Skip to main content

Ceredigion County Council website

Dathlu 15 mlynedd o Llwybr Arfordir Ceredigion

Mae 2023 yn nodi 15 mlynedd ers agoriad swyddogol Llwybr Arfordir Ceredigion.

I ddathlu’r pen-blwydd mae cyfres o gylchdeithiau cerdded wedi cael eu creu ac ar gael ar wefan y Cyngor, a chyhoeddir taith bob wythnos ar ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol hyd nes yr hydref.

Yn ystod Mehefin a Gorffennaf bydd Tîm Llwybrau Cyhoeddus y Cyngor yn arwain cyfres o chwe thaith tywys a fydd yn cynnwys rhannau o Lwybr yr Arfordir.

Bydd y teithiau cerdded hyn yn dechrau mewn gwahanol fannau ar hyd yr arfordir ac yn amrywio o ran eu hyd, eu her, a’r tirwedd, felly dylai fod rhywbeth at ddant pawb. Byddant yn rhad ac am ddim ac nid oes angen archebu lle, dim ond troi lan.

Dywedodd Nigel Nicholas, Swyddog Llwybr Arfordir Cymru: “Rydym yn gwybod fod Llwybr yr Arfordir yn boblogaidd tu hwnt gyda’r rheiny sy’n ymweld â’r sir a’r rheiny sy’n byw yma. Gyda’r cylchdeithiau hyn y gobaith yw lledaenu ei boblogrwydd i mewn i’r tir o’r stribyn arfordirol. Mae cerdded llwybr cylchol yn ei gwneud hi gymaint yn haws o ran logisteg. Parciwch y car neu ddal y bws i’ch man dechrau a cherddwch y gylchdaith i fan lle ddechreuoch chi.

“Drwy gynnig y teithiau cerdded tywys rydym yn gobeithio denu cerddwyr newydd i'r llwybr – efallai’r rheiny sydd heb yr hyder i fwrw mas ar dramp, neu heb gydymaith cerdded, neu’r rhai sydd angen bach o anogaeth i fynd allan ac archwilio’r wlad.”

Yn lansio’r gyfres o deithiau tywys y mae taith gerdded yn ardal y Borth ar 21 Mehefin, gan gychwyn o faes parcio Ynys Las am 6pm. Bydd dau lwybr ar gael – un byr 1-2 filltir sydd wedi ei graddio fel un ‘hawdd’ a thaith hirach, 4-5 milltir ar gyflymder hamddenol.

Bydd angen i’r sawl sydd am gymryd rhan gyrraedd 15 munud cyn i’r daith ddechrau gan wisgo esgidiau cadarn a dillad sy'n addas i'r tywydd a chario dŵr yfed ac unrhyw fwyd fydd ei angen.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod o’r Cabinet dros yr Economi ac Adfywio: “Dyma ffordd wych o weld llefydd pert dirgel sy’n cael eu colli yn fynych wrth ddilyn yr arfordir. Hefyd, cwrdd â phobl newydd sy’n rhannu’r un diddordeb, a gwella llesiant a ffitrwydd, oll yn nwylo diogel ein Harweinwyr Teithiau.”

Gellir gweld disgrifiadau o’r teithiau yn y tabl isod. Dewiswch daith sy’n briodol i’ch iechyd a’ch ffitrwydd.

Lleoliad/Man dechrau

Dyddiad

Amser

Disgrifiad a gradd y Llwybr

Y Borth/Ynys Las

Dechrau: Maes parcio CNC (ffi yn daladwy)

Dydd Mercher

21 Mehefin

18:00

Dewis 1 – 1-2 filltir, hawdd. Arwynebau amrywiol gan gynnwys tywod, porfa, trac a grisiau.

Dewis 2 – 4-5 milltir, hamddenol. Arwynebau amrywiol gan gynnwys tywod, porfa, trac, croesi ffyrdd, croesi rheilffordd, a grisiau.

