Cludiant Hacni / Hurio Preifat
Cerbydau Dynodedig Hygyrch i Gadeiriau Olwyn
I weld ein rhestr o gerbydau hygyrch dynodedig, cliciwch yma: Cerbydau Hygyrch Dynodedig
Darpariaeth Cludiant ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol (Eisteddfod y Garreg Las) 2026
Annwyl Weithredwr Tacsis,
Hoffem roi gwybod i chi am Eisteddfod Genedlaethol 2026 (Eisteddfod y Garreg Las), a fydd yn cael ei chynnal yn Llantwd, ger Aberteifi, o ddydd Sadwrn 1 Awst tan ddydd Sadwrn 8 Awst 2026. Mae disgwyl i’r digwyddiad ddenu nifer sylweddol o ymwelwyr i’r ardal a allai ddarparu cyfleoedd busnes ychwanegol ar gyfer gweithredwyr tacsis a cherbydau hurio preifat lleol.
Er y bydd bysiau’n rhedeg i’r digwyddiad ac oddi yno, mae’n debygol y bydd galw am wasanaethau tacsi drwy gydol yr wythnos, yn enwedig gyda’r nos pan fydd ymwelwyr yn gadael y maes.
Bydd y maes yn gweithredu tan:
- Ganol nos ddydd Sadwrn 1 Awst, dydd Sul 2 Awst a dydd Llun 3 Awst
- 1.00am ddydd Mawrth 4 Awst
- 4.00am ddydd Mercher 5 Awst, dydd Iau 6 Awst, dydd Gwener 7 Awst a dydd Sadwrn 8 Awst.
Bydd safle dynodedig ar gyfer tacsis ar y maes. Bydd y safle tacsis wedi’i leoli ger yr ardal casglu a gollwng ar gyfer bysiau, fel y gwelir ar y cynllun atodedig.
Noder, bydd system traffig unffordd ar waith, a bydd gofyn i dacsis wneud y canlynol:
- Dod i mewn drwy Giât 6
- Gadael drwy Giât 5
- Dilyn holl arwyddion y digwyddiad a chyfarwyddiadau’r stiwardiaid tra eu bod ar y maes.
Yn ogystal, bydd Gorchmynion Clirffordd ar waith ar hyd yr A487 drwy gydol y digwyddiad.
Rhaid i dacsis ddefnyddio’r safle dynodedig ar gyfer tacsis i ollwng a chasglu unrhyw deithwyr sy’n gysylltiedig â’r Eisteddfod. Ni ddylai gweithredwyr stopio ar yr A487 nac o fewn unrhyw ardaloedd eraill sydd dan gyfyngiadau fel rhan o drefniadau rheoli traffig y digwyddiad.
Rydym yn ymwybodol y bydd gweithredwyr tacsis o Sir Benfro a Cheredigion yn debygol o ddarparu gwasanaethau yn ystod y digwyddiad. Er mwyn cynorthwyo ymwelwyr sydd angen trafnidiaeth o’r maes, bydd hysbysiad yn cael ei arddangos yn y safle tacsis a fydd yn cynnwys manylion cyswllt y gweithredwyr sy’n barod i ymateb i alwadau am gludiant o’r maes.
Atgoffir gweithredwyr a gyrwyr trwyddedig Ceredigion fod yn rhaid i bob taith a wneir yn ystod yr Eisteddfod gael ei harchebu o flaen llaw drwy weithredwr trwyddedig. Ni ddylai gyrwyr cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat geisio cael eu hurio na derbyn ceisiadau i’w hurio yn uniongyrchol yn y digwyddiad. Mae’n rhaid i bob taith gael ei harchebu o flaen llaw a rhaid i’r manylion gael eu cofnodi a’u cadw’n briodol yn unol â gofynion trwyddedau’r gweithredwyr.
Er tryloywder, bydd swyddogion trwyddedu’n gwirio cydymffurfiaeth yn ystod y digwyddiad, gan gynnwys archwilio cerbydau, gyrwyr a chofnodion, er mwyn sicrhau y cydymffurfir â’r gofynion trwyddedu.
Os hoffech i rif ffôn eich busnes gael ei gynnwys ar yr hysbysiad hwn, rhowch wybod i ni erbyn dydd Gwener 24 Gorffennaf. Bydd y rhestr yn helpu ymwelwyr i ganfod y gweithredwyr sydd ar gael i ddarparu teithiau sydd wedi’u harchebu o flaen llaw o’r digwyddiad.
