Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cynllun Strategol Gwaith Ieuenctid drafft 2027–2032

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 30 Medi 2026.

Diolch am ein helpu i lunio dyfodol gwaith ieuenctid yng Ngheredigion. Mae eich adborth wedi chwarae rhan bwysig wrth lunio ein Cynllun Strategol Ieuenctid 2027-2032.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd eich adborth yn helpu i lunio fersiwn derfynol Cynllun Strategol Gwaith Ieuenctid Ceredigion 2027–2032 cyn iddo gael ei gyflwyno i'w gymeradwyo yn ddiweddarach eleni.

Cyhoeddir crynodeb o ganfyddiadau'r ymgynghoriad a'r strategaeth derfynol ar wefan y Cyngor. 
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymgynghoriad, cysylltwch â: 

Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion 
Ffôn: 01545 570881
E-bost: clic@ceredigion.gov.uk

 

Ymgynghoriad Gwreiddiol

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn gwahodd pobl ifanc, teuluoedd, ysgolion, grwpiau cymunedol, partneriaid a thrigolion i helpu i lunio dyfodol gwaith ieuenctid ledled y sir drwy rannu eich barn ar ein Cynllun Strategol Gwaith Ieuenctid drafft 2027–2032. 

Datblygwyd y strategaeth yn dilyn ymgysylltu helaeth â mwy na 500 o bobl ifanc, ochr yn ochr ag ysgolion, gweithwyr ieuenctid, gwirfoddolwyr, sefydliadau cymunedol a phartneriaid o bob cwr o Geredigion. Mae'n nodi gweledigaeth gyffredin ar gyfer gwaith ieuenctid dros y pum mlynedd nesaf ac yn ymateb i ddisgwyliadau newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer cynllunio a chyflwyno gwaith ieuenctid.

Gallwch ddarllen mwy am sut wnaethom weithio efo chi i ddatblygu'r cynllun yma - Strategaeth Gwasanaeth Ieuenctid 2027-2032.

Rhagor o Wybodaeth

Gallwch darllen y strategaeth drafft yma - Cynllun Strategol Gwaith Ieuenctid drafft 2027–2032.

Gallwch darllen fersiwn person ifanc y strategaeth drafft yma - Crynodeb Person Ifanc drafft.

Rydym wedi cynnal asesiad effaith ar y strategaeth drafft - Asesiad Effaith Integredig.

Sut i gymryd rhan

Ar ôl i chi ddarllen y strategaeth, rhannwch eich barn drwy:

Gwblhau ein harolwg ar-lein - Arolwg MS Forms: Cynllun Strategol Gwaith Ieuenctid.

neu

Argraffu a llenwi copi papur - Arolwg: Cynllun Strategol Gwaith Ieuenctid.

Os hoffech dderbyn y wybodaeth mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar 01545 570881 neu e-bostiwch ieuenctid@ceredigion.gov.uk.

Gallwch hefyd gasglu copi papur o'ch Llyfrgell neu Ganolfan Hamdden leol neu drwy ffonio 01545 570881 neu anfon e-bost atom: clic@ceredigion.gov.uk.


 
Dychwelwch gopïau papur i'ch llyfrgell leol neu i Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion, Cyngor Sir Ceredigion, Neuadd y Sir Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron SA46 0PA.

Cliciwch yma i ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd Ymgynghoriadau.

 

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd eich adborth yn helpu i lunio fersiwn derfynol Cynllun Strategol Gwaith Ieuenctid Ceredigion 2027–2032 cyn iddo gael ei gyflwyno i'w gymeradwyo yn ddiweddarach eleni.

Cyhoeddir crynodeb o ganfyddiadau'r ymgynghoriad a'r strategaeth derfynol ar wefan y Cyngor. 
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymgynghoriad, cysylltwch â: 

Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion 
Ffôn: 01545 570881

E-bost: clic@ceredigion.gov.uk