Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cludiant Hacni / Hurio Preifat

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi mabwysiadu Bolisi Cerbydau Hacni a Hurio Preifat newydd, a ddaeth i rym ar 20 Mawrth 2025, a fydd yn disodli polisïau cyfredol ac yn gosod safonau ar gyfer gyrwyr, cerbydau a gweithredwyr.

Cerbydau Dynodedig Hygyrch i Gadeiriau Olwyn

I weld ein rhestr o gerbydau hygyrch dynodedig, cliciwch yma: Cerbydau Hygyrch Dynodedig


Ymgynghoriad: Cynnydd Arfaethedig i Brisiau Tacsi yng Ngheredigion

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cau ar yr 8fed o Fai 2026.

Mae cwmni tacsis lleol wedi gofyn i'r Cyngor gynyddu prisiau tacsis yng Ngheredigion, gan nodi costau gweithredu cynyddol - tanwydd, cynnal a chadw, cyflogau a chostau cerbydau.

 

Mae gan y Cyngor ddyletswydd gyfreithiol i edrych ar geisiadau fel hyn. Nid yw Ceredigion wedi newid prisiau tacsis ers 2022, felly mae'n amser priodol i'w hadolygu.

 

Yr hyn a awgrymodd y cwmni tacsi

 

Gofynnodd y cwmni tacsi am:

·         £1 ychwanegol i’w ychwanegu i’r hanner milltir cyntaf; a

  • 2c ychwanegol ar gyfer 1/10th milltir ar ôl hynny.

 

Ar y cyfan, byddai hyn yn golygu:

·         cynnydd cyfartalog o 23.7% ar draws pob pris

·         y cynnydd mwyaf fyddai yn y pris cychwynnol

·         byddai cyfraddau pellter yn codi 10.6%

·         byddai ffioedd amser aros yn codi 32%

 

Mae'r cynnydd hyn yn adlewyrchu costau cynyddol a byddai'n gwneud prisiau Ceredigion yn debycach i gynghorau cyfagos fel Sir Gaerfyrddin a Gwynedd.

 

Sut mae Ceredigion yn cymharu'n genedlaethol

Bob mis, mae ‘Taxi Fare League Table’ yn graddio cynghorau yn ôl pris taith ddwy filltir. Gellir gweld hyn ar-lein yn https://www.phtm.co.uk/taxi-fares-league-tables.

Ar hyn o bryd mae Ceredigion yn safle 226 allan o 341 o gynghorau. Mae taith ddwy filltir yma yn costio £6.80 ar hyn o bryd. Cyfartaledd y DU yw £7.40

Pe bai'r cynnydd a awgrymwyd gan y cwmni tacsi yn cael ei dderbyn byddai taith ddwy filltir yn costio £8.25. Byddai Ceredigion yn symud i fyny i safle 64. Byddai felly’r pris drytaf yng Nghymru.

Cymhariaeth â Chynghorau Cyfagos

Cyngor

Pris Cychwynnol

Cost y filltir

Amser aros

Adolygiad diwethaf

Ceredigion (presennol)

£3.50 (½ milltir cyntaf)

£2.20

£0.25

2022

Sir Gâr

£4.50 (milltir cyntaf)

£2.50

£0.30

2023

Sir Benfro

£4.00 (milltir cyntaf)

£3.00

£0.42

2022

Powys

£4.00 (milltir cyntaf)

£2.00

£0.20

2022

 

Pwysau Costau Byw a Gweithredu

Mae prisiau cyfartalog tanwydd wedi gostwng ers 2022 (Yn gywir ar 12fed Chwefror 2026):

  • Petrol: o £1.65 i £1.35
  • Disel: o £1.79 i £1.43

Ond mae costau eraill wedi codi:

  • Mae chwyddiant cyffredinol wedi cynyddu 13.9%
  • Mae yswiriant ar gyfer tacsis yn ddrud — fel arfer rhwng £1,800 i £4,500+

Beth ddywedodd gyrwyr tacsi lleol

Anfonwyd arolwg at yr holl yrwyr a gweithredwyr tacsi yng Ngheredigion:

  • gwahoddwyd 275 (265 ar-lein a 10 papur).
  • ymatebodd 50.

