Efallai y bydd gofyn i blant sy’n ymwneud ag adloniant megis teledu, ffilm, theatr, modelu, sioeau dawns, pantomeimiau, actio amatur, grwpiau cerddoriaeth a chwaraeon am dâl, boed hynny ar lefel broffesiynol neu ar lefel amatur, gael trwydded berfformio a hebryngwr perfformio.

Diben hyn yw sicrhau na fydd y “gwaith” yn peryglu lles ac addysg y plentyn. Caiff hyn ei reoleiddio dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1993/63 a Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015.

Mae’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â phlant mewn adloniant yn cynnwys plant o’u genedigaeth nes byddant yn cyrraedd oedran gadael ysgol statudol (y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin o’r flwyddyn ysgol pan fydd plentyn yn cyrraedd 16 oed). Gellir sicrhau trwyddedau perfformio plant trwy’r Awdurdod Lleol lle y mae’r plentyn yn byw.

Bydd gofyn sicrhau trwydded Perfformio Plant:

  • I bob plentyn o’u genedigaeth nes diwedd eu haddysg orfodol. Caiff hyn ei ddiffinio fel y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin yn ystod y flwyddyn academaidd pan fyddant yn troi’n 16 oed.
  • Pan godir tâl mewn cysylltiad â’r perfformiad. Bydd hyn yn berthnasol os telir y perfformwyr neu beidio.
  • Pan gynhelir y perfformiad mewn safle trwyddedig neu mewn clwb cofrestredig.
  • Pan gaiff y perfformiad ei recordio er mwyn ei ddarlledu neu ei arddangos (er enghraifft ar y teledu, ar y radio, mewn ffilm, ar y rhyngrwyd ac ati)

Eithriadau

Y rheol Pedwar diwrnod

Ni fydd angen trwydded am fwy nag un diwrnod o berfformio ar gyfer unrhyw blentyn nad ydynt wedi perfformio ar fwy na thri diwrnod yn ystod y chwe mis diwethaf. Unwaith y bydd plentyn wedi perfformio am bedwar diwrnod neu fwy yn ystod cyfnod o chwe mis, bydd gofyn cael trwydded (oni bai bod eithriad arall yn berthnasol). Mae hyn yn cynnwys unrhyw berfformiad, am dâl neu fel arall, os bydd y plentyn wedi cael trwydded am unrhyw rai o’r diwrnodau hynny neu beidio neu eu bod wedi cael eu cynnwys mewn Cymeradwyaeth Corff o Bersonau (gweler isod).

Os bydd angen i’r plentyn fod yn absennol o’r ysgol er mwyn cymryd rhan yn y perfformiad, ni ellir dibynnu ar yr eithriad hwn a bydd gofyn cael trwydded.

Cymeradwyaeth Corff o Bersonau (BOPA)

Mewn rhai achosion, gall trefnydd perfformiad sy’n cynnwys plant wneud cais am BOPA. Mae BOPA yn cynnwys pob plentyn mewn un cymeradwyaeth, yn hytrach na thrwyddedau unigol i bob plentyn. Gall y trefnydd wneud cais am BOPA am berfformiad penodol neu am gyfnod cyfyngedig er mwyn cynnal perfformiadau sy’n cynnwys plant. Mae gan yr awdurdod lleol y disgresiwn i benderfynu a ddylid cyhoeddi BOPA neu beidio.

Ar yr amod na chaiff unrhyw blentyn eu talu, gall unrhyw sefydliad wneud cais am BOPA. Bydd angen i’r sefydliad ddangos sicrwydd i’r awdurdod lleol bod y corff yn meddu ar bolisïau clir, cadarn ac wedi’u hymwreiddio yn dda er mwyn diogelu plant yn ystod ymarferion a pherfformiadau. Dylid gwneud ceisiadau am BOPA i’r awdurdod lleol lle y mae’r perfformiad yn digwydd, a gall yr awdurdod lleol roi eu cymeradwyaeth hyd yn oed os nad yw’r plant sy’n cymryd rhan yn byw yn ei ardal. Gall yr awdurdod bennu amodau sy’n angenrheidiol yn eu barn nhw er mwyn sicrhau lles y plant dan sylw a gallant dynnu cymeradwyaeth yn ôl os na fodlonir y rhain.

Os bydd plentyn yn absennol o’r ysgol, ni ellir dibynnu ar yr eithriad hwn: bydd gofyn cael trwydded.

Perfformiad a drefnir gan Ysgol

Nid yw hyn yn cynnwys ysgolion dawns neu ddrama, y mae’n rhaid iddynt wneud cais am drwyddedau, yn ôl yr angen.

Os na fydd gofyn cael Trwydded Perfformio Plant, rydym yn gofyn i drefnwr y perfformiad/sioe gofrestru’r holl blant sy’n cymryd rhan o hyd. Mae hyn yn caniatáu i ni gadw cofrestr o holl blant Ceredigion sy’n cymryd rhan mewn perfformiad. Hyd yn oed os na fydd gofyn cael trwydded, bydd y rhan fwyaf o’r rheolau a’r rheoliadau yn berthnasol o hyd.

Gwneud cais am drwydded neu eithriad:

Os bydd angen i chi siarad gyda rhywun am Drwyddedu Perfformiadau Plant, cysylltwch â’r Gwasanaethau Ysgolion ar 01545 570881.

Gellir gweld gwybodaeth bellach ar wefan y Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Plant mewn Cyflogaeth ac Adloniant (Saesneg yn unig).