Beth yw Cynorthwyydd Personol?

Gellir cyflogi Cynorthwyydd Personol gan ddefnyddio arian Taliad Uniongyrchol er mwyn helpu i gynorthwyo a galluogi dinasyddion.  Gall eich rôl fod yn amrywiol, dyma rai syniadau ynghylch y ffordd y bydd gofyn cael cymorth efallai:

  • Cymorth i fanteisio ar wasanaethau e.e.  gweithgareddau cymdeithasol a hamdden
  • Hyrwyddo annibyniaeth
  • Cymorth wrth baratoi prydau a chyflawni tasgau o gwmpas y tŷ
  • Manteisio ar gyfleusterau a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus

Nod y rôl yw cynorthwyo dinasyddion i gyflawni eu nodau.

Gall dinasyddion sy'n cael Taliadau Uniongyrchol ddewis recriwtio CP.  Mae hyn yn golygu y bydd y dinasyddion sy'n dewis gwneud hynny yn eich cyflogi chi.  Bydd ganddynt yr un cyfrifoldebau ag y bydd gan unrhyw gyflogwr arall.  Byddant yn defnyddio darparwr cyflogres hefyd er mwyn sicrhau bod eich taliadau Talu wrth Ennill yn gywir ac yn cydymffurfio â gofynion CThEM.

Mae bod yn gyflogedig yn golygu y bydd gennych chi yr un buddion ag y bydd gan unrhyw gyflogai arall, fel yr hawl i gael gwyliau blynyddol, absenoldeb mamolaeth ac absenoldeb salwch.

Yn aml, ceir hyblygrwydd gyda rolau o'r fath, ac mae'r hyblygrwydd hwn yn gweithio ddwy ffordd.

Byddwch yn cael y cyfle i fanteisio ar hyfforddiant hefyd (insert hyper link to training page) a chymwysterau er mwyn datblygu eich dysgu a'ch gwybodaeth ymhellach.

Yn gyntaf, nid yw pob dinesydd yn chwilio am CP sy'n meddu ar brofiad ffurfiol o gyflawni rolau tebyg.  Mae'n debygol y byddwch wedi cynorthwyo rhywun yn eich bywyd chi, ac mae'r rôl hwn yn cynnig profiad y gall eraill gael budd ohono.

Mae hyfforddiant ar gael ac yn rhywbeth sy'n cael ei annog yn fawr.  Efallai y bydd rhywfaint o'r hyfforddiant yn orfodol, ond bydd cyfleoedd i sicrhau hwn cyn cychwyn neu wrth i chi ddysgu yn eich rôl.

Beth nesaf…

Hysbysebir swyddi gwag presennol ar wefannau amrywiol ac mewn mannau amrywiol, e.e.:

  • Tudalen Swyddi Gwag CP Cyngor Sir Ceredigion
  • Chwiliwch am swyddi
  • Canolfan Gwaith
  • Cyfryngau Cymdeithasol

Cysylltwch â'r tîm Taliadau yn uniongyrchol i drafod y swyddi gwag presennol.

Am ragor o wybodaeth 

Cysylltwch â ni at tu_dp@ceredigion.gov.uk neu drwy Clic ar 01545 570881