Beth yw Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC)?

Mae Tystysgrif Perfformiad Ynni’n cynnwys gwybodaeth am eiddo a pha mor effeithlon yw’r eiddo o ran defnyddio ynni.

Mae’r Dystysgrif yn darparu gwybodaeth bwysig

  • Pa mor effeithlon yw eiddo o ran ynni ar raddfa o A – G (A yw’r mwyaf effeithlon a G yw’r lleiaf effeithlon)
  • Effaith eiddo ar yr amgylchedd
  • Mae hefyd yn argymell ffyrdd costeffeithiol o arbed ynni

O weithredu ar sail y wybodaeth hon, byddwch yn defnyddio llai o ynni a bydd eich biliau ynni’n llai. Gall hyn, yn ei dro, leihau’r allyriadau carbon hefyd.

Pryd mae’n rhaid cael Tystysgrif Perfformiad Ynni?

Rhaid i landlordiaid ddarparu Tystysgrif o’r fath i ddarpar denantiaid y tro cyntaf y mae’r eiddo’n cael ei osod (ers mis Hydref 2008). Mae’r Dystysgrif yn ddilys am ddeng mlynedd. Dylai pob tenant sy’n symud i’r eiddo ar ôl hynny gael copi o’r Dystysgrif. Os oes newidiadau sylweddol wedi’u gwneud i’r eiddo, a’r rheini’n newidiadau sy’n effeithio ar y Dystysgrif, gall y landlord benderfynu comisiynu Tystysgrif newydd, ond nid oes rhaid iddo wneud hynny.

Rhaid i’r Dystysgrif Perfformiad Ynni fod yn Dystysgrif Band E neu’n uwch. Os mai Band F neu G sydd ar dystysgrif yr eiddo, nid oes hawl gan y landlord i’w osod ar rent i chi, oni bai ei fod wedi’i gofrestru fel eithriad.

Pam fod Tystysgrif Perfformiad Ynni yn bwysig?

Defnyddir yr un fethodoleg i baratoi pob Tystysgrif Perfformiad Ynni ar gyfer cartrefi sydd eisoes wedi’u hadeiladu. O’r herwydd, gall perchenogion a phreswylwyr gymharu effeithlonrwydd ynni gwahanol gartrefi – yn yr un modd ag y maen nhw’n cymharu faint o danwydd mae gwahanol geir yn ei ddefnyddio.

Mae un rhan o’r Dystysgrif ar ffurf adroddiad sy’n cynnwys argymhellion. Mae’n rhestru’r sgôr y gallai eich cartref ei chael pe baech yn gwneud newidiadau. Gallwch ddefnyddio’r wybodaeth hon:

  • I leihau biliau tanwydd
  • I wella perfformiad eich cartref o ran ynni
  • I helpu i leihau allyriadau carbon

Pa wybodaeth sydd ar gael ar y Dystysgrif Perfformiad Ynni?

Mae’r Dystysgrif yn cynnwys nifer o adrannau pwysig (gweler y ffeil PDF enghreifftiol yn yr adran Lawrlwytho):

Yr Ynni a ddefnyddir

Mae’r adran hon yn rhoi amcan o’r ynni a ddefnyddir, yr allyriadau carbon deuocsid (CO2) a’r costau tanwydd dros dair blynedd. I sicrhau bod modd cymharu gwahanol eiddo, caiff y ffigurau’u cyfrifo gan ddefnyddio costau rhedeg safonol, fel cyfnodau gwresogi, cyfradd feddiannaeth, tymheredd ystafelloedd ac ati. Am y rheswm hwn, nid yw’n debygol y bydd y ffigurau’n cyfateb yn union i filiau tanwydd ac allyriadau carbon y sawl sy’n byw yn yr eiddo.

Nid yw’r ffigurau hyn yn ystyried y tanwydd a ddefnyddir i goginio nac i gynnal peiriannau fel oergelloedd neu setiau teledu. Nid ydynt chwaith yn ystyried y costau sy’n gysylltiedig â thrin systemau a pheiriannau, eu cynnal a’u cadw, na chyflawni arolygiadau diogelwch. Un peth pwysig i’w gofio yw bod y costau’n adlewyrchu’r costau ar yr adeg y cafodd y Dystysgrif ei pharatoi. Felly, mae’n bwysig cael cipolwg ar ddyddiad y Dystysgrif gan fod prisiau tanwydd yn newid dros gyfnod a chan fod argymhellion am ffyrdd o arbed ynni hefyd yn newid.

