Newyddion Gwobrau Caru Ceredigion
Cyhoeddi rhestr fer Gwobrau Caru Ceredigion 2025
18 Tachwedd 2025
Mae rhestr fer Gwobrau Caru Ceredigion 2025 wedi’i gyhoeddi yn swyddogol, gyda ystod drawiadol o gystadleuwyr yn y rownd derfynol yn cynrychioli 12 categori.
Mae’r gwobrau yn ddathliad o gyfraniadau a llwyddiannau eithriadol busnesau, prosiectau cymunedol, ac unigolion ar draws y sir.
Ar ôl derbyn ymateb anhygoel o dros 110 o geisiadau, mae’r enwebeion ar y rhestr fer yn amrywio o brosiectau cymunedol, gwirfoddolwyr gweithgar a digwyddiadau sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar eu cymunedau lleol, i rai o’r busnesau blaenllaw ac arloesol sy’n llwyddo i roi Ceredigion ar y map.
Roedd y panel o feirniaid wedi eu plesio’n fawr gan ansawdd a nifer y ceisiadau ar gyfer y gwobrau s’yn tynnu sylw at y talent, yr arloesedd a’r gwytnwch o fewn cymunedau, mudiadau a busenesau Ceredigion.
Bydd yr enillwyr yn cael eu datgelu mewn seremoni ar 11 Rhagfyr. O dan arweiniad cyflwynydd S4C, Dafydd Wyn Rees a newyddiadurwraig ITV Cymru Wales, Nest Jenkins, mae’r noson yn argoeli i fod yn ddathliad ac yn gydnabyddiaeth o’r cyfraniadau unigryw ac eithriadol mae pob un ohonynt wedi’u gwneud i economi a chymunedau Ceredigion.
Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet dros Economi ac Adfywio: “Bu ymateb anhygoel i Wobrau Caru Ceredigion eleni, gyda chymaint o geisiadau yn gwneud creu’r rhestr fer yn her wirioneddol i’r beirniaid. Mae’r rhestr fer eleni'n adlewyrchu’r talent, yr arloesedd a’r cydweithrediad cymunedol eithriadol ar draws Ceredigion. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi llwyddo i gyrraedd y cam nesaf. Rydym bellach yn edrych ymlaen at y noson sy’n argoeli i fod yn llwyddiant gwirioneddol.”
Mae rhestr lawn o'r cwmnïau ar y rhestr fer i'w gweld ar y tudalen Gwobrau Caru Ceredigion 2025.
Ceisiadau nawr ar agor ar gyfer Gwobrau Caru Ceredigion 2025
Yn dilyn llwyddiant Gwobrau Caru Ceredigion a gynhaliwyd am y tro cyntaf y llynedd, bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal eto eleni yn 2025 gyda chategorïau newydd sbon.
Mae Gwobrau Caru Ceredigion yn gyfle i ddathlu cyfraniadau a llwyddiannau eithriadol busnesau a phrosiectau cymunedol ac unigolion ar draws y sir.
Cynhelir y seremoni wobrwyo eleni yng Nghanolfan Lloyd Thomas, Campws Llanbedr Pont Steffan, Prifysgol y Drindod Dewi Sant ar nos Iau, 11 Ragfyr 2025.
Bydd 12 categori, yn amrwyio o arloesedd ac ysbrydoliaeth o fewn ein cymunedau, i entrepreneriaeth a diwgyddiadau, neu funsesau sy’n rhoi Ceredigion ar y map. Yn ogystal â hyn, uchafbwynt y seremoni fydd cyflwyno prif wobr Gwobrau Caru Ceredigion 2025 i’r enillydd cyffredinol o blith y categorïau amrywiol.
Mae ceisiadau ar gyfer y gwobrau nawr ar agor a gallwch gael gwybodaeth am y categorïau amrywiol, yn ogystal â gwybodaeth am sut i enwebu ac ymgeisio ar ein gwefan.
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw hanner nos dydd Llun, 03 Tachwedd 2025.
Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Economi ac Adfywio: “Mae cymaint o fusnesau llewyrchus, grwpiau cymunedol gweithgar, a digwyddiadau o’r radd flaenaf yn cael eu cynnal yma yng Ngheredigion. Dyma’r cyfle i'w dathlu a’u clodfori. Os ydych chi’n gyfrifol am un o’r rhain, neu’n adnabod rhywun sy’n haeddu ennill un o Wobrau Caru Ceredigion, ewch ati i'w henwebu nawr. Mae’n argoeli i fod yn noson i'w chofio, ac mae’r statws sy’n dod gyda’r gwobrau hyn yn rhoi hwb a chydnabyddiaeth ychwanegol i fusnesau a mudiadau nodedig ein sir.”
I fod yn gymwys am unrhyw gategori, rhaid i gymunedau a busnesau fod yn gweithredu neu fod â lleoliad corfforol yng Ngheredigion, gydag unrhyw weithgareddau perthnasol sy’n rhan o'r cais wedi'u cynnal rhwng 1af o Dachwedd 2024 tan 1af o Rhagfyr 2025.
Mae'r digwyddiad yn cael ei drefnu gan Cynnal y Cardi o dan faner Caru Ceredigion. Mae Caru Ceredigion yn ymgyrch sy'n cael ei llywio gan y gymuned gyda'r nod o feithrin ymdeimlad o falchder yn y sir, gan annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n gwella'r amgylchedd, yn cefnogi busnesau lleol ac yn cryfhau'r gymuned.
Mae Cynnal y Cardi, a ariennir drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, yn gweithio i helpu i hybu'r economi a mynd i'r afael â rhai o'r heriau sy'n wynebu pobl a mentrau, gan ganolbwyntio ar ddatblygu cyfleoedd i helpu'r economi i dyfu a ffynnu.