedlaethol a rheoleiddio. Mae'r Cyngor yn ymgysylltu'n weithredol â'i Ddarparwyr ECO ac yn monitro’n agos diweddariadau gan Ofgem a'r Adran Diogelwch Ynni a Sero Net yn agos (DESNZ).
Mae DESNZ yn bwriadu disodli ECO4 gyda'r Cynllun Cartrefi Cynnes, a thrwy hynny ddisodli cynlluniau a ariennir trwy filiau ynni a dod â'r rhwymedigaeth cyflenwr i ben. Trwy'r Cynllun hwn, mae DESNZ yn ymrwymo cyllid grant ychwanegol a fydd yn cael ei gyfeirio at uwchraddio aelwydydd incwm isel, o fudd i'r rhai mewn tlodi tanwydd. Bydd manylion hyn yn cael eu nodi yn y Cynllun ac mae disgwyl iddo gael ei gyhoeddi gan DESNZ cyn bo hir. Mae Llywodraeth y DU yn parhau i fod yn ymrwymedig i'w Gynllun Cartrefi Cynnes, gyda’r gobaith y bydd yn cynnwys gweithio gydag awdurdodau lleol.
Beth yw Cynllun Inswleiddio Prydain Fawr (GBIS)?
Mae GBIS yn parhau â ffocws ECO4 ar leihau tlodi tanwydd a biliau ynni ond ei nod yw gosod mesurau effeithlonrwydd ynni yn gyflym i gronfa ehangach o aelwydydd yn y cartrefi lleiaf effeithlon. Mae'r cynllun yn canolbwyntio'n bennaf ar gyflwyno mesurau sengl (yn hytrach nag ôl-ffitio tŷ cyfan) ac mae'n cynnwys y gwahanol fathau o insiwleiddio megis inswleiddio atig ac inswleiddio waliau solet. Mae'r cynllun yn rhedeg tan 31 Mawrth 2026.
Beth yw GBIS Flex?
Drwy feini prawf cymhwysedd y prif gynllun, gall aelwydydd fod yn gymwys os ydynt yn derbyn budd-daliadau penodol. Mae elfen cymhwysedd hyblyg (Flex) y cynllun i’w defnyddio gan Awdurdodau Lleol ac mae’n darparu llwybrau amgen i nodi aelwydydd cymwys. Mae hyn yn galluogi Awdurdodau Lleol sy’n cymryd rhan i atgyfeirio aelwydydd y maent yn ystyried eu bod yn byw mewn tlodi tanwydd neu ar incwm isel ac yn agored i effeithiau byw mewn cartref oer, ond nad ydynt efallai’n gymwys ar gyfer y cynllun drwy’r meini prawf cymhwyster safonol.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cymryd rhan yn ECO4 Flex a GBIS Flex ac felly gall wneud atgyfeiriad ar y cyd ar gyfer ECO4 Flex a Great British Insulation Scheme Flex, gan fod y meini prawf cymhwysedd yn debyg. Os bydd cyflenwr yn penderfynu bwrw ymlaen â’r atgyfeiriad, bydd asesydd ôl-osod yn pennu pa rai o’r cynlluniau sy’n addas, a’r mesurau penodol a fyddai o fudd i’r eiddo.
Rôl y Cyngor
Nid yw'r Cyngor yn gyfrifol am gyrchu cyllid cynllun ECO4/GBIS nac am drefnu gosod unrhyw fesurau. Cyngor Sir Ceredigion sy'n gyfrifol am benderfynu pwy fydd yn gymwys ar gyfer ECO4/GBIS Flex yn y sir. Bydd hyn yn cael ei sefydlu ar sail y wybodaeth a ddarparwyd yn y ffurflen gais ynghyd â'r dystiolaeth ategol.
Sut i Wneud Cais
Mae'r broses ymgeisio, y meini prawf cymhwyster, rhwymedigaethau, anghydfodau, darparwyr/gosodwyr, ac ati ar gyfer GBIS Flex yr un fath ag ar gyfer ECO4 Flex. Ewch i tudalen Cyllid ECO4 Flex i ddarllen am y rhain ac i wneud cais.