
Gwobr Llwybr Llwyddiant
Cyflwynir y wobr hon i unigolyn sy’n dilyn prentisiaeth neu’n sy’n dilyn rhaglen o hyfforddiant gyda busnes neu sefydliad sy’n gweithredu yng Ngheredigion ac sydd wedi bod yn rhagorol ym mhob agwedd ar ei hyfforddiant. Gall hefyd gael ei gyflwyno i gwmni, gyflogwr neu sefydliad sydd yn cynnig rhaglen o hyfforddiant rhagorol neu sy’n darparu cefnogaeth i ddatblygu yn broffesiynol mewn maes neu ddiwydiant benodol.
Bydd angen i'r unigolyn sydd wedi derbyn yr hyfforddiant lenwi cwestiynau 1, 2 a 3. Bydd angen i'r cyflogwr/cwmni neu sefydliad lenwi cwestiynau 3-6 ar y ffurflen gais.
Ar gyfer yr unigolyn sy’n dilyn yr hyfforddiant, bydd y beirniaid yn chwilio am dystiolaeth eich bod wedi:
- Cwblhau prentisiaeth neu raglen hyfforddiant yn ddiweddar (yn y 12 mis diwethaf) gyda busnes/sefydliad yng Ngheredigion
- Caffael a chymhwyso datblygiad personol/proffesiynol yn effeithiol i'ch rôl
- Cael effaith gadarnhaol ac ysbrydoli eraill a/neu arddangos gwaith tîm a chydweithio effeithiol
- Bydd angen datganiad ategol gan eich cyflogwr
Ar gyfer y Cwmni/Cyflogwr/Sefydliad sydd yn cynnig y rhaglen o hyfforddiant, darparu cefnogaeth, bydd y beirniaid yn chwilio am dystiolaeth eich bod wedi:
- Darparu prentisiaeth neu rhaglen hyfforddiant yn ddiweddar (yn y 12 mis diwethaf) i brentis neu hyfforddai yng Ngheredigion
- Cynnig cefnogaeth ragorol i unigolyn/unigolion ddatblygu’n bersonol/broffesiynol yn effeithiol
- Cael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad broffesiynol ac ysbrydoli unigolyn drwy gynnig rhaglen o hyfforddiant, datblygiad broffesiynol a chefnogaeth ragorol
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â chystadlu yn y categori hwn, anfonwch e-bost at gwobrauceredigion@technegol.co.uk.
Argymhellir eich bod yn creu ac yn cadw eich cais mewn dogfen ar wahân cyn copïo a gludo'ch ceisiadau i'r ffurflen gais isod. Bydd hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i chi o ran golygu eich cais a sicrhau nad oes dim yn cael ei golli cyn ei gyflwyno.
Linc ffurflenni cais - Gwobr Llwybr Llwyddiant