Skip to main content

Ceredigion County Council website

Fforwm Dyfodol Dwyieithog Ceredigion

Mae Dyfodol Dwyieithog Ceredigion yn thema allweddol yn ein Cynllun Llesiant Lleol ac mae holl bartneriaid Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion yn gytûn bod angen cydnabod ein dyletswydd nid yn unig i ddarparu gwasnaethau yn Gymraeg ac yn Saesneg ond gan hefyd weithio'n galetach nag erioed o'r blaen gyda'n gilydd i hyrwyddo ac annog y defnydd o'r Gymraeg ym mhob agwedd ar weithgareddau cymunedol ac economaidd y Sir.

Heb os, mae Ceredigion yn un o gadarnleodd pwysicaf yr iaith Gymraeg a chymunedau dwyieithog. Mae unigolion, mudiadau a chyrff o bob sector yn chwarae rhan allweddol mewn hybu statws y Gymraeg ac mewn ceisio cynnal y defnydd o'r iaith ym mhob agwedd ar fywyd. Dan fantell Grŵp Gweithredol Dyfodol Dwyieithog Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion byddwn yn ymgynghori'n eang ar syniadau ac ar weithgareddau a fydd yn cefnogi'r gwaith da sy'n digwydd eisioes ac a fydd yn adnabod sut i adeiladu ymhellach ar y gwaith hwn.

Mae strategaeth iaith newydd i Geredigion wedi cael ei gymeradwyo ar gyfer y cyfnod 2018-2023. Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, cymeradwywyd y Strategaeth gan Gabinet Cyngor Sir Ceredigon mewn cyfarfod ar 25ain Medi 2018. Mae’r Strategaeth newydd yn diweddaru ac yn datblygu ar ei rhagflaenydd.

Strategaeth Iaith Ceredigion 2018-23