Mae Cynllun y Bathodyn Glas yn drefniant cenedlaethol sy'n rhoi gostyngiadau parcio i yrwyr neu deithwyr sydd ag anawsterau cerdded difrifol. Mae'r Bathodyn yn ddilys yn holl wledydd yr Undeb Ewropeaidd.

Y nod yw galluogi deiliaid y bathodyn i barcio'n agos i'w cyrchfan, ond dim ond wrth barcio ar y stryd y mae'r consesiynau cenedlaethol yn berthnasol.

Noder mai dim ond deiliaid Bathodyn Glas mewn cerbydau wedi'u heithrio o dreth sy'n dangos y bathodyn glas sy'n gallu parcio am ddim ym meysydd parcio Talu ac Arddangos Ceredigion.

Ble allaf i barcio?

Parcio ar y Stryd

Parcio oddi ar y Stryd

  • Gall deiliaid Bathodyn Glas barcio ar linellau melyn dwbl am hyd at dair awr (ac eithrio pan fo gwaharddiad ar lwytho neu ddadlwytho, neu gyfyngiadau eraill)
  • Gall deiliaid Bathodyn Glas barcio lle bynnag y mae llefydd parcio penodol wedi'u neilltuo ar gyfer pobl anabl ar y briffordd gyhoeddus.

Ble i beidio â pharcio

Nid trwydded i barcio yn rhywle mo'r Bathodyn Glas. Ni ddylech barcio yn yr achosion canlynol:

  • Mewn cyfnod pan waherddir llwytho a dadlwytho
  • Pan fo llinellau gwyn dwbl ynghanol y ffordd, hyd yn oed os mai llinell doredig yw un ohonynt
  • Ar unrhyw glirffordd
  • Ar unrhyw groesfan i gerddwyr – gan gynnwys croesfannau Sebra, Pelican, Twcan a Phâl
  • Mewn llefydd parcio sydd wedi'u neilltuo ar gyfer defnyddwyr penodol, er enghraifft, pobl â chaniatâd, cerbydau nwyddau, tacsis, beiciau
  • Lle mae cyfyngiadau parcio dros dro mewn grym ar hyd rhan o'r ffordd, er enghraifft, conau yn cyfyngu ar aros
  • Ar farciau 'Cadwch yn Glir' y tu allan i ysgolion yn ystod yr oriau a nodir ar y plât dim aros.

Hefyd, ni ddylech barciolle byddai'ch car yn peri rhwystr neu berygl i eraill. Dyma rai enghreifftiau tebygol:

  • Ger mynedfa ysgol, safle bws, ar dro yn y ffordd, ger ael bryn neu ar bont grom
  • Lle byddai'n anodd i bobl eraill weld yn glir, er enghraifft, yn agos at gyffordd
  • Lle byddai'r car yn culhau'r ffordd, er enghraifft, ger ynys draffig neu waith ar y ffordd
  • Lle byddai'r car yn atal traffig, er enghraifft, ar ffordd gul neu ger mynedfa
  • Lle mae cerbydau'r gwasanaethau brys yn aros neu'n mynd i mewn ac allan, er enghraifft, mynedfa ysbyty
  • Lle mae'r cwrbyn wedi'i ostwng neu'r ffordd wedi'i chodi i greu croesfan i gerddwyr
  • Ar balmant, oni bai fod arwyddion yn caniatáu hynny.

Sut i ddefnyddio'r Bathodyn

Wrth ddefnyddio'ch bathodyn dylech sicrhau eich bod yn ei adael ar ochr chwith y panel blaen, gyda'r wybodaeth berthnasol yn wynebu'r ffenestr flaen. Os nad oes panel yn nhu blaen eich cerbyd, dylech roi'r bathodyn mewn lle amlwg fel bod modd gweld y manylion perthnasol o'r tu allan.

Ni ddylid arddangos y bathodyn ond wrth elwa ar y buddion parcio dan y Cynllun, ac eithrio pan fo rhywun arall heblaw am ddeiliad y bathodyn yn gyrru'r cerbyd er mwyn cael mynediad i rywle neu ddod allan ohono (pan fo'r lle hwnnw ond yn agored i gerbydau sy'n arddangos Bathodyn Glas) er mwyn codi neu ollwng y sawl sy'n dal y Bathodyn Glas.

Rhoddir Bathodynnau i fudiadau sy'n gofalu am bobl anabl, ac ni ddylai pobl nad ydynt yn anabl ddefnyddio'r rheiny er eu budd eu hunain. Ni ddylid arddangos y bathodynnau hyn ond pan ddefnyddir cerbyd i gludo pobl a fyddai fel arfer yn gymwys dan y Cynllun, pan fydd y bobl hynny yn mynd i mewn ac allan o'r cerbyd.

Nid yw'r bathodynnau'n para ond am dair blynedd. Pan fydd angen un newydd arnoch, gwnewch gais i Gyngor Sir Ceredigion 4 wythnos cyn i'r un cyfredol ddod i ben.

Nodwch nad yw negeseuon atgoffa yn cael eu dosbarthu mwyach i atgoffa deiliaid Bathodynnau Glas bod eu bathodyn yn dod i ben. Felly, gwiriwch y dyddiad y daw eich bathodyn i ben a chaniatewch ddigon o amser i’w adnewyddu drwy gwblhau ffurflen gais newydd.

Bydd yn rhaid i chi ddychwelyd y Bathodyn i Gyngor Sir Ceredigion os na fydd ei angen arnoch mwyach.

Camddefnyddio'r Bathodyn

  • Gellid tynnu'ch bathodyn yn ôl os ydych chi'n ei gamddefnyddio neu'n caniatáu rhywun arall i'w gamddefnyddio.
  • Mae'n drosedd i rywun nad yw'n anabl ddefnyddio bathodyn glas, a gallant gael dirwy o hyd at £1,000 am wneud hynny.
  • Mae'n drosedd gyrru cerbyd gan arddangos Bathodyn Glas pan nad yw deiliad y bathodyn yn y cerbyd, neu os oes rhywun heblaw am ddeiliad y bathodyn yn gyrru'r cerbyd er mwyn cael mynediad i rywle neu ddod allan ohono (pan fo'r lle hwnnw ond yn agored i gerbydau sy'n arddangos Bathodyn Glas) er mwyn codi neu ollwng y sawl sy'n dal y Bathodyn Glas.

Bydd pobl nad ydynt yn anabl sy'n parcio mewn llefydd a neilltuwyd ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas yn agored i ddirwy dan y trefniadau gorfodi parcio.