​Gall perchnogion eiddo wneud cais i gael benthyciad o hyd at £25,000 i atgyweirio, i adnewyddu neu i uwchraddio’u cartrefi.

Pa waith y mae’r grant hwn yn berthnasol iddo?

Rhaid i’r gwaith a gyflawnir gyda’r benthyciad hwn gyfrannu at greu cartref Cynnes, Saff neu Ddiogel. Nid yw’n ofynnol i’r eiddo fodloni pob un o’r meini prawf hyn. Gall y benthyciad dargedu un elfen allweddol yn unig.

Mae’r Benthyciadau Gwella Cartrefi ar gael i gefnogi’r elfennau a ganlyn:

  • Tai sy’n is na’r safon (Peryglon Categori 1 / Categori 2 / Safon Ansawdd Tai Cymru)
  • Atgyweirio, Diogelwch Tân neu Ddiogelwch
  • Cartrefi Gwag (Adnewyddu / Addasu)
  • Effeithlonrwydd Ynni (Ychwanegu at Rwymedigaeth Cwmni Ynni)
  • Cynlluniau Atgyweirio Grŵp / Cynlluniau Amlen
  • Y Sector Rhent Preifat (Cynlluniau Mynediad)
  • Cymhorthion ac addasiadau ar gyfer pobl hŷn neu bobl anabl neu daliad atodol at y Grant Cyfleusterau i’r Anabl

Nid yw hon yn rhestr gyflawn. Os yw’r gwaith yn cyfrannu at greu cartref cynnes, saff neu ddiogel, bydd yn cydweddu â thelerau’r cynllun.

Bydd un o swyddogion yr Awdurdod Lleol yn penderfynu pa waith sy’n gymwys drwy archwilio’r eiddo. I drefnu i swyddog ymweld â chi i drafod y benthyciad, cysylltwch â ni drwy ffonio 01545 572185.

Pwy sy’n gymwys?

Gall unrhyw un sy’n berchen ar gartref sy’n is na’r safon wneud cais am fenthyciad, gan gynnwys:

  • Perchen-feddianwyr
  • Landlordiaid
  • Datblygwyr
  • Elusennau / y Trydydd Sector

Bydd yr Awdurdod Lleol yn rhoi blaenoriaeth i berchentywyr a landlordiaid. Fel arfer, bydd yn rhoi blaenoriaeth i landlordiaid sy’n bwriadu gosod yr eiddo am rent fforddiadwy / canolradd neu landlordiaid sy’n cynnig eu tai ar gyfer tai cymdeithasol neu hawliau enwebu yn hytrach na landlordiaid sy’n gosod eu tai ar y farchnad agored.

Rhaid bod yr ymgeisydd yn gallu fforddio ad-dalu’r benthyciad neu rhaid bod modd iddo ad-dalu’r benthyciad ar y dyddiad dyledus. Byddwn yn cyflawni gwiriad fforddiadwyedd i sicrhau bod modd i’r ymgeisydd ad-dalu’r benthyciad.

Rhaid i’r ymgeiswyr fodloni’r gofynion a ganlyn:

  • Rhaid nad oes ganddynt hanes credyd gwael a all gynnwys:
    • Dyfarniad Llys Sirol (CCJ)
    • Trefniadau Gwirfoddol Unigol (IVAs)
    • Gorchymyn Gostwng Dyled (DRO):
  • Rhaid nad ydynt wedi bod yn fethdalwyr (o fewn y 6 mlynedd diwethaf)
  • Rhaid nad oes ganddynt gwmni sy’n mynd drwy / sydd wedi mynd drwy broses ansolfedd / datodiad
  • Rhaid nad oes arnynt unrhyw ddyled i’r Awdurdod Lleol pan fyddant yn cyflwyno’u cais

Faint o arian y byddaf yn ei gael?

Gellir cyflwyno cais am fenthyciad o rhwng £1,000 a £25,000 ar gyfer pob uned y gellir byw ynddi. Byddwn yn penderfynu ar swm y benthyciad ar sail cost y gwaith. Felly, bydd angen i chi gyflwyno dyfynbrisiau ar gyfer y gwaith fel rhan o’ch cais.

Bydd yr Awdurdod Lleol hefyd yn ystyried a ydych yn gallu fforddio’r benthyciad. Efallai y bydd yn addasu swm y benthyciad i adlewyrchu’r hyn y mae’n realistig disgwyl i chi ei ad-dalu.

Gallwch wneud cais am fenthyciad o hyd at £150,000 (er enghraifft i addasu annedd yn fflatiau).

Ar yr amod na fyddwch yn methu ad-daliad, bydd y benthyciad yn ddi-log. Os na fyddwch yn ad-dalu’r benthyciad neu os byddwch yn torri unrhyw un arall o’r amodau, bydd rhaid ad-dalu’r benthyciad i gyd a bydd llog yn ddyledus ar y swm sy’n weddill. Bydd y llog yn ddyledus fel y nodir yn y Cytundeb Cyfleuster Benthyca. (Ar hyn o bryd, codir llog ar gyfradd sylfaenol Banc Lloegr plws 5%.)

