Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod fframwaith cyfreithiol cyffredin sy’n seiliedig ar saith o Nodau Llesiant a phum ffordd o weithio (isod). Y nod yw cynnal a darparu gwasanaethau cyhoeddus sy’n diwallu’r anghenion presennol, heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
| 7 o Nodau Llesiant | 5 Ffordd o Weithio – Egwyddorion Datblygu Cynaliadwy |
|---|---|
| Cymru lewyrchus | Hirdymor |
| Cymru gydnerth | Atal |
| Cymru iachach | Integreiddio |
| Cymru sy’n fwy cyfartal | Cydweithio |
| Cymru o gymunedau cydlynus | Cynnwys |
| Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu | |
| Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang |
Mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ddyletswydd i gyrff cyhoeddus penodol gydweithio a ffurfio Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus statudol ymhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Mae’n rhaid i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wella llesiant yr ardal dan sylw o ran yr economi, cymdeithas, yr amgylchedd a diwylliant, a hynny drwy gyfrannu at gyflawni’r Nodau Llesiant.
Swyddogaethau pennaf y Bwrdd fydd:
- Paratoi a chyhoeddi asesiad o’r sefyllfa sydd ohoni yng Ngheredigion o ran llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol
- Paratoi a chyhoeddi Cynllun Llesiant Lleol ar gyfer Ceredigion a fydd yn pennu’r amcanion lleol a’r camau y bwriedir eu cymryd i’w cyflawni
- Cymryd yr holl gamau rhesymol i gyflawni’r amcanion lleol a bennwyd
- Paratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol a fydd yn nodi’r cynnydd a wnaeth y Bwrdd wrth gyflawni’r amcanion lleol
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion yn cynnwys cynrychiolwyr o’r sefydliadau canlynol:
| Aelodau Statudol | |
|---|---|
| Cyngor Sir Ceredigion | Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda |
| Cyfoeth Naturiol Cymru | Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth Cymru |
| | |
| Sefydliadau a Wahoddir | |
| Llywodraeth Cymru | Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion |
| Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys | Heddlu Dyfed Powys |
| Gwasanaeth Prawf Dyfed Powys | Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru |
| Iechyd Cyhoeddus Cymru | Adran Gwaith a Phensiynau |
| Prifysgol Aberystwyth | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant |
| Coleg Ceredigion | Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
| Un Llais Cymru | |