Mae arfordir Ceredigion yn ymestyn am hanner can milltir, gan gynnwys rhai o'r traethau a'r moroedd glanaf ym Mhrydain, a llawer ohonynt wedi ennill gwobrau'r Faner Las a'r Arfordir Glas.
Mae Bae Ceredigion yn gartref i'r unig ddolffiniaid trwynbwl yn y Deyrnas Gyfunol sy'n aros yn yr un lle dros yr haf, yn ogystal â llawer o fathau eraill o fywyd gwyllt.
Polisi Rheoli Harbyrau
Mae Polisi Rheoli Harbyrau Ceredigion yn ymdrin ag angori cychod a llongau ym mhorthladdoedd Ceredigion (Aberystwyth, Aberaeron a Cheinewydd)
Mae yno is-ddeddfau mewn grym sy'n rheoleiddio mordwyo cychod hamdden yn yr ardaloedd o amgylch y traethau canlynol:
Aberaeron, Aberporth, Aberystwyth, Y Borth, Clarach, Llanon, Llangrannog, Llanrhystud, Mwnt, Ceinewydd, Penbryn.
Mae'r is-ddeddfau hynny'n datgan:
- Ni ddylid hwylio Cychod Hamdden yn gyflymach nag 8 môr-filltir yr awr yn yr ardal gyfyngedig o amgylch pob traeth rhwng dechrau mis Ebrill a diwedd mis Medi.
- Gwaherddir gyrru neu hwylio cychod hamdden mewn ffordd beryglus neu heb ofal a sylw dyladwy, neu heb ystyried eraill yn briodol.
- Gwaherddir defnyddio cychod hamdden wedi'u gyrru gan beiriant tanio mewnol heb declyn tawelu addas wedi'i osod.
- Bydd unrhyw unigolyn sy'n cyflawni trosedd dan yr is-ddeddfau hyn yn atebol yn sgil euogfarn ddiannod i dalu dirwy na fydd yn fwy na £400.
Tablau Llanw
I weld Tablau Llanw Ceredigion, cliciwch Tablau Llanw Ceredigion - Gwefan Darganfod Ceredigion.
Cyrsiau a Phellteroedd Morwrol
Nodir y cyrsiau a'r pellteroedd isod fel canllaw, a dylai morwyr sy'n bwriadu mordwyo ar hyd y cyrsiau hyn sicrhau bob amser eu bod yn fodlon fod hynny'n ddoeth ac yn ddiogel.
O fynedfa Harbwr Aberystwyth :- | Cwrs | Pellter (Môr-filltiroedd) |
---|---|---|
Bwi Sarn Badrig | 324° (T) | 20.5 |
Bwi Sarn y Bwlch | 334° (T) | 11 |
Bwi Sarn Cynfelyn (Patches) | 282° (T) | 6.8 |
Aberaeron | 213° (T) | 11 |
Ceinewydd | 219° (T) | 14.5 |
Aberporth | 225° (T) | 23.5 |
Ynys Aberteifi | 233° (T) | 27.75 |
Pen Strwmbwl (Abergwaun) | 238° (T) | 43.5 |
Arfordir Treftadaeth Forol Ceredigion, Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion ac Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a'r Sarnau
Mae'r glannau, y clogwyni a'r dyfroedd yn gartref i doreth o fywyd arfordirol a morol, gan gynnwys dolffiniaid trwynbwl, llamhidyddion, morloi llwyd a llawer o wahanol adar a physgod. Sefydlwyd Arfordir Treftadaeth Forol Ceredigion i gynorthwyo wrth ddiogelu natur ddigyffwrdd yr arfordir a'r bywyd gwyllt. Mae'r Undeb Ewropeaidd wedi creu Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ym Mae Ceredigion a Phen Llŷn a'r Sarnau er mwyn diogelu'r cynefinoedd a'r rhywogaethau arbennig sydd o fewn i'r ardaloedd hyn (a'r tu allan, fel y bo'r angen), gan gynnwys riffiau'r llynghyren ddiliau, lampreiod y môr ac ogofâu môr. Caiff y nodweddion hynny eu diogelu dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010, sydd hefyd, ynghyd â Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd), yn amddiffyn dolffiniaid trwynbwl a llamhidyddion yn benodol, ymhlith rhywogaethau eraill sy'n byw ar yr arfordir ac yn y môr. Dengys ymchwil y gall cychod modur cyflym amharu ar ddolffiniaid a llamhidyddion, naill ai drwy daro yn eu herbyn, neu wrth i'r sŵn o'r modur ymyrryd â system ecoleoli'r anifail. Yn ogystal â hynny, gall gweithgareddau fel arfordira a dringo clogwyni aflonyddu ar adar yn nythu neu forloi'n magu cenawon.
Felly, helpwch ni i ddiogelu'r ardal hon sydd mor hoff gan gymaint o bobl. Gallwch wneud hynny drwy:
- Beidio â mynd yn gyflymach nag 8 not
- Dilyn arfer da wrth hwylio cychod gerllaw bywyd gwyllt
- Hysbysu'r Harbwrfeistr ynghylch unrhyw achos o rywun yn aflonyddu ar fywyd gwyllt yn fwriadol
- Cadw at y Cod Ymddygiad
Crëwyd Parth Cychod Modur ar gyfer pobl sydd am deithio'n gyflym a'n ddiogel. Nid oes neb yn nofio yn yr ardal hon ac mae wedi'i chysgodi rhag y gwynt. Mae gan yr Harbwrfeistr yr awdurdod i ddiddymu trwyddedau lansio pobl nad ydynt yn talu. £400 yw uchafswm y ddirwy am dorri'r cyfyngiad cyflymder a nodir yn yr is-ddeddfau.