Aberystwyth

Dechrau:

Y Bandstand

Dydd Sadwrn

1 Gorffennaf

13.00

Dewis 1 – 2.5 milltir sy’n cynnwys Craig Glais, Clwb Golff Aberystwyth a Pharc Natur Penglais. Taith gerdded fer gyda dringfeydd serth ac arwynebau amrywiol.

Dewis 2 – 4 milltir o gylchdaith sy’n cynnwys Craig Glais, Bae Clarach, Coed y Cwm, Clwb Golff Aberystwyth a Pharc Natur Penglais. Golygfeydd godidog dros Fae Ceredigion. Rhai dringfeydd serth ac arwynebau amrywiol gan gynnwys grisiau.

Aberaeron

Dechrau: Pont gerdded Pwll Cam, Harbwr Aberaeron.

Dydd Mercher 5 Gorffennaf

18:00

Dewis 1 – 0.5 - 1 filltir, cylchdaith yn dilyn afon Aeron a dychwelyd ar hyd Llwybr yr Arfordir. Hawdd ond gydag arwyneb anwastad mewn mannau.

Dewis 2 – 5-6 milltir i Lanerchaeron, Aberarth a dychwelyd ar hyd Llwybr yr Arfordir. Cymhedrol gydag amrywiaeth o dirwedd ac arwyneb.

Ceinewydd

Dechrau: Toiledau cyhoeddus wrth yr harbwr.

Dydd Sadwrn 15 Gorffennaf

13:00

Cylchdaith i Gwm Soden a Chwm Tydu ac yn ôl. 7-8 milltir. Cymhedrol ond sawl dringfa serth ac amrywiaeth o dirwedd ac arwyneb. Clogwyni uchel.

Llangrannog

Dechrau: Canolfan yr Urdd.

Dydd Mercher 19 Gorffennaf

18:00

Dewis 1 – Taith gerdded fer. Cylchdaith, neu mewn llinell gyda bws yn ôl. Hawdd.

Dewis 2 – 5-6 milltir, cylchdaith gymhedrol o amgylch Llangrannog gan gynnwys Ynys Lochtyn.

Aberteifi

Dechrau: Maes parcio’r Netpool (talu ac arddangos)

Dydd Sadwrn 29 Gorffennaf

13.00

13 milltir, cylchdaith i’r Ferwig, Mwnt ac yn ôl. Cymhedrol gydag amrywiaeth o arwynebau.

Bydd cerddwyr yn cymryd rhan ar eu cyfrifoldeb eu hunain ac mae’r arweinwyr yn cadw'r hawl i ofyn i unrhyw un adael os ydynt yn teimlo mai dyna’r peth gorau er lles yr unigolyn neu'r grŵp. Rhaid i bawb o dan ddeunaw oed fod yng nghwmni oedolyn. Mae croeso i gŵn ar dennyn ymuno, a disgwylir i berchnogion gasglu unrhyw wastraff a’i roi mewn cwdyn. Gan fod y rhan fwyaf o’r llwybrau yn croesi tir preifat ac amaethyddol, mae'n debygol y byddwch yn dod ar draws da byw ar bob taith gerdded.

I gael rhagor o wybodaeth am ein cyfres Llwybr yr Arfordir, cadwch lygad ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol i weld ein cyfres Teithiau Cerdded Arfordirol wythnosol.

Ffordd newydd o gerdded Llwybr Arfordir Ceredigion – teithiau cylchol hunan tywys Llwybr yr Arfordir

Mae 2023 yn nodi 15 mlynedd o Lwybr Arfordir Ceredigion. Isod mae gyfres o deithiau cerdded cylchol - pob un yn cymryd rhan o Lwybr Arfordir hyfryd ond yn dychwelyd i'ch man cychwyn trwy lwybrau mewndirol. Cyfle i archwilio pentrefi a chymunedau i ffwrdd o'r arfordir. Does dim angen trefnu taith allan ac yn ôl, dau gerbyd neu drafnidiaeth gyhoeddus.

