Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Meini Prawf y Barnwyr

Mae’n rhaid i geisiadau ddod i law erbyn hanner nos, Dydd Llun 3ydd o Dachwedd, 2025.

Bydd y beirniaid yn llunio rhestr fer o geisiadau ar gyfer pob categori (uchafswm o 3 fesul categori). Bydd y rhain wedyn yn mynd ymlaen i’r rownd derfynol ar y noson ar gyfer y gwobrau unigol.

Bydd y ceisiadau ar y rhestr fer yn cael eu cyhoeddi erbyn 20 Tachwedd 2025 fan bellaf.

Bydd disgwyl i bob cynnig ar y rhestr fer cael eu ffilmio ar gyfer darllediad/cyhoeddiad yn ystod y seremoni wobrwyo.

Bydd enillwyr pob categori yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni ar nos Iau, 11eg o Ragfyr ynghyd â phrif enillydd Gwobrau Caru Ceredigion 2025.

Dim ond gan fusnesau/sefydliadau sy'n bodloni’r Cydymffurfiad Cyfreithiol a Thrwyddedu cyfredol a pherthnasol y derbynnir ceisiadau. Mae'r beirniaid yn cadw'r hawl i wrthod cynnig os nad oes modd cadarnhau hyn yn eu barn nhw.

Rhaid i fusnesau sy'n gweini bwyd fod â sgôr hylendid bwyd o dri allan o pump o leiaf. Rydym yn cadw'r hawl i wrthod cais ar unrhyw adeg cyn y seremoni wobrwyo os na chaiff y gofyniad sylfaenol hwn ei fodloni. Gwneir eithriad ar gyfer busnesau newydd nad ydynt wedi cael eu graddio eto.

Croesewir unrhyw wybodaeth ychwanegol megis cynlluniau busnes, tystlythyrau, ffotograffau a allai gryfhau eich enwebiad.

Mae penderfyniad y beirniaid yn derfynol ar gyfer pob categori.