Sgôr Effeithlonrwydd Ynni

Byddwch yn gyfarwydd â gweld y siart hon sy’n dangos pa mor effeithlon yw cynnyrch, peiriant, neu adeilad, yn yr achos hwn, o ran ynni. Mae’n rhoi cipolwg ar ba mor dda yw perfformiad yr eiddo heddiw o ran effeithlonrwydd ynni ac ôl troed carbon a pha mor dda y gallai ei berfformiad fod pe bai’r argymhellion a geir yn y Dystysgrif yn cael eu rhoi ar waith.

Po uchaf yw’r sgôr (A yw’r uchaf), po isaf mae’ch biliau tanwydd yn debygol o fod. Mae annedd gyffredin yng Nghymru ym Mand D. (Sgôr o 60)

Mesurau arfaethedig

Nodir y tri phrif argymhelliad ar y dudalen flaen, ac yn y tabl mwy ar dudalen 3. Mae’r holl gamau a nodir yn yr adran hon yn gosteffeithiol, h.y. dros gyfnod byddant yn sicrhau mwy o arbedion na chost y mesurau. Mae’r argymhellion hyn yn benodol i’r eiddo ac fe nodir cost fras pob cam, ynghyd â’r swm y gallech ddisgwyl ei arbed bob blwyddyn. Mae’r arbedion a’r wybodaeth sgorio’n cael eu mesur yn gronnus, h.y. gan dybio y bydd y gwelliannau’n cael eu cyflwyno yn nhrefn y tabl. Mae’n debygol y bydd modd ariannu’r mesurau â thic gwyrdd wrth eu hymyl yn llwyr o dan ‘Fargen Werdd’ newydd y Llywodraeth.

Crynodeb o nodweddion yr eiddo sy’n gysylltiedig â’i berfformiad ynni

Mae’r adran hon yn asesu elfennau pwysig sy’n effeithio ar ba mor effeithlon yw’r eiddo o ran ynni. Gellir cael sgôr o hyd at bum seren. Mae pum seren yn dangos bod elfen mor effeithlon ag y gall fod. Mae’r disgrifiadau’n seiliedig ar ddata a gasglwyd ynghylch elfennau thermol a gwresogi penodol yr eiddo.

Nid yw’r asesiad yn ystyried cyflwr ffisegol unrhyw elfen. Mae rhai elfennau nad oes modd eu harchwilio (oherwydd nad yw’n archwiliad ymwthiol) a rhoddir label wrth eu hymyl i ddweud mai dyna’r sgôr ‘dybiedig’.

Effaith yr adeilad ar yr amgylchedd

Yn yr un modd ag y mae’r siart sgôr effeithlonrwydd ynni’n dangos y sgoriau cyfredol a’r sgoriau posibl (ar ôl gwneud gwelliannau), mae’r siart effaith amgylcheddol yn dangos yr effaith gyfredol (ar sail allyriadau CO2) a’r effaith a ragwelir os caiff yr argymhellion eu rhoi ar waith. Mae’r siart hon hefyd yn seiliedig ar raddfa o A – G. A yw’r sgôr orau sy’n effeithio leiaf ar yr amgylchedd.

Yr hyn y gallwch chi ei wneud

Gwnewch yn siŵr fod gan eich eiddo Dystysgrif Perfformiad Ynni. Dylai’r landlord roi copi i chi, ond gallwch hefyd ddod o hyd i’r wybodaeth ar y Gofrestr Tystysgrifau Perfformiad Ynni .

Os mai Band F neu G sydd wedi’i nodi ar y Dystysgrif Perffomriad Ynni, gwnewch yn siwr fod yr eiddo wedi’i gofrestru ar Gofrestr Eithriadau’r Sector Rhentu Preifat

Yr hyn y mae’n rhaid i’ch landlord wneud

Rhaid i’r landlordiaid sicrhau bod ganddynt Dystysgrif Perfformiad Ynni ar gyfer yr eiddo, neu gallent wynebu dirwy.

Rhaid iddynt sicrhau bod ganddynt Dystysgrif Band E neu’n uwch, oni bai eu bod wedi cofrestru eithriad.