Cefndir

Pwrpas yr Is-grŵp Tlodi yw i weithredu ar ran Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion i ddatblygu a chyflwyno ymateb cydlynol i’r risg cynyddol y mae dinasyddion Ceredigion yn wynebu yn sgil goblygiadau economaidd a chymdeithasol pellgyrhaeddol COVID-19.

Yn benodol, rydym yn bwriadu sicrhau bod cymaint o gymorth â phosibl ar gael i dalu costau byw hanfodol, sicrhau bod llesiant corfforol ac emosiynol pobl cystal ag y gall fod, a sicrhau bod gennym gymunedau cefnogol a chysylltiedig i bobl Ceredigion.

Bydd y Strategaeth Mynd i’r Afael â Chaledi’n darparu fframwaith cadarn i sicrhau bod modd inni fynd ati ar y cyd i ddod i ddeall y sefyllfa, atgyfnerthu a datblygu mentrau amrywiol i liniaru risgiau, a chymryd camau cynnar ac ataliol. Bydd y Strategaeth yn darparu un ddogfen a fydd yn sicrhau bod arweinwyr y Cyngor, ein partneriaid a’r cyhoedd yn cael diweddariadau rheolaidd am hynt y gwaith.

Bydd y Strategaeth yn ategu’r camau i roi’r dogfennau a ganlyn ar waith:

  • Strategaeth Gorfforaethol Cyngor Sir Ceredigion
  • Cynllun Llesiant Lleol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion

Bydd yn gydnaws â’r strategaethau a ganlyn, a bydd yn ychwanegu gwerth atynt:

  • Ceredigion Teg a Chyfartal 2020-24 (Cynllun Cydraddoldeb Strategol Cyngor Sir Ceredigion)
  • Strategaeth Economaidd Ceredigion 2020-35
  • Strategaeth Addasu ac Atgyfnerthu Economi Ceredigion
  • Strategaeth Dai Ceredigion

Mae’r hyn yr ydym yn ei wybod am argyfwng COVID-19 yn newid yn gyflym, a bydd mwy o ddata’n dod i’r amlwg dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf a fydd yn ein helpu i lunio ac i ddatblygu’r broses o roi’r Strategaeth hon ar waith.