Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Gwobrau Caru Ceredigion 2025

Gwobrau Caru Ceredigion 2025 11 RhagfyrMae Gwobrau Caru Ceredigion 2025 yn ddathliad o’r goreuon o blith ein cymunedau a’n busnesau.

Cynhelir y seremoni wobrwyo yng Nghanolfan Lloyd Thomas, Campws Llanbedr Pont Steffan, Prifysgol y Drindod Dewi Sant ar nos Iau, 11eg Ragfyr 2025. Bydd y gwobrau’n cydnabod cyfraniadau a llwyddiannau eithriadol busnesau, prosiectau cymunedol, ac unigolion ar draws y sir.

Mae ceisiadau ar gyfer y gwobrau ar gau.

A hithau’n un o ardaloedd mwyaf prydferth ac unigryw’r wlad, mae gwaith gwych yn digwydd yng Ngheredigion ar hyn o bryd, a dylid dathlu hyn. Edrychwn ymlaen at gydnabod gwaith arloesol, blaengar ac ysbrydoledig ein trigolion a’n busnesau, wrth helpu i hybu ysbryd o gydweithio a balchder cymunedol.

Pob lwc!

Meini Prawf y Barnwyr

Meini Prawf y Barnwyr

Meini Prawf y Barnwyr
Newyddion Gwobrau Caru Ceredigion

Newyddion Gwobrau Caru Ceredigion

Newyddion Gwobrau Caru Ceredigion
Gwobr Mudiad Cymunedol

Gwobr Mudiad Cymunedol

Mae'r wobr hon yn agored i unrhyw grŵp cymunedol yng Ngheredigion fel grwpiau ieuenctid, Cynghorau Cymuned, clybiau chwaraeon, pwyllgorau neuaddau pentref, a grwpiau diddordeb cymunedol sydd wedi gwneud gwahaniaeth trwy fod yn arloesol ac sydd wedi cael effaith trwy wneud pethau'n wahanol.

Enillydd: Hwb Cymunedol Borth

Gwobr Mudiad Cymunedol
Gwobr Ysbrydoliaeth Caru Ceredigion

Gwobr Ysbrydoliaeth Caru Ceredigion

Nôd y wobr hon yw cydnabod unigolion sydd wedi mynd gam ymhellach i wneud gwahaniaeth yn eu cymuned leol neu fusnes.

Enillydd: Rhys Jones, Cattle Strength

Gwobr Ysbrydoliaeth Caru Ceredigion
Gwobr Digwyddiad Bach y Flwyddyn

Gwobr Digwyddiad Bach y Flwyddyn

Mae’r wobr hon yn agored i sefydliadau/busnesau/unigolion sydd wedi trefnu digwyddiad ar raddfa leol/gymunedol yng Ngheredigion yn 2024/2025 sydd wedi cael effaith ehangach ar y gymuned, drwy ddenu mwy o ymwelwyr i’r ardal (llai na 4,000), cael effaith economaidd gadarnhaol a chodi proffil Ceredigion.

Enillydd: Sgarmes - Christmas Singalong

Gwobr Digwyddiad y Flwyddyn
Gwobr Digwyddiad Mawr y Flwyddyn

Gwobr Digwyddiad Mawr y Flwyddyn

Mae’r wobr hon yn agored i sefydliadau/busnesau/unigolion sydd wedi trefnu digwyddiad ar raddfa fawr yng Ngheredigion yn 2024/2025 sydd wedi cael effaith ehangach ar y sir, drwy ddenu mwy o ymwelwyr i’r ardal (mwy na 4,000), cael effaith economaidd gadarnhaol a chodi proffil Ceredigion.

Enillydd: Aber Cyclefest

Gwobr Digwyddiad y Flwyddyn
Gwobr Entrepreneur Ifanc

Gwobr Entrepreneur Ifanc

Nôd y wobr hon yw cydnabod unigolion ifanc sydd wedi dangos yr awydd i lwyddo gyda’u syniadau eu hunain ac wedi meddu ar yr uchelgais i droi’r syniadau hynny’n fusnes llwyddiannus. Mae'r wobr hon yn agored i unigolion 30 oed ac iau.

