Gwybodaeth ynghylch Taliadau Meysydd Parcio

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn darparu a chynnal a chadw mwy nag 20 o feysydd parcio ar draws Ceredigion. Mae cyfleusterau parcio a weithredir gan y Cyngor yn y mwyafrif o brif drefi Ceredigion, gyda mwy na 2000 o lefydd parcio ar gyfer ceir, faniau, beiciau modur, cerbydau nwyddau trwm, trelars a charafanau ar draws y Sir.

Meysydd Parcio - Ffioedd a Chostau

Meysydd Parcio

Cliciwch yma i ddefnyddio'r Offer mapio rhyngweithiol i leoli meysydd parcio yng Ngheredigion.

Caiff cerbydau eu parcio yn hollol ar risg y perchennog. Nid yw'r Cyngor yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod i gerbydau neu gynnwys, sut bynnag y cafodd ei achosi.

Bathodynnau Glas

Am wybodaeth ar Barcio i'r Anabl gwelwch ein Tudalen ar y Bathodyn Glas.

A fyddech cystal â nodi taw dim ond deiliaid Bathodyn Glas mewn cerbydau sydd wedi eu heithrio rhag talu treth ac sy'n arddangos eu bathodyn glas all barcio am ddim mewn meysydd parcio Talu ac Arddangos Ceredigion.

Tocynnau Tymor Meysydd Parcio

Am wybodaeth ar Docynnau Tymor Meysydd Parcio gwelwch ein Tudalen: Tocynnau Tymor Meysydd Parcio