Y Cod Ymddygiad:
- Cychod
- Defnyddiwch bob cwch yn ofalus gan roi sylw i ddiogelwch y teithwyr a pharchu pobl eraill sy'n defnyddio'r môr
- Morloi
- Peidiwch ag aflonyddu ar forloi na'u cenawon ar y traeth. Gadewch lonydd iddynt, gan y gallant fynd i ofid os ceisiwch fynd atynt.
- Cadwch reolaeth dros gŵn a chadwch nhw draw o'r morloi.
- Adar
- Wrth hwylio, cadwch 100 metr rhyngoch chi a'r clogwyni yn ystod y tymor bridio (1 Mawrth - 31 Gorffennaf)
- Peidiwch â hwylio yn syth heidiau o adar sy'n nythu neu'n bwydo ar y môr.
- Peidiwch â gwneud sŵn diangen ger y clogwyni.
- Pysgota
- Peidiwch â thaflu cyfarpar pysgota i'r môr - ewch ag ef adref gyda chi i'w waredu'n iawn.
- Jet-Sgïau
- Peidiwch â lansio na gyrru Jet-sgïau yn yr ardal.
- Plymwyr
- Dilynwch God Ymddygiad Clwb Tanddwr Prydain (BSAC)
- Traethau
- Ewch â'ch holl sbwriel adref gyda chi.
- Cadwch at yr is-ddeddfau cŵn.
- Os byddwch yn symud unrhyw greigiau ar y traeth, rhowch nhw'n ôl yn eu lle – bydd yr anifeiliaid sy'n byw oddi tanynt yn marw'n fuan heb gysgod
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion (Saesneg yn unig) neu ewch i Fan Cychod Bae Ceredigion, sydd y drws nesaf i swyddfa'r Harbwrfeistr yng Ngheinewydd.
Anifeiliaid Morol yn Sownd ar Lan y Môr
Anifeiliaid Byw yn Sownd
Os dewch chi o hyd i ddolffin, morfil, llamhidydd neu grwban môr byw yn sownd ar y traeth, ewch ati ar unwaith i gysylltu â naill ai:
- Yr RSPCA 0300 1234999
- British Divers Marine Life Rescue 01825 765546
- Welsh Marine Life Rescue 07970 285086.
- Mae'n arferol i forloi orwedd ar lan y môr. Ni ddylech alw'r RSPCA, y BDMLR na'r WMLR oni bai eich bod yn pryderu ynghylch lles yr anifail.
Os oes modd, cadwch bobl a chŵn draw o'r anifail tan y daw rhywun i gynorthwyo.
Anifeiliaid Marw yn Sownd
Os dewch chi o hyd i ddolffin, morfil, llamhidydd, crwban môr, heulforgi neu forlo, hyd yn oed os ydyw wedi dechrau pydru, cysylltwch â Marine Environmental Monitoring, sy'n rhan o'r UK Cetacean Strandings Investigation Programme> (CSIP) ar 01348 875000. Mae'r rhaglen yn cadw cofnodion o farwolaethau pob rhywogaeth, a byddant yn dod i nôl cyrff addas i'w harchwilio er mwyn darganfod pam fu farw'r anifail a monitro iechyd ein moroedd. Cewch fwy o wybodaeth o wefan strandings.com (Saesneg yn unig) neu ukstrandings.org (Saesneg yn unig).
Diogelwch
Gall arfordir Ceredigion fod yn lle i bawb gael hwyl, ond gall hefyd fod yn beryglus os na ddilynir y cyfarwyddiadau o ran diogelwch. Dyma ambell air o gyngor er mwyn i chi fedru mwynhau'r môr yn ddiogel:
- Sicrhewch eich bod yn cael eich hyfforddi i gyflawni'ch gweithgaredd yn ddiogel
- Cymrwch olwg ar ragolygon y tywydd a gwybodaeth am y llanw cyn bwrw'r cwch i'r dŵr
- Gwisgwch siaced achub, gan sicrhau ei bod yn ffitio'n iawn a'i bod yn addas ar gyfer eich gweithgaredd
- Sicrhewch y gallwch gysylltu ag eraill - ewch â chwiban neu ffôn symudol gyda chi
- Sicrhewch fod pobl eraill yn gwybod eich bod yn mynd allan ar y môr, a phryd yr ydych yn bwriadu dod yn ôl
- Peidiwch ag yfed alcohol cyn mynd allan ar y môr
Cysylltwch
Allech chi gysylltu â ni ar y ffyrdd canlynol:
Ein Ffurflen Cyswllt Ar-lein
Post:
Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol
Canolfan Rheidol
Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3UE
Ffôn:
01545 572572
Mewn argyfwng y tu hwnt i oriau arferol:
- Ardal y Gogledd - 01970 625277
- Ardal y De - 01239 851604