Ceredigion Teg a Chyfartal

Cynllun Cydraddoldeb Strategol Cyngor Sir Ceredigion 2024-28

Dyma ein pedwerydd Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Mae’n disgrifio sut y byddwn yn parhau tuag at ein nod i gyflawni ein hymrwymiad i gydraddoldeb a sut y byddwn yn cyflawni ein rhwymedigaethau a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. 

Mae rhan gyntaf y cynllun yn rhoi gwybodaeth gefndir gyda throsolwg o gydraddoldeb a Deddf Cydraddoldeb 2010.  Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth am y bobl sy'n byw yng Ngheredigion ac amlinelliad o'r hyn a wnawn fel Cyngor Sir.

Mae'r adran nesaf yn amlinellu ein pum Amcan Cydraddoldeb a'r hyn y byddwn yn ei wneud i gyflawni ein hamcanion.

Yn olaf, rydym yn cynnwys manylion ynghylch sut y byddwn yn monitro ac yn adolygu cynnydd blynyddol ac yn cyhoeddi'r wybodaeth hon.

Cliciwch isod i gael copi o 'Ceredigion Deg a Chyfartal 2024-28'

Fersiwn Llawn 2024-28

Fersiwn Hawdd i'w Darllen 2024-28

Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-24 ar gael i’w lawrlwytho o’r dudalen hon. Bydd yr adroddiad blynyddol terfynol ar ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-24 ar gael i lawrlwytho o’r dudalen hon ym mis Hydref 2024.

Os oes angen copi caled o’r ddogfen hon arnoch, neu gopi ohoni mewn gwahanol ffurf, er enghraifft print bras, fersiwn ffurf Word ar gyfer darllenwyr sgrîn neu gefndir lliw ac ati, cysylltwch â:

Tîm Cydraddoldeb a Chynhwysiant
Cyngor Sir Ceredigion
Neuadd Cyngor Ceredigion
Penmorfa
Aberaeron
SA46 OPA

E-bost: clic@ceredigion.gov.uk