Beth yw Gorfodi Parcio Sifil?

Gorfodi Parcio Sifil yw'r enw ar y gwasanaeth y mae Awdurdodau Lleol yn ei ddarparu ar ôl i'r pwerau ar gyfer gorfodi tramgwyddau parcio gael eu trosglwyddo o'r Heddlu i'r Awdurdodau Lleol. Mae Deddf Rheoli Traffig 2004 yn darparu ar gyfer hyn ac mae'n cynnwys Canllawiau Statudol a Chanllawiau Gweithredol sy'n nodi sut y dylid rheoli'r drefn hon a'r broses apelio ddilynol ar gyfer y tocynnau sydd wedi'u rhoi.

Beth yw manteision Gorfodi Parcio Sifil?

Prif fwriad y Swyddogion Gorfodi Sifil yw sicrhau bod y traffig yn llifo'n ddidrafferth ac annog pobl i gydymffurfio â'r cyfyngiadau parcio. Mae cydymffurfio â'r cyfyngiadau parcio yn holl bwysig er mwyn sicrhau diogelwch gyrwyr a cherddwyr ar y ffyrdd.

Mae prif fanteision Gorfodi Parcio Sifil yn cynnwys y canlynol:

  • Gwella diogelwch i yrwyr a cherddwyr
  • Gwella llif y traffig
  • Medru gweld yn well wrth ddod allan o gyffyrdd
  • Gostyngiad mewn tagfeydd traffig sy'n arwain at well ansawdd aer
  • Mwy o fynd a dod yng nghyswllt mannau parcio

Sut fydd y gwasanaeth newydd yn gweithio?

Bydd Ceredigion yn cyflogi tîm o 6 o Swyddogion Gorfodi Sifil parhaol a 2 swyddog tymhorol er mwyn gofalu am barcio ar y stryd ac oddi ar y stryd. Bydd y Swyddogion Gorfodi Sifil yn gweithio ar draws Ceredigion 7 diwrnod yr wythnos ac mae'n debygol y bydd Swyddogion yn cael eu gweld mewn lleoliadau lle nad oedd wardeniaid traffig yn gweithio'n flaenorol. Bydd y Swyddogion Gorfodi Sifil yn rhoi Hysbysiadau Talu Cosb i gerbydau sydd wedi'u parcio yn groes i gyfyngiadau parcio ar y stryd ac oddi ar y stryd. Gall y cyfyngiadau hyn gynnwys; parcio ar linellau melyn, aros yn rhy hir mewn cilfachau parcio, parcio ar farciau igam-ogam ar groesfannau i gerddwyr, parcio ar draws cyrbau isel a pharcio mwy na 50cm o ymyl y cwrb.

Beth fydd rôl yr heddlu o dan y drefn newydd?

Yr heddlu fydd yn dal yn gyfrifol am ymdrin â throseddau traffig a rhoi hysbysiadau cosb benodedig i yrwyr sy'n achosi rhwystr. Bydd yr heddlu hefyd yn parhau i roi hysbysiadau cosb benodedig am barcio ar farciau igam-ogam ar groesfannau i gerddwyr.

Beth yw Hysbysiad Talu Cosb?

Rhoddir Hysbysiad Talu Cosb i gerbydau sy'n parcio'n groes i reoliadau parcio ar y stryd neu oddi ar y stryd ym meysydd parcio'r Cyngor. Gall y cyfyngiadau hyn gynnwys; parcio ar linellau melyn, aros yn rhy hir mewn cilfachau parcio, parcio ar farciau igam-ogam ar groesfannau i gerddwyr, parcio ar draws cyrbau isel a pharcio mwy na 50cm o ymyl y cwrb. Unwaith y bydd Hysbysiad Talu Cosb wedi'i roi, ni all y Swyddog Gorfodi Sifil ganslo'r tocyn.

Sut fedraf osgoi Hysbysiad Talu Cosb?

  • Peidiwch â mynd yn groes i'r rheoliadau parcio,
  • Cadwch eich llygad ar agor am linellau, arwyddion, hysbysiadau pan fyddwch yn parcio – byddant yn dangos pa gyfyngiadau sy'n berthnasol,
  • Darllenwch Reolau'r Ffordd Fawr a fydd o gymorth i chi ddeall beth yw ystyr yr arwyddion a'r llinellau,
  • Rhowch y gorau i barcio'ch cerbyd mewn modd sy'n groes i'r rheoliadau. Efallai i chi wneud hynny yn y gorffennol ond bydd y cyfyngiadau yn cael eu gorfodi'n fwy effeithiol dan y drefn newydd
  • Peidiwch â pharcio mewn mannau sydd â llinellau melyn sy'n cyfyngu ar aros a llwytho,
  • Peidiwch â pharcio ar linellau melyn dwbl,
  • Peidiwch â pharcio ar linellau igam ogam,
  • Peidiwch â pharcio mewn cilfachau llwytho oni bai eich bod yn llwytho/dadlwytho nwyddau,
  • Peidiwch â pharcio mewn cilfachau sydd wedi'i neilltuo ar gyfer deiliaid bathodyn person anabl neu ddosbarthiadau penodol o gerbydau oni bai bod gennych yr hawl i wneud hynny,
  • Mewn maes parcio, gwnewch yn siwr eich bod yn talu am docyn ac yn ei arddangos.

