Mae'r ffioedd a nodir gan * wedi eu gosod gan y gyfraith. Gosodir ffioedd eraill gan y Cyngor, cânt eu hadolygu'n rheolaidd a gallant gael eu codi o bryd i'w gilydd yn    ddi-rybudd.

Isod mae'r ffioedd a'r taliadau ar gyfer 01/04/2024 – 31/03/2025

Math o dystysgrif

Ffi

fesul tystysgrif

Pob tystysgrif a gyhoeddir adeg cofrestru

£11 *

Tystysgrifau gwasanaeth safonol a gyhoeddir ar ôl y diwrnod cofrestru (cais wedi ei brosesu o fewn 15 diwrnod gwaith)

£11 *

Tystysgrifau gwasanaeth â blaenoriaeth (cais wedi’i brosesu o fewn 24 awr o’i dderbyn)

£35 *

Archwiliad cyffredinol yn y mynegai (dim mwy na 6 awr yn olynol)

£18 *

Tâl postio/gweinyddu (ar gyfer postio'r dystysgrif)

£3

Tâl postio/gweinyddu (ar gyfer postio'r dystysgrif dramor)

£14

Gwybodaeth bellach ynglŷn â gwneud cais am gopi o dystysgrif

Ffioedd ar gyfer seremonïau yn ein hystafelloedd seremoni

 

Ffi

Ystafell Seremoni Ceredigion (hyd at 4 o westeion)

£46

Ystafell Seremoni Ceredigion (hyd at 20 o westeion)

£171

Y Swyddfa Gofrestru

£46 *

Trosi Partneriaeth Sifil Safonol yn briodas (dim seremoni)

£45 *

Gwybodaeth am gofrestru priodasau a phartneriaethau sifil yn ein hystafelloedd seremoni 

 

Ffioedd ar gyfer seremonïau mewn safleoedd cymeradwy ac adeiladau crefyddol

 

Ffi

Safleoedd Cymeradwy (Dydd Llun – Dydd Iau)

£447

Safleoedd Cymeradwy (Dydd Gwener a Dydd Sadwrn)

£499

Safleoedd Cymeradwy (Dydd Sul, Gwyliau Statudol ac Ychwanegol)

£705

Presenoldeb Cofrestrydd mewn Priodas o fewn Adeilad Crefyddol

£86 *

 

Mae'r ffioedd canlynol hefyd yn berthnasol ar gyfer pob priodas a phartneriaeth sifil.

 

Ffi

Hysbysiad o briodas / partneriaeth sifil

£35 *

(fesul person)

Hysbysiad o briodas / partneriaeth sifil (os yw'r naill barti neu'r llall yn destun cynllun atgyfeirio ac ymchwilio’r Swyddfa Gartref)

£47 *

(fesul person)

Ffi archebu/gweinyddu (i archebu cofrestrydd hyd at 2 flynedd cyn dyddiad seremoni)

£30

Tystysgrif priodas / partneriaeth sifil (a gyhoeddir ar ddiwrnod y seremoni)

£11 *

(fesul tystysgrif)

Ystyriaeth gan Gofrestrydd Arolygol o ysgariad neu ddiddymiad partneriaeth sifil a gafwyd y tu allan i Ynysoedd Prydain

£50 *

Ystyriaeth gan y Cofrestrydd Cyffredinol o ysgariad neu ddiddymiad partneriaeth sifil a gafwyd y tu allan i Ynysoedd Prydain

£75 *

Ffi postio/gweinyddu (ar gyfer postio'r dystysgrif yn y DU)

£3

 

Ffioedd ar gyfer trwyddedu lleoliadau seremoni sifil

 

Ffi

Trwyddedu lleoliad cymeradwy i gynnal priodas a phartneriaeth sifil (trwydded 3 blynedd)

£1152

Trwyddedu lleoliad cymeradwy i gynnal priodas a phartneriaeth sifil (trwydded 5 mlynedd)

£1817

Ffi hysbysebu hysbysiad cyhoeddus (os caiff ei gyhoeddi mewn papur newydd)

£387

 

Ffioedd ar gyfer ardystio adeilad ar gyfer addoli a chofrestru ar gyfer priodas

 

Ffi

Ardystio man cyfarfod ar gyfer addoli crefyddol

£29 *

Cofrestru adeilad ar gyfer gweinyddu priodasau rhwng dyn a menyw

£123 *

Cofrestru adeilad ar gyfer gweinyddu priodasau cyplau o'r un rhyw (adeilad a gofrestrwyd yn flaenorol ar gyfer gweinyddu priodas rhwng dyn a menyw)

£64 *

Cofrestru adeilad ar gyfer gweinyddu priodasau cyplau o'r un rhyw (adeilad nad oedd wedi'i gofrestru’n flaenorol ar gyfer gweinyddu priodas rhwng dyn a menyw)

£123 *

Cofrestru adeilad ar gyfer gweinyddu priodasau rhwng dynion a menywod (adeilad a gofrestrwyd yn flaenorol ar gyfer gweinyddu priodas cyplau o'r un rhyw)

£64 *

Cais ar y cyd ar gyfer cofrestru adeilad ar gyfer priodas rhwng dynion a menywod a chyplau o'r un rhyw

£123 *

 

Ffi

Seremoni ar gyfer grŵp

Am ddim

Seremoni breifat yn y Swyddfa Gofrestru

£41

 

Ffi

Enw (au) wedi'u hychwanegu neu eu newid o fewn 12 mis i gofrestru genedigaeth

£40 *

Ystyriaeth gan y Cofrestrydd/Cofrestrydd Arolygol o gywiriad

£75 *

Ystyriaeth gan y Cofrestrydd Cyffredinol o gywiriad

£90 *