Dangosodd yr adborth fod:

  • 88% o blaid codi’r pris.
  • O’r rheiny oedd o blaid, roedd 44.7% eisiau cynnydd o oddeutu 10%.
  • Nododd gyrwyr bod costau’n cynyddu ond nid yw enillion yn cadw i fyny.
  • Mae rhai gyrwyr yn ennill yn agos at yr isafswm cyflog hyd yn oed wrth weithio oriau hir.
  • Mae llawer yn teimlo bod angen cynnydd mewn prisiau fel y gall gyrwyr aros yn y fasnach, cynnal a chadw eu cerbydau, a chynnig gwasanaeth diogel a dibynadwy.
  • Roedd nifer fach o yrwyr yn poeni am gostau i deithwyr agored i niwed, ond roedd y mwyafrif yn teimlo bod y cynnydd yn angenrheidiol.

Argymhelliad y Cyngor

 

Pan gyfarfu'r Pwyllgor Trwyddedu ar 12 Chwefror 2026, awgrymwyd cynnydd o 7% yn hytrach na'r codiadau uwch y gofynnwyd amdanynt. Fe wnaethant hefyd argymell ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu barn ehangach.

 

Enghraifft o'r cynnydd o 7% (wedi’i symleiddio)

 

Tariff

½ Milltir Cyntaf Presennol

Cynnydd 7% i’r ½ Milltir Cyntaf 

Fesul 1/10 milltir ar hyn o bryd

Cynnydd o 7% Fesul 1/10 milltir

1

£3.50

£3.70

£0.22

£0.25

2

£4.00

£4.20

£0.25

£0.25

3

£4.00

£4.20

£0.28

£0.30

4

£6.00

£6.40

£0.37

£0.40

5

£4.00

£4.20

£0.31

£0.35

6

£5.00

£5.30

£0.37

£0.40

7

£7.00

£7.40

£0.49

£0.50

Waiting Time

£0.25

£0.25

Extra Charges (optional)

Presennol

Cynnydd 7%

Casys

£1.00

£1.05

Cistiau

£1.50

£1.60

Baeddu

£100.00

£107.00

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Sut i roi eich barn i ni

Gallwch wneud sylwadau ar y cynnydd arfaethedig o 7% drwy:

lenwi'r holiadur ar-lein: Ymgynghoriad – Cynnydd Arfaethedig yn Nhariffau Ffïoedd Tacsi yng Ngheredigion – (Mae opsiwn i newid y ffurflen i’ch dewis iaith ar gael yn y gornel dde uchaf ar ôl agor y ddolen)

lawrlwytho copi o'r cwestiynau: Fersiwn Cymraeg neu Fersiwn Saesneg

Gallwch hefyd gasglu copi papur o'r pecyn arolwg o'ch Llyfrgell neu Ganolfan Hamdden leol, drwy ffonio 01545 570881 neu anfon e-bost at clic@ceredigion.gov.uk.

Diogelu data

Darllenwch sut mae'r Cyngor yn trin data a gesglir drwy ymgynghoriadau - Hysbysiad Preifatrwydd Ymgynghoriadau.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael eu dadansoddi a'u cyflwyno i bwyllgor trwyddedu'r Cyngor ar gyfer penderfyniad terfynol.

Gallwch ddarllen mwy am y pwyllgor trwyddedu yma - Cyngor Sir Ceredigion


Hyffordddiant Ymwybyddiaeth o Hunanladdiad - Rhifyn Gyrrwr Tacsi:

Isod mae dolen I hyfforddiant ymwybyddiaeth o hunanladdiad am ddim I yrwyr tacsi.

