Mae Deddf Gamblo 2005 yn creu system newydd ar gyfer trwyddedu a rheoli gamblo masnachol yn y wlad hon.

Ymhlith newidiadau eraill, mae'n rhoi cyfrifoldebau newydd a helaethach i awdurdodau lleol ym maes trwyddedu safleoedd gamblo. Mewn rhai achosion (megis mewn arcedau peiriannau gamblo), mae'r rheiny'n ychwanegol at eu cyfrifoldebau presennol. Fodd bynnag mewn meysydd pwysig eraill, gan gynnwys betio, gamblo mewn casino a bingo, maent yn trosglwyddo i'r awdurdodau lleol gyfrifoldebau a oedd gynt yn gyfrifoldebau'r ynadon trwyddedu lleol.

Polisi Hapchwarae Diwygiedig

Mae gofyn i bob awdurdod trwyddedu i adolygu, ymgynghori âg a chyhoeddi polisi Hapchwarae pob tair blynedd i osod mas yr egwyddorion arfaethedig i ymgeisio mewn gweithredu eu deddfau swyddogaethau o dan y ddeddf.

Mae'r Polisi Hapchwarae diwygiedig wedi cael ei gyhoeddi ar y 29ain o awrth 2022.

I dderbyn copi called o'r ddogfen cysylltwch a:

Yr Adain Trwyddedu
Cyngor Sir Ceredigion
Polisi, Pherfformiad a Diogelu'r Cyhoedd
Neuadd Cyngor Ceredigion
Penmorfa
Aberaeron
SA46 0PA

Ffôn: 01545 572179
E-bost: licensing@ceredigion.gov.uk