Os byddwch yn dewis cyflogi CP gan ddefnyddio eich Taliad Uniongyrchol, bydd gofyn i chi ystyried rhai pethau.  Ceir gofynion cyfreithiol ac arfer da cyffredinol y bydd gofyn cydymffurfio â nhw, megis:

  • Cadw cofnodion
  • Defnyddio cyflogres a darparu pensiynau pan fo hynny'n berthnasol
  • Darparu tâl gwyliau a chadw cofnod o hyn
  • Sicrhau bod yswiriant cyflogwr ac atebolrwydd cyhoeddus yn ei le
  • Arfer recriwtio diogel e.e.  archwiliadau hawl i weithio ac archwiliadau DBS
  • Iechyd a diogelwch
  • Mynediad i hyfforddiant
  • Darparu contractau cyflogaeth

Fodd bynnag, gall y Swyddogion Cymorth Taliadau Uniongyrchol roi'r cymorth a'r wybodaeth angenrheidiol i chi mewn perthynas â'r holl bethau uchod.  Nid ydych ar eich pen eich hun yn y rôl newydd hwn, rydym yma i'ch cynorthwyo a'ch tywys trwy'r cam o ddod yn gyflogwr.

Ceir gwybodaeth bellach am rôl y cyflogwr, ynghyd ag astudiaethau achos, ar hyb Gofal Cymdeithasol Cymru.

Gallwch siarad â'r tîm Taliadau Uniongyrchol hefyd i gael gwybod mwy (nodwch y rhif ffôn)

Hyfforddiant

Bydd angen i chi ystyried pa hyfforddiant y bydd ei angen ar eich CP efallai.

Ceir nifer o gyfleoedd i fanteisio ar hyfforddiant, trowch at ein tudalen hyfforddiant am ragor o wybodaeth.