Wedi'i ddatblygu gyda chymorth gan yrwyr tacsis ac 16 awdurdod lleol. Mae’n rhannu gwybodaeth am hunanladdiad ac yn eich hyfforddi trwy senario sy’n ymwneud â gyrrwr tacsi a theithwyr i’ch helpu i adnabod arwyddion o ymddygiad hunanladdol a chael sgwrs â rhywun y gallech fod yn poeni amdano. Mae'r cwrs hwn wedi'i ddatblygu ar gyfer gyrwyr tacsis a hurio preifat ac mae'n cymryd tua 10 munud i'w gwblhau. Nod y cwrs hyfforddi hwn yw cefnogi gyrwyr i: Ddeall hunanladdiad yn well, Adnabod yr arwyddion y gall teithiwr fod yn cael trafferth gyda meddyliau hunanladdol, Cydnabod pwysigrwydd bod yn uniongyrchol wrth ofyn i rywun sut maen nhw'n teimlo, Sut i siarad â rhywun sy'n poeni amdano, Cyfeirio teithwyr at sefydliadau a all eu cefnogi.

Ewch i'r hyfforddiant yma Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Hunanladdiad:  Suicide Awareness Training - taxi driver edition :: Zero Suicide Alliance

Beth i’w ddisgwyl o’r fasnach tacsi a beth y mae’r fasnach tacsi yn ei ddisgwyl oddi wrthych chi

Bydd y gyrrwr yn:

  • Gyrru gyda gofal a chwrteisi tuag at deithwyr a gyrwyr eraill.
  • Defnyddio’r mesurydd teithio o fewn yr ardal drwyddedig, heblaw bod y teithiwr wedi cytuno i logi ar amser penodol, a’i fod yn llai na phris siwrnai.
  • Os yn defnyddio mesurydd teithio, peidio dechrau’r mesurydd tan fod y teithiwr wedi eistedd yn y cerbyd.
  • Os yn teithio tu allan i’r ardal drwyddedig, cytuno ar bris y daith o flaen llaw. Os nad oes pris taith wedi’i drafod o flaen llaw ar gyfer y daith sy’n mynd y tu hwnt i’r ardal drwyddedig, yna mae’n rhaid i’r gyrrwr ddefnyddio’r mesurydd teithio
  • Cymryd y ffordd fwyaf effeithlon, gan ystyried problemau traffig posibl ac adnabod gwyriadau eraill, ac egluro unrhyw wyriad o’r ffordd fwyaf uniongyrchol.

Bydd y teithiwr yn:

  • Trin y cerbyd a'r gyrrwr gyda pharch ac yn ufuddhau i unrhyw hysbysiadau swyddogol (er enghraifft, mewn perthynas â bwyta neu yfed yn y cerbyd).
  • Sicrhau fod ganddyn nhw'r modd i dalu am y daith cyn teithio. Os ydych yn dymuno talu gyda cherdyn credyd neu ddebyd neu i stopio ar y ffordd i ddefnyddio peiriant arian parod, gwiriwch gyda'r gyrrwr cyn cychwyn.
  • Bod yn ymwybodol o'r pris ar y mesurydd a hysbysu’r gyrrwr os yw'n agosáu at derfyn adnoddau ariannol y teithiwr.
  • Bod yn ymwybodol bod y gyrrwr yn debygol o gael ei gyfyngu gan reoliadau traffig mewn perthynas â lle y gall stopio'r cerbyd.

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gan yrrwr y cerbyd hurio preifat a'r hyn y gall y gyrrwr cerbyd hurio preifat ei ddisgwyl gennych chi

Bydd y gyrrwr yn:

  • Sicrhau fod y teithiwr wedi archebu ymlaen llaw a'i fod yn ymwybodol o'r pris sydd wedi’i amcangyfrif cyn cychwyn.
  • Gyrru’n ofalus a bod yn gwrtais tuag at deithiwr a defnyddwyr eraill y ffordd.
  • Cymryd y llwybr mwyaf effeithlon o ran amser, gan ystyried unrhyw broblemau traffig tebygol a gwyriadau posibl, ac eglurwch os gofynnir am unrhyw wyriad o'r llwybr mwyaf uniongyrchol.

