Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Gwobr Digwyddiad y Flwyddyn

Mae’r wobr hon yn cael eu rhannu’n ddwy categori, digwyddiad mawr y flwyddyn a digwyddiad bach y flwyddyn ac mi fydd y panel yn asesu pa gategori sydd mwyaf addas i'r ymgeisydd.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i sefydliadau/busnesau/unigolion sydd wedi trefnu digwyddiad yng Ngheredigion yn 2025 sydd wedi cael effaith ehangach ar y sir, drwy ddenu mwy o ymwelwyr i’r ardal, cael effaith economaidd gadarnhaol a chodi proffil Ceredigion.

Mae'r beirniaid yn chwilio am dystiolaeth eich bod wedi:

  • Cynyddu nifer yr ymwelwyr i'r ardal
  • Trefnu digwyddiad sydd wedi manteisio ar adnoddau naturiol a threftadaeth Ceredigion
  • Mynd ati i godi arian
  • Ymgysylltu a gwneud gwahaniaeth i unigolion, cymunedau, a'r economi leol
  • Cael effaith economaidd gadarnhaol ar y Sir

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â chystadlu yn y categori hwn, anfonwch e-bost at gwobrauceredigion@technegol.co.uk.

Argymhellir eich bod yn creu ac yn cadw eich cais mewn dogfen ar wahân cyn copïo a gludo'ch ceisiadau i'r ffurflen gais isod. Bydd hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i chi o ran golygu eich cais a sicrhau nad oes dim yn cael ei golli cyn ei gyflwyno.

Linc i’r ffurflen gais - Gwobr Digwyddiad y Flwyddyn