
Gwobr Ysbrydoliaeth Caru Ceredigion
Nôd y wobr hon yw cydnabod unigolion sydd wedi mynd gam ymhellach i wneud gwahaniaeth yn eu cymuned leol neu fusnes.
Mae'r beirniaid yn chwilio am dystiolaeth eich bod wedi:
- Dangos gallu i ysbrydoli a thanio brwdfrydedd eraill
- Dangos arweinyddiaeth
- Codi arian at achos da
- Mynd ati i wirfoddoli
- Cyfrannu'n ddiflino i'r gymuned
- Cael effaith ar ysbryd cymunedol
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â chystadlu yn y categori hwn, anfonwch e-bost at gwobrauceredigion@technegol.co.uk.
Argymhellir eich bod yn creu ac yn cadw eich cais mewn dogfen ar wahân cyn copïo a gludo'ch ceisiadau i'r ffurflen gais isod. Bydd hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i chi o ran golygu eich cais a sicrhau nad oes dim yn cael ei golli cyn ei gyflwyno.
Linc i’r ffurflen gais: Gwobr Ysbrydoliaeth Caru Ceredigion