Drwy glicio ar daith, cewch wybodaeth ychwanegol a allai fod yn ddefnyddiol wrth i chi gynllunio eich teithiau. Yn ogystal â rhoi’r pellter mae’n cynnwys proffil y daith fel y gallwch weld unrhyw fan dringo heriol, camfeydd a grisiau y gallech ddod ar eu traws ynghyd â’r math o arwyneb a geir ar y daith. Awgrymir hefyd fannau parcio, cyfleusterau yn yr ardal a gwybodaeth am fysiau. Pa bynnag daith y dewiswch ei cherdded, cofiwch bod esgidiau cadarn yn hanfodol yn ogystal â dillad sy’n addas ar gyfer y tywydd a’ch bod yn cario dŵr yfed gyda chi. Parchwch y tir yr ydych yn ei groesi bob amser a chadwch at y Cod Cefn Gwlad.

Aberteifi - Ferwig
Aberteifi - Ferwig

Cylchdaith Aberteifi - Ferwig - 7 milltir

Gwbert
Gwbert

Cylchdaith Gwbert - 3.5 milltir

Ferwig - Mwnt
Ferwig - Mwnt

Cylchdaith Ferwig - Mwnt - 5.8 milltir

Mwnt
Mwnt

Cylchdaith Mwnt - 4 milltir

Parc Llyn
Parc Llyn

Cylchdaith Parc Llyn - 5 milltir

Llwybr Pen y Clogwyn Aberporth
Llwybr Pen y Clogwyn Aberporth

Llwybr Pen y Clogwyn Aberporth - 1.1 milltir

Tresaith - Penbryn
Tresaith - Penbryn

Cylchdaith Tresaith - Penbryn - 4.8 milltir

Penbryn - Llangrannog
Penbryn - Llangrannog

Cylchdaith Penbryn - Llangrannog - 4.8 milltir

Llangrannog
Llangrannog

Cylchdaith Llangrannog - 4.5 milltir

Cwmtydu
Cwmtydu

Cylchdaith Cwmtydu - 7 milltir

Cwmtydu - Cei Newydd
Cwmtydu - Cei Newydd

Cylchdaith Cwmtydu - Cei Newydd - 8 milltir

Cei Bach
Cei Bach

Cylchdaith Cei Bach - 6.8 milltir

Aberaeron
Aberaeron

Cylchdaith Aberaeron (De) - 4.2 milltir

Aberaeron - Aberarth
Aberaeron - Aberarth

Cylchdaith Aberaeron - Aberarth - 4.5 milltir

Aberarth - Llanon
Aberarth - Llanon

Cylchdaith Aberaeron - Pennant - Llanon - 9.2 milltir

Llanon - Llanrhystud
Llanon - Llanrhystud

Cylchdaith Llanon - Llanrhystud - 6 milltir

Llanrhystud - Llanddeiniol
Llanrhystud - Llanddeiniol

Cylchdaith Llanrhystud - Llanddeiniol - 8 milltir

Llanddeiniol - Blaenplwyf
Llanddeiniol - Blaenplwyf

Cylchdaith Llanddeiniol - Blaenplwyf - 7.8 milltir

Blaenplwyf - Llanfarian
Blaenplwyf - Llanfarian

Cylchdaith Blaenplwyf - Llanfarian - 7 milltir

Tanybwlch
Tanybwlch

Cylchdaith Tanybwlch - 5.8 milltir

Canol Tref Aberystwyth
Canol Tref Aberystwyth

Cylchdaith Canol Tref Aberystwyth - 3.5 milltir

Constitution Hill
Constitution Hill

Cylchdaith Constitution Hill - 3.8 milltir

Clarach - Wallog
Clarach - Wallog

Cylchdaith Clarach - Wallog - 8.8 milltir

Borth
Borth

Cylchdaith Borth - 6.5 milltir

Borth - Tre Taliesin
Borth - Tre Taliesin

Cylchdaith Borth - Tre Taliesin - 9.3 milltir

Tre Taliesin - Furnace
Tre Taliesin - Furnace

Cylchdaith Tre Taliesin - Furnace - 7.6 milltir

Furnace
Furnace

Cylchdaith Furnace - 3.4 milltir