image

Mae Taliad Uniongyrchol yn arian a ddyfernir gan yr Awdurdod Lleol i'ch galluogi i drefnu eich pecyn gofal eich hun.

Gallwch ddefnyddio eich Taliad Uniongyrchol i drefnu cymorth sy'n iawn i chi ac i'ch ffordd o fyw. Mae cael Taliad Uniongyrchol yn golygu y gallwch gael mwy o reolaeth dros y cymorth y mae ei angen arnoch, y gallwch wneud dewisiadau pwysig am eich gofal, a chael llawer mwy o hyblygrwydd dros eich cymorth na gofal a drefnir gan y cyngor.

Mae pobl yng Ngheredigion yn defnyddio Taliadau Uniongyrchol i drefnu:

  • Cymorth gyda bywyd dyddiol a gweithgareddau
  • Cymorth er mwyn mynd allan ac o le i le
  • Cymorth gyda gofal personol
  • Cymorth sy'n helpu i gyflawni nodau personol
  • Offer sy'n cynorthwyo eu hannibyniaeth

Direct Payments are not a Department of Works and Pension benefit and will not affect your rights to such benefits nor are they classed as income for tax purposes.

If you think that Direct Payments may be suitable for some of your care needs but not for others, you can have a mixture of Direct Payments and other services arranged by us.  

Gellir cynnig Taliadau Uniongyrchol i bron pawb yr aseswyd eu bod yn gymwys i gael gwasanaethau gofal cymunedol. Ar ôl yr asesir bod gofyn i chi gael gwasanaethau gofal cymunedol, mae gan yr aseswr ddyletswydd i gynnig taliad uniongyrchol i chi.

Bydd swm yr arian y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar faint a pha fath o gymorth y mae ei angen arnoch. Bydd eich Cynllun Gofal yn nodi faint o gymorth y bydd ei angen arnoch bob wythnos a faint o arian a delir i chi.

Efallai y gofynnir i chi dalu rhan o gost eich gofal. Bydd hyn yn dibynnu ar fath y gofal yr aseswyd bod angen i chi ei gael, ac fe allai ddibynnu ar eich incwm a'ch cynilion hefyd. Os bydd yn rhaid i chi dalu, bydd hwn yr un swm, os ydych chi'n cael Taliadau Uniongyrchol neu'n dewis ein bod yn ni yn trefnu'r gwasanaethau ar eich cyfer.

Bydd eich aseswr yn gallu trefnu asesiad ariannol ar eich cyfer er mwyn gweld pa gost (os o gwbl) y bydd yn rhaid i chi ei dalu tuag at eich gofal.

Bydd Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol Cyngor Ceredigion yn rhoi gwybodaeth a chymorth i chi, yn ogystal â help ymarferol wrth recriwtio a chyflogi staff, talu cyflogau a helpu gyda thaliadau treth ac Yswiriant Gwladol.

Efallai y byddwch yn cael help gan deulu a ffrindiau hefyd.

Os byddwch yn dewis cyflogi cynorthwyydd personol, mae'r Cyngor Gofal wedi datblygu pecyn cymorth ar-lein sy'n cynnig arweiniad, enghreifftiau ymarfer ac offerynnau ymarferol.  Bydd hyn yn eich galluogi i gynorthwyo'ch cynorthwyydd personol i feithrin y sgiliau y bydd eu hangen arnynt er mwyn bod yn hyderus ac yn gymwys yn eu rolau.

Gallwch droi at y pecyn cymorth yma:  Individual employers (skillsforcare.org.uk)

Er mwyn i chi gael Taliad Uniongyrchol, bydd angen i chi gael asesiad o'ch anghenion gofal.  Os oes gennych chi weithiwr cymdeithasol neu reolwr gofal, cysylltwch â nhw.  Os na, ffoniwch Clic i drefnu hyn.

Rydym wedi ymrwymo i roi'r holl wybodaeth y bydd ei hangen ar bobl fel chi i wneud penderfyniad sy'n iawn i chi.

Mae gennym dîm Taliadau Uniongyrchol profiadol yn y cyngor sydd yno i'ch cynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau neu wybodaeth y mae ei hangen arnoch.  Byddwn yn ceisio rhoi cymaint o help a sicrwydd ag y bydd ei angen arnoch i chi, nes i chi deimlo'n ddigon hyderus i reoli'r trefniadau eich hun.  Ond cofiwch, os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch o bryd i'w gilydd, codwch y ffôn neu ebostiwch.

Cysylltwch â ni at tu_dp@ceredigion.gov.uk neu drwy Clic ar 01545 570881