Mae Awdurdod Lleol Ceredigion yn cydnabod bod mynychu’r ysgol yn brydlon ac yn rheolaidd yn rhagamod hanfodol ar gyfer cynhwysiant cymdeithasol ac yn hanfodol ar gyfer dysgu effeithiol.

I nifer fach, ond arwyddocaol, o blant, mae’n nodi bod presenoldeb gwael yn yr ysgol yn achos uniongyrchol eu hallgáu cymdeithasol a’u tangyflawniad. Mae’n pryderu hefyd bod plant sydd wedi’u cofrestru mewn ysgol ac sy’n methu mynychu’r ysgol honno yn rheolaidd, yn rhoi eu hunain mewn mwy o risg o droseddu neu o fod yn ddioddefwyr troseddu gan eraill. Mae Awdurdod Lleol Ceredigion o’r farn y dylai plant fynychu’r ysgol yn rheolaidd ac yn brydlon gan mai yn yr ysgol y maent yn dysgu ac maent yn ddiogel yn yr ysgol (mae’r awdurdod lleol yn cydnabod y bydd rhai rhieni* yn dewis cymryd cyfrifoldeb personol dros addysg eu plant, yn hytrach na’u hanfon i’r ysgol (Addysg yn y Cartref).

*(pan gyfeirir at rieni yn y ddogfen hon, dylid cymryd bod hyn yn cynnwys gofalwyr/gwarcheidwaid).

Beth allaf i ei wneud fel rhiant i annog a chynyddu presenoldeb fy mhlentyn?

Dylech ddarganfod am absenoldebau eich plentyn yn rheolaidd, gan sicrhau bod hyn yn cyd-fynd â’ch cofnod chi. Dylech siarad â’ch plentyn yn rheolaidd am yr ysgol a sut y maent yn teimlo amdani. Maent yn fwy tebygol o fynychu os ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu cynorthwyo a bod rhywun yn gwrando ar eu pryderon.

Ffoniwch yr ysgol ar y diwrnod cyntaf pan fyddant yn absennol, er mwyn dweud wrthym pam bod eich plentyn yn absennol, a phryd yr ydych yn disgwyl iddynt ddychwelyd. Gall cadw rhif yr ysgol yn eich ffôn arbed amser i chi. Dylech sicrhau eich bod yn gwybod trefniadau’r ysgol er mwyn rhoi gwybod i chi am absenoldeb.

Dim ond oherwydd salwch go iawn y dylech chi ganiatáu i’ch plentyn aros gartref.

Dylech osgoi mynd ar wyliau yn ystod tymor yr ysgol.

Dylech wybod patrymau’r diwrnod ysgol er mwyn osgoi problemau e.e. a oes ganddyn nhw eu cit AG?

Os bydd gennych chi bryderon, ffoniwch ni – byddwn yn archwilio presenoldeb a byddwn yn gwneud hyn mewn ffordd ddiffwdan.

Dylech ganmol a gwobrwyo presenoldeb da: hyd yn oed llwyddiannau bychain e.e. mynd i mewn yn brydlon, hyd yn oed pan fyddant yn cael eu gwers waethaf yn gyntaf.

Os bydd problem gyda phresenoldeb eich plentyn, dylech siarad yn bwyllog gyda’ch plentyn a gwrando ar yr esboniad. Mae wastad esboniad. Efallai na fyddwch yn hapus, ond roedd wedi bod yn ddigon i beri i’ch plentyn chwarae triwant. Mae’n bwysig canlyn y rheswm dros absenoldeb.

Siaradwch gyda ni i ddatrys problemau. Efallai y byddwn yn gallu eich helpu a’ch cynorthwyo chi a’ch plentyn. Nid ydych ar eich pen eich hun.

Dylech fod yn arbennig o wyliadwrus ac yn gefnogol yn ystod y cyfnod cyn profion a dylech fod yn ymwybodol o ddyddiadau cau er mwyn cyflwyno gwaith cwrs.

Dylech archwilio Llyfr Cyswllt eich plentyn yn rheolaidd am fylchau, yn ogystal â gweithgareddau wedi’u cwblhau.

Helpwch nhw i ddal i fyny gyda gwaith y maent wedi’i golli, nid yw colli diwrnod yn golygu colli gwaith.