Enillydd: Gethin a Iolo ap Dafydd, Aberpoeth

Gwobr Entrepreneur Ifanc
Gwobr Creu Dyfodol Lleol

Gwobr Creu Dyfodol Lleol

Gwobr sy’n adlewyrchu y posibilrwydd o yrfa a ddyfodol disglair yn Ngheredigion.

Enillydd: Pugh Computers

Gwobr Creu Dyfodol Lleol
Gwobr Darganfod Ceredigion

Gwobr Darganfod Ceredigion

Mae'r wobr hon yn agored i fusnesau Ceredigion yn y sector twristiaeth a lletygarwch sydd wedi bod yn llwyddiannus wrth hybu'r diwydiant twristiaeth yn y Sir. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad eithriadol i ddarparu profiad rhagorol i ymwelwyr, twristiaid neu deithwyr busnes.

Enillydd: Moody Meadows

Gwobr Darganfod Ceredigion
Gwobr Bwyd-Amaeth

Gwobr Bwyd-Amaeth

Mae'r wobr hon yn agored i fusnesau sy'n gweithio yn y sectorau bwyd neu amaethyddiaeth yng Ngheredigion ac sy’n gallu dangos sut mae'r busnes wedi cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd gwyrdd, yr economi leol, a/neu'r gymuned.

Enillydd: Llaeth Gwarffynnon

Gwobr Bwyd Amaeth
Gwobr Llwybr Llwyddiant

Gwobr Llwybr Llwyddiant

Cyflwynir y wobr hon i unigolyn sy’n dilyn prentisiaeth neu’n sy’n dilyn rhaglen o hyfforddiant gyda busnes neu sefydliad  sy’n gweithredu yng Ngheredigion ac sydd wedi bod yn rhagorol ym mhob agwedd ar ei hyfforddiant. Gall hefyd gael ei gyflwyno i gwmni, gyflogwr neu sefydliad sydd yn cynnig rhaglen o hyfforddiant rhagorol neu sy’n darparu cefnogaeth i ddatblygu yn broffesiynol mewn maes neu ddiwydiant benodol.

Enillydd: Rakaia McAdum Duff, Cwmni Theatr Arad Goch

Gwobr Llwybr Llwyddiant
Gwobr Manwerthu

Gwobr Manwerthu

Mae'r wobr hon yn agored i fusnesau manwerthu yng Ngheredigion sy'n dangos effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd, yr economi leol a/neu'r gymuned.

Enillydd: Crwst

Gwobr Manwerthu
Gwobr Caru'ch Cymuned

Gwobr Caru'ch Cymuned

Mae’r wobr efydd hon yn cydnabod ac yn dathlu gwaith cymunedol trefi a phentrefi ledled Ceredigion wrth gadw eu cymuned yn daclus, trefnu digwyddiadau a darparu gwasanaethau i bobl yr ardal. Nod ymgyrch Caru'ch Cymuned yw meithrin a dathlu ymdeimlad o falchder mewn cymunedau ledled y sir, tra'n annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau a mentrau sy'n gwella'r amgylchedd, cefnogi busnesau lleol, a chryfhau cydlyniant a gwytnwch cymunedol. Mae tri chategori yn y gystadleuaeth ar gyfer Gwobrau 2025; Pentref bach, Pentref a Thref.

Enillydd: 7
Tref: Llanbedr Pont Steffan a Tregaron
Pentref: Llangeitho
Pentref bach: Llangynfelyn, Cross Inn, Drefach, Llangybi

Caru'ch Cymuned
Gwobr Ceredigion a’r Byd

Gwobr Ceredigion a’r Byd

Mae’r wobr hon yn cydnabod busnesau neu fentrau Ceredigion sydd wedi helpu i roi Ceredigion ar y map, ac sydd wedi helpu i godi proffil y sir y tu allan i Gymru.

Enillydd: Gwasg Gomer Press

Gwobr Ceredigion ar Byd
Gwobr Caru Ceredigion 2025

Gwobr Caru Ceredigion 2025

Uchafbwynt y seremoni fydd cyflwyno prif wobr Gwobrau Caru Ceredigion 2025 i'r enillydd cyffredinol o blith y categorïau amrywiol.

Enillydd: Aber Cyclefest

Gwobr Caru Ceredigion 2025