Fel gweithredwyr trwyddedig, hoffem hefyd ofyn i chi sicrhau bod y cerbydau a’r gyrwyr yn cydymffurfio’n llwyr â’r holl ofynion trwyddedu a bod safon y gwasanaeth yn uchel drwy gydol y digwyddiad. Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod â nifer o ymwelwyr i Sir Benfro a’r ardal gyfagos, a bydd gwasanaethau tacsi yn chwarae rôl bwysig yn eu profiadau. Drwy ddarparu gwasanaeth proffesiynol, diogel a chwrtais, gall gweithredwyr helpu i sicrhau bod ymwelwyr yn gadael gydag argraff gadarnhaol o’r ardal a safon y gwasanaethau trafnidiaeth sydd ar gael.
Diolch yn fawr am eich cymorth i ddarparu trafnidiaeth ddiogel a hygyrch i’r sawl fydd yn ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol.
Safle Casglu and Gollwng teithwyr


Hyffordddiant Ymwybyddiaeth o Hunanladdiad - Rhifyn Gyrrwr Tacsi:
Isod mae dolen I hyfforddiant ymwybyddiaeth o hunanladdiad am ddim I yrwyr tacsi.
Wedi'i ddatblygu gyda chymorth gan yrwyr tacsis ac 16 awdurdod lleol. Mae’n rhannu gwybodaeth am hunanladdiad ac yn eich hyfforddi trwy senario sy’n ymwneud â gyrrwr tacsi a theithwyr i’ch helpu i adnabod arwyddion o ymddygiad hunanladdol a chael sgwrs â rhywun y gallech fod yn poeni amdano. Mae'r cwrs hwn wedi'i ddatblygu ar gyfer gyrwyr tacsis a hurio preifat ac mae'n cymryd tua 10 munud i'w gwblhau. Nod y cwrs hyfforddi hwn yw cefnogi gyrwyr i: Ddeall hunanladdiad yn well, Adnabod yr arwyddion y gall teithiwr fod yn cael trafferth gyda meddyliau hunanladdol, Cydnabod pwysigrwydd bod yn uniongyrchol wrth ofyn i rywun sut maen nhw'n teimlo, Sut i siarad â rhywun sy'n poeni amdano, Cyfeirio teithwyr at sefydliadau a all eu cefnogi.
Ewch i'r hyfforddiant yma Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Hunanladdiad: Suicide Awareness Training - taxi driver edition :: Zero Suicide Alliance
Beth i’w ddisgwyl o’r fasnach tacsi a beth y mae’r fasnach tacsi yn ei ddisgwyl oddi wrthych chi
Bydd y gyrrwr yn:
- Gyrru gyda gofal a chwrteisi tuag at deithwyr a gyrwyr eraill.
- Defnyddio’r mesurydd teithio o fewn yr ardal drwyddedig, heblaw bod y teithiwr wedi cytuno i logi ar amser penodol, a’i fod yn llai na phris siwrnai.
- Os yn defnyddio mesurydd teithio, peidio dechrau’r mesurydd tan fod y teithiwr wedi eistedd yn y cerbyd.
- Os yn teithio tu allan i’r ardal drwyddedig, cytuno ar bris y daith o flaen llaw. Os nad oes pris taith wedi’i drafod o flaen llaw ar gyfer y daith sy’n mynd y tu hwnt i’r ardal drwyddedig, yna mae’n rhaid i’r gyrrwr ddefnyddio’r mesurydd teithio
- Cymryd y ffordd fwyaf effeithlon, gan ystyried problemau traffig posibl ac adnabod gwyriadau eraill, ac egluro unrhyw wyriad o’r ffordd fwyaf uniongyrchol.
Bydd y teithiwr yn:
- Trin y cerbyd a'r gyrrwr gyda pharch ac yn ufuddhau i unrhyw hysbysiadau swyddogol (er enghraifft, mewn perthynas â bwyta neu yfed yn y cerbyd).
- Sicrhau fod ganddyn nhw'r modd i dalu am y daith cyn teithio. Os ydych yn dymuno talu gyda cherdyn credyd neu ddebyd neu i stopio ar y ffordd i ddefnyddio peiriant arian parod, gwiriwch gyda'r gyrrwr cyn cychwyn.
- Bod yn ymwybodol o'r pris ar y mesurydd a hysbysu’r gyrrwr os yw'n agosáu at derfyn adnoddau ariannol y teithiwr.
- Bod yn ymwybodol bod y gyrrwr yn debygol o gael ei gyfyngu gan reoliadau traffig mewn perthynas â lle y gall stopio'r cerbyd.
Os byddwch chi'n cael unrhyw broblemau gyda'r Gyrrwr neu'r Cerbyd, nodwch rif plât y tacsi (sydd i'w gael ar ochr fewnol y teithiwr ar ffenestr flaen y cerbyd) neu'r plât rhif, enw'r gyrrwr a'r cwmni, a chysylltwch â ni ar 01545 570881 neu diogelucyhoedd@ceredigion.llyw.cymru
Bydd angen eich manylion cyswllt arnom er mwyn i ni allu ymchwilio i'r mater yn drylwyr.
Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gan yrrwr y cerbyd hurio preifat a'r hyn y gall y gyrrwr cerbyd hurio preifat ei ddisgwyl gennych chi
Bydd y gyrrwr yn:
- Sicrhau fod y teithiwr wedi archebu ymlaen llaw a'i fod yn ymwybodol o'r pris sydd wedi’i amcangyfrif cyn cychwyn.
- Gyrru’n ofalus a bod yn gwrtais tuag at deithiwr a defnyddwyr eraill y ffordd.
- Cymryd y llwybr mwyaf effeithlon o ran amser, gan ystyried unrhyw broblemau traffig tebygol a gwyriadau posibl, ac eglurwch os gofynnir am unrhyw wyriad o'r llwybr mwyaf uniongyrchol.
Bydd y teithiwr yn:
- Trin y cerbyd a'r gyrrwr gyda pharch ac yn ufuddhau i unrhyw hysbysiadau (er enghraifft, mewn perthynas â bwyta neu yfed yn y cerbyd).
- Sicrhau fod ganddyn nhw'r modd i dalu am y daith cyn teithio. Os ydych yn dymuno talu gyda cherdyn credyd neu gerdyn debyd neu i stopio ar y ffordd i ddefnyddio peiriant arian parod, gwiriwch gyda'r gyrrwr cyn cychwyn.
Bod yn ymwybodol bod y gyrrwr yn debygol o gael ei gyfyngu gan reoliadau traffig mewn perthynas â lle y gall stopio'r cerbyd.
Er sylw pob gyrrwr Tacsi
Os ydych yn yrrwr tacsi, yn yrrwr neu'n weithredwr cerbyd hurio preifat, bydd angen i chi gwblhau gwiriad treth gyflym pan fyddwch yn adnewyddu eich trwydded o fis Ebrill 2022.

Tariff Sir Ceredigion
Isod mae'r tabl prisiau a osodir gan Gyngor Sir Ceredigion.
Yn unol ag Adran 65 o'r Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, caiff awdurdod lleol bennu ac amrywio’r cyfraddau neu’r prisiau o fewn ei ardal a’r holl daliadau eraill sy’n gysylltiedig â hurio cerbyd hacni.
Mae'n drosedd codi tâl sy'n fwy na'r prisiau a osodwyd gan yr Awdurdod Lleol.

Diogelu
Gallwch wylio fideo fer ar ddiogelu ar y ddolen ganlynol
https://vimeo.com/369336842/e0b3bcd9e3
Mae amddiffyn pobl fregus yn fusnes i bawb
CLYW | GWELER | DWEUD
Helpwch i ddiogelu pobl sy'n agored i niwed trwy riportio arwyddion i'w hatal a'u hamddiffyn rhag esgeulustod a chamdriniaeth.
- Gall Arwyddion Esgeulustod gynnwys amodau byw gwael, newidiadau mewn ymddangosiad, ymddangosiad blêr, dillad budr.
- Gall arwyddion o Gam-drin fod yn gorfforol fel cleisiau, toriadau neu losgiadau, newidiadau mewn ymddygiad neu bersonoliaeth, tynnu'n ôl o'r gymdeithas neu deulu a ffrindiau.
- Gall arwyddion Camfanteisio Rhywiol ar Blant gynnwys gwneud siwrneiau rheolaidd ar eu pennau eu hunain i westai neu lety gwely a brecwast, derbyn anrhegion fel dillad newydd, ffonau symudol, hongian o gwmpas neu deithio gyda gwahanol oedolion, dod yn ôl neu ynysu.
Meddyliwch hefyd am arwyddion: Trais domestig, masnachu mewn pobl, caethwasiaeth fodern, anffurfio organau cenhedlu benywod, priodasau dan orfod.
Byddwch yn llygaid a chlustiau'r gymuned!
Os ydych chi'n gweld arwyddion lle mae risg, bygythiad neu berygl ar unwaith, ffoniwch yr Heddlu ar 999 Os ydych chi'n gweld unrhyw arwyddion o esgeulustod neu gam-drin emosiynol, corfforol, rhywiol a / neu ariannol, os yw'r peth lleiaf yn eich poeni, rhowch wybod amdano.
GYRRWYR TACSI: CHI yw llygaid a chlustiau EICH Cymuned. Peidiwch â'i anwybyddu, Riportiwch ef.
Manylion cyswllt
Os ydych chi'n dyst i blentyn neu oedolyn sydd mewn perygl o niwed ar unwaith, ffoniwch yr Heddlu ar 999
Os ydych chi'n gweld arwyddion o gam-drin neu esgeulustod cysylltwch â:
| Porth Gofal | 01545 574000 |
| Y Tu Allan i Oriau: Tîm Dyletswydd Brys | 0845 6015392 |
Os yw'n ddiogel - cynigiwch rif llinell gymorth cam-drin domestig “Live Fear Free” ..… 0808 8010800