Faint fydd cost yr Hysbysiad Talu Cosb?

Bydd y drefn o roi Hysbysiadau Talu Cosb yn cael ei weithredu ar ddwy lefel – lefel is a lefel uwch. Bydd y troseddau mwyaf difrifol megis parcio ar linellau melyn neu barcio mewn cilfach i'r anabl heb arddangos bathodyn glas dilys yn destun Hysbysiad Talu Cosb ar lefel uwch. Y gosb am drosedd lefel uwch fydd £70 a £50 fydd y gosb am drosedd lefel is. Rhoddir gostyngiad o 50% os telir y gosb o fewn 14 diwrnod ond mae'n bosibl y ceir cynnydd o 50% os na thelir y gosb o fewn 28 diwrnod.

Sut fedraf dalu'r Hysbysiad Talu Cosb?

Gweler Sut mae talu Hysbysiad Talu Cosb am wybodaeth ynglŷn â thalu'r gosb.

Sut fedraf herio Hysbysiad Talu Cosb?

Gweler Sut mae herio Hysbysiad Talu Cosb am wybodaeth ynglŷn â herio Hysbysiad Talu Cosb.

Beth fydd yn digwydd os anwybyddaf yr Hysbysiad Talu Cosb?

Hyd yn oed os byddwch yn penderfynu anwybyddu'r Hysbysiad Talu Cosb, ni fydd yr Hysbysiad Talu Cosb yn diflannu. Bydd y gosb yn cynyddu os na chaiff ei thalu neu os na fyddwch yn ei herio. Os bydd rhagor o oedi wedyn, mae'n bosibl y bydd y beilïaid yn cymryd camau a bydd eu costau nhw yn ychwanegu at y ddyled sifil.

A gaiff y cerbydau eu clampio neu eu symud oddi yno?

Yn unol â chanllawiau'r llywodraeth, nid yw Cyngor Sir Ceredigion yn bwriadu cyflwyno trefn clampio cerbydau na symud cerbydau. Mae'r Cyngor o'r farn ar hyn o bryd na fyddai angen gwneud hyn i reoli'r troeon hynny pan fyddai pobl yn mynd yn groes i'r rheoliadau. Serch hynny, mae'r cais i Lywodraeth Cymru am drosglwyddo pwerau yn gofyn am bwerau i gyflwyno trefn ar gyfer clampio / symud cerbydau pe byddai'r Cyngor yn cytuno bod angen gwneud hyn a bod cymryd mesurau gorfodi yn erbyn pobl dro ar ôl tro yn broblem.

Ai ymdrech i godi arian yw hon?

Pwrpas yr Hysbysiadau Talu Cosb yw annog pobl i gydymffurfio â'r cyfyngiadau parcio. Nid codi arian yw'r nod. Caiff yr holl arian a godir ei gadw gan y Cyngor a'i ddefnyddio i ariannu gwelliannau i'r gwasanaeth parcio, y priffyrdd neu'r drafnidiaeth.

Sut fedraf osgoi Hysbysiad Talu Cosb?

Dyma rai cynghorion ynglŷn â pharcio'n gyfrifol:

  • Peidiwch â pharcio ar linellau melyn dwbl, oni bai eich bod yn codi / gollwng teithwyr, neu'n llwytho / dadlwytho. Bydd y Swyddogion Gorfodi Sifil yn gwylio cerbydau i sicrhau mai dyna sy'n digwydd.
  • Peidiwch â pharcio ar linellau melyn sengl yn ystod oriau cyfyngedig oni bai eich bod yn llwytho/dadlwytho neu'n codi/gollwng teithwyr. Fe ddylai fod yna arwydd gerllaw sy'n dweud wrthych pryd y mae'r cyfyngiadau hyn yn weithredol.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn parcio yn union o fewn marciau'r man parcio.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn Talu ac yn Arddangos yn y mannau lle mae gofyn gwneud hynny. Gwnewch yn siwr bod eich tocyn i'w weld yn eich cerbyd.
  • Peidiwch ag aros mewn man parcio Talu ac Arddangos am fwy o amser na'r hyn a ganiateir.
  • Peidiwch â pharcio ar linellau igam-ogam y tu allan i ysgolion neu ar safleoedd bysiau.
  • Peidiwch â pharcio mewn cilfachau sydd wedi'u neilltuo (megis y rheini sydd wedi'u neilltuo ar gyfer deiliaid y Bathodyn Glas) heb gerdyn dilys.
  • Peidiwch â pharcio ar draws cyrbau isel.
  • Dim parcio dwbl h.y. parcio mwy na 50cm o'r cwrbyn.
  • Peidiwch â pharcio ar y palmentydd/troedffyrdd.

Os nad ydych yn siŵr, darllenwch yr arwydd sy'n arddangos y rheoliadau parcio ar gyfer yr ardal dan sylw.