Y Côd Cefn Gwlad
Cofiwch ddilyn y Cod Cefn Gwlad
- Parchwch - Gwarchodwch - Mwynhewch
 - Byddwch yn ddiogel - cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion
 - Gadewch glwydi ac eiddo fel yr ydych chi'n eu cael nhw
 - Gofalwch a diogelwch planhigion ac anifeiliaid, ac ewch â'ch sbwriel gartref
 - Cadwch eich ci dan reolaeth dynn
 - Byddwch yn ystyriol o bobl eraill
 
Diogelwch yn gyntaf!
- Cymerwch ofal mawr ar deithiau'r arfordir
 - Cadwch ar y llwybr ac ymaith oddi wrth ochr y clogwyn
 - Gwnewch yn siŵr eich bod yn barod ar gyfer eich taith gerdded - cynghorir eich bod yn gwisgo dillad sy'n dal dŵr ac esgidiau cadarn
 - Cymerwch ofal ychwanegol pan fydd yn wlyb a/neu yn wyntog
 - Cadwch olwg ar blant a chadwch unrhyw gŵn o dan reolaeth ar bob adeg
 
Mae canllaw cynhwysfawr i’r Cod Cefn Gwlad ar gael ar dudalen Teulu’r Cod Cefn Gwlad Cyfoeth Naturiol Cymru.