Mae gan denantiaid gyfrifoldebau pan fyddant yn ymrwymo i gytundeb tenantiaeth ac yn symud i eiddo.  Os byddwch chi’n esgeuluso’r cyfrifoldebau hynny, fe allech chi gael eich troi allan o’ch cartref. Isod nodir rhai o’ch cyfrifoldebau chi fel tenant.

Rhent - Fe ddylech chi dalu’ch rhent yn gyson ac yn brydlon. Os na fyddwch chi’n talu’r rhent, efallai y bydd y landlord yn ceisio’ch troi allan cyn i’ch cytundeb tenantiaeth ddod i ben.  Os ydych yn cael trafferth i dalu’r rhent, mae'n bosibl y gallwch hawlio budd-daliadau megis Credyd Cynhwysol, neu Lwfans Tai Lleol.

Biliau – Os nad yw biliau, megis biliau trydan, nwy a Threth y Cyngor wedi’u cynnwys yn eich rhent, fe ddylech chi eu talu’n gyson. Os na fyddwch chi’n talu’r biliau’n gyson, efallai y bydd y cyflenwad yn cael ei atal a bydd rhaid i chi dalu i’w ailgysylltu. Os bydd y cyflenwad yn cael ei atal oherwydd nad ydych chi wedi talu’ch biliau, nid y landlord fydd yn gyfrifol am dalu i ailgysylltu’r cyflenwad.

Defnydd o’r eiddo - Rydych chi’n ysgwyddo cyfrifoldeb am ddefnyddio’r eiddo mewn ffordd gyfrifol a gofalu amdano.  Os nad ydych yn gofalu am yr eiddo, gallai’r landlord geisio adennill meddiant o'r eiddo ac efallai y byddwch yn atebol am gost y gwaith atgyweirio.  Dyma rai enghreifftiau sy’n darlunio’r cyfrifoldeb hwn:

  • Lleihau’r risg y bydd pibellau’n torri os byddwch chi’n mynd i ffwrdd yn ystod cyfnod oer, er enghraifft, drwy sicrhau nad ydyn nhw’n rhewi
  • Dadflocio sinc sydd wedi blocio
  • Gwneud yn siŵr nad ydych chi, eich teulu nac unrhyw ymwelwyr yn difrodi’r eiddo mewn unrhyw ffordd (ac eithrio ôl traul arferol)
  • Cael gwared ar sbwriel yn rheolaidd a pheidio â gadael iddo gronni

Os na fyddwch chi’n gofalu am yr eiddo, efallai y bydd modd i’r landlord geisio cymryd meddiant o’r eiddo ac fe allai fod yn rhaid i chi dalu’r gost o’i atgyweirio.

Y Cytundeb Tenantiaeth - Ni ddylech chi dorri unrhyw amod teg yn eich cytundeb tenantiaeth, er enghraifft, is-osod, difrodi neu ddefnydd o’r garej. Os byddwch chi’n torri amodau’r cytundeb, efallai y bydd modd i’r landlord geisio cymryd meddiant o’r eiddo cyn i’ch cytundeb tenantiaeth ddod i ben ac efallai y byddwch chi’n colli’ch blaendal ac yn gorfod talu am unrhyw ddifrod.

Ymddygiad gwrthgymdeithasol - Rhaid i chi ofalu nad ydych chi’n ymddwyn mewn ffordd wrth-gymdeithasol a allai achosi gofid i’ch cymdogion. Rhaid i chi hefyd ofalu bod unrhyw aelodau o’ch teulu neu unrhyw un sy’n ymweld â’ch cartref yn ymddwyn yn briodol. Os na fyddwch chi neu eich ymwelwyr yn ymddwyn mewn ffordd resymol, fe allech chi gael eich troi allan heb fawr o rybudd.

Terfynu tenantiaeth - Mae cyfrifoldeb arnoch chi hefyd i derfynu’r denantiaeth mewn ffordd briodol. Os na fyddwch chi’n terfynu’r denantiaeth mewn ffordd briodol, neu drwy gytuno (yn ysgrifenedig) â’r landlord, efallai y bydd rhaid i chi dalu’r rhent, hyd yn oed os na fyddwch chi’n byw yn yr eiddo mwyach. Darllenwch y wybodaeth am derfynu’ch tenantiaeth.