Mae yna un ffi gweinyddu ynghlwm wrth ddarparu’r benthyciad. Mae swm y ffi fel a ganlyn:

Berchen-feddianwyr

  • Benthyciad i fynnu at £5000 – ffi o £ 650
  • Benthuciad £5001 - £25,000 – ffi o £1000

Os na fydd Grant Ffioedd Cais Benthyciad ar gael, bydd uchafswm o £500 yn cael ei godi i'r ymgeisydd.

Landlordiaid

  • Benthyciad i fyny at £10,000 - ffi o £1025
  • Benthyciad £10,001 - £25,000 - ffi o £1540
  • Benthyciad dros £25,000 - ffi o £2255

Bydd y ffioedd hyn ar gyfer landlordiaid yn cael eu hepgor os yw'r eiddo yn cael ei gynnig i'w rhentu ar gyfradd y Lwfans Tai Lleol am gyfnod y benthyciad, ac mae'r landlord yn rhentu'r eiddo i denantiaid o Gofrestr Tai Fforddiadwy'r Cyngor neu fel arall yn denant a fyddai'n gymwys i fod ar y Gofrestr hon.

Sut y byddaf yn trefnu’r gwaith?

Gall yr Awdurdod Lleol ddarparu gwasanaeth goruchwylio gwaith adeiladu i sicrhau bod safonau’r saernïaeth yn gyson a bod y gwaith yn cael ei gyflawni’n brydlon. Gall y gwasanaeth goruchwylio fesur yr eiddo i lunio cynllun gwaith, gan gynnwys lluniadau lle bo angen, cael gafael ar ddyfynbrisiau, gan gynnwys ar gyfer unrhyw gyfarpar arbenigol, a datrys unrhyw broblemau pan fyddant yn codi. Gall yr ymgeisydd ddewis defnyddio’r gwasanaeth hwn, a hynny am dâl o 10%. Fel arall, gall drefnu i’w gontractwyr ei hun gyflawni’r gwaith.

Yn yr un modd â’r ffi weinyddu, gall fod grant ar gael i berchen-feddianwyr i dalu am gost y gwasanaeth goruchwylio, yn ddibynnol ar y cyllid sydd ar gael.

Amodau’r benthyciad, gan gynnwys y trefniadau ad-dalu

  • Dylid cwblhau’r gwaith cyn pen 12 mis ar ôl i’r cais gael ei gymeradwyo, oni cheir caniatâd fel arall
  • Caiff y taliadau’u gwneud ar ôl i’r arian gael ei wario, a hynny pan fydd anfoneb wedi dod i law a phan fydd y gwaith wedi’i archwilio
  • Bydd angen ad-dalu’r arian a ddarperir drwy’r cynllun hwn yn llwyr os caiff yr eiddo’i drosglwyddo neu’i werthu
  • Yr Awdurdod Lleol fydd yn pennu symiau’r benthyciadau a’r amserlenni ad-dalu. Bydd gofyn ad-dalu isafsymiau (£50 y mis i berchen-feddianwyr a £100 y mis i landlordiaid)
  • Rhaid i’r ymgeisydd gytuno i ad-dalu’r benthyciad yn fisol drwy Ddebyd Uniongyrchol
  • O ran benthyciadau hyd at £5000, byddwn yn cofrestru pridiant tir lleol yn erbyn yr eiddo a fydd yn rhwymo’r ymgeisydd ac unrhyw olynwyr yn y teitl. Caiff y pridiant hwn ei gofrestru ar y gofrestr pridiannau tir lleol ac yna caiff ei gofrestru â’r Gofrestrfa Tir
  • O ran benthyciadau dros £5000, caiff Pridiant Cyfreithiol ei gofrestru â’r Gofrestrfa Tir. Bydd yn rhwymo’r ymgeisydd ac unrhyw olynwyr yn y teitl
  • Bydd rhaid dechrau ad-dalu’r benthyciad ar y 15fed o’r mis llawn cyntaf ar ôl i’r taliad olaf gael ei wneud, a hynny ar sail penderfyniad yr Awdurdod Lleol
  • O fethu ad-daliad, bydd angen ad-dalu’r swm sy’n weddill yn llwyr, a bydd rhaid talu llog fel y nodir yng Nghytundeb y Benthyciad
  • O fethu ad-daliad, bydd rhaid ad-dalu unrhyw grant a ddyfarnwyd hefyd i dalu am y ffioedd

Achosion lle mae amheuaeth o dwyll neu ddichell – Mae’n bolisi gan yr awdurdod i fynd i’r afael ag achosion lle mae amheuaeth o dwyll neu ddichell, cael hyd iddynt ac ymchwilio iddynt.