Mae priodi neu ffurfio partneriaeth sifil yn gyfnod cyffrous, ond gall hefyd fod yn anodd gwybod ble i ddechrau wrth gynllunio eich diwrnod arbennig.

Mae’r canllaw syml hwn yn dangos y camau pwysicaf bydd angen i chi eu hystyried. Mae ein tîm anhygoel hefyd ar gael i’ch cynghori a’ch cefnogi wrth gynllunio eich dathliad a gallwch gysylltu â hwy dros y ffôn ar 01970 633580 os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Y peth cyntaf i’w ystyried yw os hoffech chi briodi neu ffurfio partneriaeth sifil.

Partneriaeth Sifil

Mae partneriaeth sifil yn cael ei ffurfio pan mae’r cwpwl yn arwyddo dogfen partneriaeth sifil ym mhresenoldeb y cofrestrydd a dau dyst. Nid oes gofyniad i gynnal seremoni, ond gallwch wneud hynny os ydych yn dymuno.

Mae partneriaeth sifil ar gael i gyplau sydd o ryw gwahanol neu gyplau o’r un rhyw.

Seremoni Priodi

Yn ystod seremoni briodasol, bydd angen i chi ddweud addunedau penodol ym mhresenoldeb y cofrestrydd a dau dyst.

Mae partneriaeth sifil ar gael i gyplau sydd o ryw gwahanol neu gyplau o’r un rhyw.

 

Gwybodaeth ychwanegol am y gwahaniaeth rhwng priodas a phartneriaeth sifil.

 

Seremoni briodasol grefyddol neu sifil?

Os ydych yn dewis priodi, bydd angen i chi ystyried os ydych eisiau seremoni sifil neu grefyddol.

Seremoni Sifil

Gallwch gael priodas sifil mewn lleoliad sydd wedi’i gymeradwyo neu un o’n hystafelloedd seremoni.

  • Bydd angen i Swyddogion Cofrestru gael eu bwcio i fynychu i arwain a chofrestru eich seremoni briodasol.

Seremoni Grefyddol

Gallwch gael seremoni briodasol grefyddol mewn man addoli, megis capel neu eglwys sy’n dal trwydded priodi.

  • Bydd angen i chi drefnu gweinidog i fynychu ayyb er mwyn arwain y gwasanaeth priodasol (mae hyn fel arfer yn cael ei wneud trwy’r capel neu’r adeilad crefyddol o’ch dewis)
  • Yn ychwanegol, bydd hefyd gofyn am bresenoldeb Cofrestrydd mewn priodas a gynhelir mewn capel, adeiladau rhestredig ac eglwysi penodol, er mwyn cofrestru’r briodas yn gyfreithiol
  • Os byddwch yn dewis priodi mewn eglwys sy’n perthyn i’r Eglwys yng Nghymru, yna dylech gysylltu â ficer yr eglwys a fydd yn eich cynghori ar y broses. Yn gyffredinol, nid oes angen presenoldeb Cofrestrydd mewn priodasau a gynhelir mewn adeiladau sy’n perthyn i’r Eglwys yng Nghymru.

 

Cysylltwch â ni os ydych yn amau os oes angen Cofrestrydd arnoch ai peidio i fynychu eich seremoni briodasol grefyddol.

Mae llawer o leoliadau priodi a phartneriaeth sifil o fewn Ceredigion-mae’n dibynnu’n hollol ar beth sy’n addas i chi a beth sy’n diwallu eich anghenion.

Mae angen i chi felly ddewis lleoliad o un o’n adeiladau trwyddedig, ystafelloedd seremoni, eglwysi neu adeilad crefyddol.

Ewch i edrych ar ein lleoliadau trwyddedig a darllenwch am ein hystafelloedd seremoni.

 

Unwaith y byddwch wedi penderfynu ar leoliad, (lleoliad trwyddedig, eglwys neu adeilad crefyddol), trafodwch gyda hwy’n uniongyrchol ynghylch eu hargaeledd i gynnal eich seremoni.

Ar ôl i chi drafod dyddiad posibl gyda’r lleoliad o’ch dewis, ffoniwch ni ar 01970 633580 i drefnu presenoldeb ein Cofrestryddion yn y seremoni. Dylai hyn gael ei wneud cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi cael eich siomi.

