Mae gan y rhan fwyaf o denantiaid yr hawliau a ganlyn:
- Hawl i fyw yn yr eiddo heb i neb darfu arno
- Hawl i fyw mewn eiddo sy’n ddiogel ac sydd mewn cyflwr da
- Hawl i gael gwybodaeth am ei denantiaeth, gan gynnwys copi o unrhyw gytundeb tenantiaeth, manylion y landlord a chopïau o dystysgrifau megis Tystysgrif Perfformiad Ynni neu Ddiogelwch Nwy
- Hawl bod y landlord wedi’i gofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru a’r landlord neu’r asiant wedi’i drwyddedu gan Rentu Doeth Cymru
- Hawl i gael ei amddiffyn rhag cael ei droi allan yn anghyfreithlon
- Hawl i gael ei flaendal wedi’i ddiogelu o dan gynllun diogelu blaendal a hawl i gael y blaendal yn ôl os bydd wedi cydymffurfio â thelerau’r cytundeb tenantiaeth ac os na fydd wedi difrodi’r eiddo
- Hawl i gael rhybudd cyn i’r rhent newid
- Hawl i beidio â chael ei orfodi i dalu ffioedd anghyfreithlon
Os bydd tenant yn methu â thalu’r rhent neu’n torri unrhyw un arall o delerau’r cytundeb tenantiaeth, gall hyn effeithio ar ei hawliau fel tenant.
P’un a oes cytundeb tenantiaeth ar gael ai peidio, mae gan landlordiaid a thenantiaid hawliau a rhwymedigaethau penodol o dan y ddeddfwriaeth tai. Mae rhai hawliau’n parhau hyd yn oed os yw’r cytundeb tenantiaeth yn dweud fe arall. Er enghraifft, fel rheol, ni ellir nodi mewn cytundeb tenantiaeth fod tenant yn gyfrifol am atgyweirio strwythur yr eiddo.
I gael mwy o wybodaeth, gofynnwch am gyngor cyfreithiol.
Yr hyn y gallwch chi ei wneud
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw swm y rhent a'r dyddiadau y mae’n ddyledus a chadwch at y rhain
- Rhowch wybod yn syth i’ch landlord am unrhyw eitemau sydd angen eu hatgyweirio
- Gwnewch yn siŵr fod eich landlord wedi’i gofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru a bod gan rywun drwydded i reoli'r eiddo.
- Heriwch unrhyw ffioedd anghyfreithlon
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gwybodaeth ynghylch y Cynllun Blaendal a ddefnyddir gan y landlord