Wedi i chi drafod dyddiad amodol gyda’r lleoliad o’ch dewis, ffoniwch ni ar 01970 633580 er mwyn trefnu bod ein Swyddogion Cofrestru yn bresennol yn y seremoni.

Gellir gwneud hyn hyd at 2 flynedd cyn dyddiad y seremoni (os fydd y seremoni yn cymryd lle mewn lleoliad a gymeradwywyd neu adeilad cofrestredig).

Bydd yn rhaid talu ffi £30 cadw/gweinyddu pan fyddwch yn gwneud trefniadau cadw. Bydd y ffi hon yn cael ei thynnu o’r ffi derfynol ar gyfer y seremoni, ond ni fydd y swm hwn o £30 yn cael ei ad-dalu os na fydd y seremoni’n digwydd.

Bydd y trefniadau’n rhai amodol hyd nes y bydd y ddau barti yn y briodas neu’r bartneriaeth sifil wedi cyflwyno’u hysbysiadau, yn unol â gofynion y gyfraith.