Bydd y teithiwr yn:

  • Trin y cerbyd a'r gyrrwr gyda pharch ac yn ufuddhau i unrhyw hysbysiadau (er enghraifft, mewn perthynas â bwyta neu yfed yn y cerbyd).
  • Sicrhau fod ganddyn nhw'r modd i dalu am y daith cyn teithio. Os ydych yn dymuno talu gyda cherdyn credyd neu gerdyn debyd neu i stopio ar y ffordd i ddefnyddio peiriant arian parod, gwiriwch gyda'r gyrrwr cyn cychwyn.

Bod yn ymwybodol bod y gyrrwr yn debygol o gael ei gyfyngu gan reoliadau traffig mewn perthynas â lle y gall stopio'r cerbyd.

 

Er sylw pob gyrrwr Tacsi 

Os ydych yn yrrwr tacsi, yn yrrwr neu'n weithredwr cerbyd hurio preifat, bydd angen i chi gwblhau gwiriad treth gyflym pan fyddwch yn adnewyddu eich trwydded o fis Ebrill 2022.

Newidiadau ar gyfer ceisiadau am drwyddedau tacsi, hurio preifat neu fetel sgrap o fis Ebrill 2022 ymlaen - GOV.UK (www.gov.uk)


Tariff Sir Ceredigion

Isod mae'r tabl prisiau a osodir gan Gyngor Sir Ceredigion.

Yn unol ag Adran 65 o'r Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, caiff awdurdod lleol bennu ac amrywio’r cyfraddau neu’r prisiau o fewn ei ardal a’r holl daliadau eraill sy’n gysylltiedig â hurio cerbyd hacni. Ni ellir codi tâl sy'n fwy na'r swm a ddangosir.

Diogelu

Gallwch wylio fideo fer ar ddiogelu ar y ddolen ganlynol
https://vimeo.com/369336842/e0b3bcd9e3

Mae amddiffyn pobl fregus yn fusnes i bawb

CLYW | GWELER | DWEUD

Helpwch i ddiogelu pobl sy'n agored i niwed trwy riportio arwyddion i'w hatal a'u hamddiffyn rhag esgeulustod a chamdriniaeth.

  • Gall Arwyddion Esgeulustod gynnwys amodau byw gwael, newidiadau mewn ymddangosiad, ymddangosiad blêr, dillad budr.
  • Gall arwyddion o Gam-drin fod yn gorfforol fel cleisiau, toriadau neu losgiadau, newidiadau mewn ymddygiad neu bersonoliaeth, tynnu'n ôl o'r gymdeithas neu deulu a ffrindiau.
  • Gall arwyddion Camfanteisio Rhywiol ar Blant gynnwys gwneud siwrneiau rheolaidd ar eu pennau eu hunain i westai neu lety gwely a brecwast, derbyn anrhegion fel dillad newydd, ffonau symudol, hongian o gwmpas neu deithio gyda gwahanol oedolion, dod yn ôl neu ynysu.

Meddyliwch hefyd am arwyddion: Trais domestig, masnachu mewn pobl, caethwasiaeth fodern, anffurfio organau cenhedlu benywod, priodasau dan orfod.

Byddwch yn llygaid a chlustiau'r gymuned!

Os ydych chi'n gweld arwyddion lle mae risg, bygythiad neu berygl ar unwaith, ffoniwch yr Heddlu ar 999 Os ydych chi'n gweld unrhyw arwyddion o esgeulustod neu gam-drin emosiynol, corfforol, rhywiol a / neu ariannol, os yw'r peth lleiaf yn eich poeni, rhowch wybod amdano.

GYRRWYR TACSI: CHI yw llygaid a chlustiau EICH Cymuned. Peidiwch â'i anwybyddu, Riportiwch ef.

Manylion cyswllt

Os ydych chi'n dyst i blentyn neu oedolyn sydd mewn perygl o niwed ar unwaith, ffoniwch yr Heddlu ar 999
Os ydych chi'n gweld arwyddion o gam-drin neu esgeulustod cysylltwch â:

Porth Gofal  01545 574000
Y Tu Allan i Oriau: Tîm Dyletswydd Brys 0845 6015392

Os yw'n ddiogel - cynigiwch rif llinell gymorth cam-drin domestig “Live Fear Free” ..… 0808 8010800