Gall hyn gael ei wneud hyd at ddwy flynedd cyn dyddiad y seremoni (os bydd y seremoni yn cael ei gynnal mewn lleoliad sydd wedi’i gymeradwyo neu adeilad cofrestredig).

Bydd ffi £30 i archebu/gweinyddu yn daladwy wrth archebu. Bydd y ffi hon yn cael ei dynnu o'r ffi taladwy terfynol y seremoni, ond ni fedir ei ad-dalu os na fydd y seremoni yn mynd yn ei blaen.

Bydd y trefniant yn parhau fel un dros dro nes bod y ddau barti i'r briodas neu'r bartneriaeth sifil wedi ymgymryd â'r gofyniad cyfreithiol i roi eu hysbysiadau.

Efallai y bydd achlysuron lle na fyddwn yn medru darparu gwasanaeth ar ddyddiad a/neu amser eich seremoni, ond byddwn yn hapus i gyd-weithio â chi i ddod o hyd i ddewis arall.

Mae angen i chi drefnu lleoliad ar gyfer eich seremoni cyn cyflwyno hysbysiadau priodas neu bartneriaeth sifil gan fod yn rhaid cofnodi'r lleoliad ar y ddogfen hysbysiad.

Ffioedd a thaliadau’r Gwasanaeth Cofrestru

Mae cyflwyno hysbysiad yn rhagofyniad cyfreithiol cyn priodi neu ffurfio partneriaeth sifil.

Gallwch cyflwyno hysbysiad hyd at 12 mis cyn eich seremoni, ond rhaid i chi wneud hyn o leiaf 29 diwrnod cyn eich seremoni (neu 71 diwrnod os ydych yn destun rheolaeth fewnfudo).

Byddem yn argymell yn gryf eich bod yn anelu at gwblhau'r broses hanfodol hon 3-6 mis cyn eich seremoni er mwyn osgoi unrhyw siom ac i sicrhau bod gennych ddigon o amser i gynllunio'ch seremoni.

 

Mae angen i chi fod wedi trefnu lleoliad eich seremoni cyn eich apwyntiad hysbysiad gan fod yn rhaid cofnodi'r man priodas neu bartneriaeth sifil ar y ddogfen hysbysiad. Yna dim ond yn y lleoliad hwn a enwir y gellir cynnal eich seremoni. Os byddwch yn newid y lleoliad yn dilyn eich apwyntiad hysbysu, bydd angen i chi roi hysbysiadau a thalu'r ffi berthnasol eto.

 

Ffoniwch ein swyddfa ar 01970 633580 i drefnu eich apwyntiad hysbysiad.

Rydym am i'ch seremoni fod mor arbennig a phersonol â phosibl. Os ydych yn cynnal seremoni mewn lleoliad trwyddedig neu Ystafell Seremoni Ceredigion, anfonir pecyn gwybodaeth atoch ar ôl i'r weithdrefn hysbysu gael ei chwblhau.

Bydd y pecyn seremoni hwn yn cynnwys gwybodaeth ynghylch trefniadau’r dydd ond hefyd opsiynau i bersonoli eich seremoni cymaint sy’n bosibl megis gallwch chi ddewis eich addunedau, addewidion personol, darlleniadau, cerddoriaeth ac unrhyw beth ychwanegol. Bydd angen cwblhau’r ‘ffurflen cynllunio seremoni’ sydd wedi’i amgáu er mwyn rhoi gwybod i ni beth hoffech chi eu cynnwys yn eich seremoni. Bydd apwyntiad i drafod y seremoni hefyd yn cael ei drefnu gyda chofrestrydd er mwyn cwblhau manylion ac i ateb unrhyw gwestiynau fydd gennych.

Bydd y canllawiau a gynhwysir ym mhecyn y seremoni yn esbonio'r drefn a'r trefniadau ar gyfer y diwrnod ei hun (yn ogystal â chael eu cadarnhau yn ystod yr apwyntiad i drafod y seremoni).

Bydd y rheiny sy’n cofrestru yn cwrdd â chi yn syth cyn y seremoni i wirio manylion terfynol.

Sylwch fod yn rhaid i'r seremoni ddechrau'n brydlon ar yr amser y cytunwyd arno a'i trefnwyd i ddechrau.